Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Awgrymiadau'n cael eu cynnig ar gyfer ceisiadau grant Abertawe wledig o hyd at £10k

Mae Partneriaeth Datblygu Gwledig Cyngor Abertawe'n cynnig hyd at £10,000 o arian grant i brosiectau blaengar a arweinir gan y gymuned a fyddai'n gwella ardaloedd gwledig y sir.

Three Cliffs Bay view from Penmaen

Three Cliffs Bay view from Penmaen

A gall y rheini sydd â diddordeb ddarganfod sut i gyflwyno ceisiadau da trwy ymuno ag un o ddwy weminar sydd ar gael am ddim y mis hwn.

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wella Busnes a Pherfformiad,  "Mae hwn yn gyfle gwych i'r rheini sydd â syniad y maent am ei roi ar waith ond mae angen rhywfaint o gymorth arnynt i'w ddechrau.  

"Fel arall, gall fod yn gynllun i helpu i gychwyn prosiect er mwyn adfer o COVID-19 yn ein hardaloedd gwledig.

"Rydym yn chwilio am brosiectau sy'n helpu gydag adferiad a chynaladwyedd Abertawe wledig.

"Dyma enghraifft arall i ddangos bod y cyngor yma i Abertawe a'i holl gymunedau. Mae ein hardaloedd gwledig - fel lleoedd i fyw, gweithio, tyfu busnesau a mwynhau amser hamdden ynddynt - yn hanfodol i'r economi leol."

Mae'r cynllun hwn wedi derbyn cyllid gan LEADER, rhan o Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Gweinyddir y grant gan Grŵp Gweithredu Lleol RhDG Abertawe drwy'r cyngor.

Mae'r cyfle ariannu cyfredol wedi'i anelu at geisiadau carlam, gyda grantiau o hyd at £10,000.

Mae'n rhaid i bob prosiect ddarparu arian cyfatebol sy'n talu am 30% o gyfanswm costau'r prosiect a dangos ymrwymiad i gyflawni ymagwedd Un Blaned, cynaladwyedd a chadernid cymunedol.

Gweminar Cyllid Datblygu Gwledig Abertawe: 1 Medi o 5pm i 6pm ac 16 Medi o 5pm i 6.30pm. i gadw lle am ddim, e-bostiwch: rdpLeader@abertawe.gov.uk  

Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe -  https://www.abertawe.gov.uk/RhDG

 

Close Dewis iaith