Toglo gwelededd dewislen symudol

Camau gweithredu cadarnhaol i wella casgliadau gwastraff ac ailgylchu

Mae Cyngor Abertawe'n cymryd camau gweithredu cadarnhaol i wella ei gasgliadau gwastraff ac ailgylchu i breswylwyr.

bin lorry collection crew generic

Oherwydd problemau gweithredol, ni chasglwyd gwastraff rhai aelwydydd ar eu diwrnod casglu.

Er mwyn helpu i oresgyn y problemau hyn, mae'r cyngor yn recriwtio mwy o staff ac yn sicrhau y bydd staff wrth gefn ar gael i lenwi unrhyw fylchau yn y timau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod mwy o staff asiantaeth ac adnoddau eraill ar gael i atgyfnerthu'r gweithlu.

Bydd y mesurau hyn ar waith yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser, os na chesglir eu gwastraff, gofynnir i breswylwyr ei adael wrth ymyl y ffordd gan y bydd y cyngor yn dychwelyd ar y diwrnod gwaith nesaf.

Meddai'r Cyng. Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros y Gymuned, "Bu rhai problemau gweithredol o ran casglu gwastraff yn ddiweddar ac rydym yn deall bod hyn yn achosi problemau i breswylwyr.

"Hoffwn ymddiheuro i chi os na chasglwyd eich gwastraff a thawelu meddyliau ein preswylwyr ein bod yn benderfynol o wella'r gwasanaeth cyn gynted â phosib.

"Rydym yn recriwtio staff newydd i'n tîm gwastraff ac yn bwriadu ategu'r nifer sylweddol o staff ychwanegol drwy gyflwyno mwy byth o adnoddau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i sicrhau y gellir cwblhau'r casgliadau ar y diwrnod dynodedig.

"Efallai na fydd yr adnoddau ychwanegol yn cael eu cyflwyno am rai wythnosau, felly os na chesglir eich biniau, gadewch nhw wrth ymyl y ffordd a byddwn yn gwneud popeth posib i'w casglu drannoeth.

"Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr ac rydym yn ddiolchgar iddynt am eu hamynedd a'u dealltwriaeth dros yr wythnos nesaf."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Mai 2025