Toglo gwelededd dewislen symudol

The World Reimagined yn dod i Abertawe

Mae prosiect addysg gelf ar gyfer y DU gyfan gydag artistiaid sy'n adnabyddus ar draws y byd yn dod i Abertawe i drawsnewid sut rydym yn deall y Gaethfasnach Drawsatlantig a'i heffaith ar bob un ohonom.

world reimagined

Mae The World Reimagined a lansiwyd ym mis Mai 2021 yn brosiect addysg gelf ar gyfer y DU gyfan sy'n gweithio i drawsnewid ein dealltwriaeth o'r Gaethfasnach Drawsatlantig a'i heffaith ar bob un ohonom i'n helpu i wneud cyfiawnder hiliol yn realiti.

  • Bydd dros 1 filiwn o bobl yn ymwneud â llwybrau cerfluniau mewn dinasoedd lle cynhelir y prosiect a fydd yn cynnwys Birmingham, Bryste, Leeds, Llundain ac Abertawe, ac mae rhagor i'w cyhoeddi.
  • Mae'r artistiaid a'r enwogion sy'n cymryd rhan yn cynnwys enwebai Gwobr Turner 2004 ac artist sefydlu The World Reimagined, Yinka Shonibare CBE, yn ogystal â Lina Viktor; Zak Ové; Syr Trevor McDonald; Lakwena Maciver; Maxim (The Prodigy);Nicola Green a Kimathi Donkor.

Bydd Abertawe'n ddinas gynnal ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn lle bydd cymunedau ledled y DU yn cydweithredu ac yn archwilio amrywiaeth o themâu a dylanwadau diwylliannol. Bydd y themâu hyn yn uno cyfranogwyr a chynulleidfaoedd i ddeall ein dylanwadau diwylliannol mewn modd cadarnhaol, a dathlu cyfleoedd y presennol a'r dyfodol i ni i gyd, drwy ddealltwriaeth ddyfnach o hanes a'r hyn sy'n ein cysylltu fel cymunedau.

Meddai Michelle Gayle, cyd-sylfaenydd The World Reimagined,

"Os ydym yn mynd i wneud cyfiawnder hiliol yn realiti i bawb, mae'n rhaid i ni wynebu'n hanes cyffredin gyda dewrder, gonestrwydd, empathi a gras. Os gwnawn ni hynny, gallwn greu dyfodol lle gall pob un ddweud ei fod yn cael ei weld. Dyna fwriad The World Reimagined, ac rydym mor falch o fod yn gweithio gyda phobl a chymunedau Abertawe."

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart,

"Mae Abertawe yn ddinas groesawgar sy'n ffynnu ar amrywiaeth. Rydym yn falch iawn o fod yn bartneriaid â phrosiect The World Reimagined.

"Byddwn yn helpu i greu llawer o gyfleodd i gymunedau, ysgolion, colegau, sefydliadau lleol ac artistiaid fod yn rhan ohono - fel arweinwyr a hwyluswyr, cyfranogwyr, ymarferwyr, cynulleidfaoedd a buddiolwyr.

"Bydd ein gweithgarwch lleol yn cynnwys cydweithio eang i greu llwybr celf unigryw ar draws y ddinas a'i chymunedau. Cadwch lygad ar y wefan - bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn fuan."

I ddysgu mwy am The World Reimagined, ewch i: www.theworldreimagined.org