Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymeradwyaeth ôl-weithredol o waith adeiladu

Os ydych wedi gwneud gwaith heb dderbyn cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu'n gyntaf, yna gallwch wneud cais am gymeradwyaeth ôl-weithredol. Gelwir y broses hon yn rheoleiddio.

Mae hyn yn gymwys i'r holl waith a wnaed ar ôl 11 Tachwedd 1985.

Os nad ydych yn cael cymeradwyaeth, yna efallai y byddwch yn cael problemau'n ailforgeisi neu'n gwerthu'r eiddo. Efallai y bydd problemau iechyd a diogelwch hefyd.  

Sut mae gwneud cais

Dylech ffonio Adran Rheoli Adeiladu Abertawe ar 01792 635636 neu e-bostio rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk. Mae gwybodaeth am sut i wneud taliad ar ein tudalen Ffioedd.  Y ffi fydd y swm safonol am y gwaith yn ogystal ag 50% ychwanegol.

Dylech gyflwyno dau gopi o gynlluniau sy'n dangos y gwaith cyn ac ar ôl gyda manylion adeiladu llawn, ynghyd â ffurflen gais rheoleiddio a'r ffi briodol.

Beth nesaf?

Unwaith y derbynnir eich cais, bydd syrfëwr yn cysylltu â chi i ymweld â'r eiddo a gwirio'r hyn sydd wedi cael ei wneud. Os bydd angen gwaith adfer, bydd hwn yn cael ei nodi ac unwaith y bydd wedi'i gywiro, bydd tystysgrif rheoleiddio'n cael ei rhoi.

Caniatâd cynllunio

Cofiwch, efallai bydd angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer y gwaith a dylech gysylltu â Cynllunio a rheoli adeiladu i dderbyn cyngor.

Close Dewis iaith