Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhifau archebion prynu

Ni allwn eich talu heb rif archeb brynu dilys. Mae'n rhaid i chi gael y rhif hwn gennym ni a'i ddyfynnu yn yr anfoneb rydych yn ei hanfon atom.

Sicrhewch eich bod yn dyfynnu'r rhif PO perthnasol ar gyfer yr archeb benodol honno, ac nad ydych yn dyfynnu hen rifau PO ar gyfer archebion newydd yn anfwriadol. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn eich talu cyn gynted â phosib.

Beth os nad wyf yn derbyn archeb brynu?

Polisi'r cyngor yw bod rhaid gwneud pob cais am nwyddau a gwasanaethau gan ddefnyddio archeb brynu swyddogol. Dylech ofyn am archeb brynu cyn i chi ddarparu unrhyw nwyddau neu wasanaethau i'r cyngor. Os nad ydych wedi gwneud hynny, bydd rhaid i chi gael rhif archeb brynu gan eich cyswllt yn y cyngor ​cyn gynted â phosib.

A oes unrhyw nwyddau a gwasanaethau wedi'u heithrio?

Mae eithriadau fel arfer yn berthnasol i:

  • gyfleustodau
  • telathrebu
  • ad-daliadau cyfradd
  • pryniadau a wnaed â cherdyn prynu

Sut mae rhif yr archeb brynu yn edrych?

Bydd gan rif PO dilys gan y cyngor chwe digid: e.e. 202016.

Beth fydd yn digwydd i fy anfoneb os nad wyf yn dyfynnu rhif PO dilys?

Caiff anfonebau heb rif archeb dilys eu dychwelyd at y cyflenwr, a bydd rhaid iddo gael rhif archeb dilys. Dim ond pan fyddwn yn derbyn anfoneb ddilys (gan ddyfynnu rhif yr archeb brynu) y bydd telerau talu'n cychwyn. Bydd rhif archeb brynu annilys yn arwain at oedi wrth gael eich talu.

Beth yw amodau talu'r cyngor?

Ein hamodau talu safonol yw 30 niwrnod o dderbyn yr anfoneb gywir. 

Beth yw dull talu'r cyngor?

Gwneir pob taliad trwy BACS. Bydd angen i chi nodi'ch manylion banc ar y ffurflen cofrestru cyflenwr ar-lein. Byddwn yn anfon dolen atoch ar ôl i chi gofrestru.

Close Dewis iaith