Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Rol llywodraethwr ysgol

Mae yna tua 22,200 o lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru. Maen nhw'n rhoi o'u hamser, sgiliau ac arbenigedd yn wirfoddol, i helpu eu hysgolion i ddarparu'r addysg gorau posibl i blant.

Mae cyrff llywodraethu yn atebol am gyfeiriad strategol eu hysgolion ac am ansawdd yr addysg a ddarperir.

Fe fyddwch yn darganfod bod sawl math o bobl yn dod yn llywodraethwyr ysgolion. Fel chi, bydd ganddynt reswm penodol dros wasanaethu ar y corff llywodraethu.

Oherwydd y rhesymau gwahanol hyn, mae gan bob corff llywodraeth grwp craidd o lywodraethwyr yn cynnwys:

  • Rhiant lywodraethwyr
  • Athrawon lywodraethwyr
  • Staff lywodraethwyr
  • Llywodraethwyr ALI
  • Y pennaeth (yn gweithredu fel llywodraethwr o'i ddewis/dewis).

Bydd cyrff llywodraethu hefyd yn cynnwys rhai o'r llywodraethwyr canlynol, yn dibynnu ar y math o ysgol:

  • Llywodraethwyr cymunedol
  • Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol
  • Llywodraethwyr cynrychioliadol
  • Llywodraethwyr sefydledig
  • Llywodraethwyr partneriaeth
  • Llywodraethwyr nawdd
  • Disgybl lywodraethwyr cyswllt (ysgolion uwchradd).

Pam dod yn Llywodraethwr?

  • I wneud cyfraniad pwysig i addysg trwy gefnogi cymuned yr ysgol, ei staff a'i disgyblion a chynorthwyo i godi safnoau addysg.
  • I gael cyfleoedd boddhaol a heriol.
  • I helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfredol a dysgu rhai newydd hefyd.
  • I gyfarfod a gweithio gyda phobl newydd.
  • I gael ymwybyddiaeth o'r system addysg.

Mae Llywodraethwyr yn wirfoddolwr sydd:

  • a diddordeb mewn addysg;
  • yn cynrychioli'r rhai sydd a diddordeb allweddol yn yr ysgol;
  • yn rhan o dim sy'n derbyn cyfrifoldeb am bopeth a wna ysgol;
  • ag amser i ymrwymo i gyfarfodydd ac achlysuron eraill;
  • yn fodlon dysgu;
  • yn gallu gweithredu fel ffrind beirniadol sy'n cefnogi'r ysgol ond sydd hefyd yn herio ac yn gofyn cwestiynau am sut y mae'r ysgol yn gweithio a'r safonau y mae'n eu cyflawni;
  • yn gweithredu fel cysylltiad rhwng rhieni, y gymuned leol, yr Awdurdod Lleol a'r ysgol.

Tair rol allweddol y corff llywodraethu

  1. Darparu golwg strategol
  2. Gweithredu fel ffrind beimiadol
  3. Sicrhau atebolrwydd.

Cyfrifoldebau craidd y corff llywodraethu

  • Hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol ac ymddygiad
  • Gosod targedau ar gyfer cyflawniadau disgyblion
  • Sicrhau bod gan pob dysgwr fynediad at gwricwlwm eang a chytbwys
  • Penderfynu ar nodau, polisiau a blaenoriaethau'r ysgol
  • Penderfynu ar gyllideb yr ysgol a'i monitro
  • Staffio - e.e. penodi staff, rheolaeth perfformaid
  • Rhoi gwybodaeth i rieni am yr ysgol
  • Cynhyrchu cynllun gweithredu a monitro cynnydd yn dilyn arolwg gan Estyn
  • Lles a diogelwch y dysgwyr.

Sut y mae llywodraethwr yn cyflawni ei ddyletswydd au?

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Mynychu cyfarfodydd, pwyllgorau ac efallai cymryd rhan mewn gweithgorau bychain o dro i dro
  • Ymweld a'r ysgol
  • Bod yn gysylltiedig gyda maes o waith yr ysgol
  • Cymryd rhan ym mhenderfyniadau'r corff llywodraethu
  • Cadw cyfrinachedd pan fydd angen
  • Derbyn hyfforddiant a datblygiad
  • Bod yn ymwybodol o'r mentrau a'r datblygiadau diweddaraf mewn addysg.

Cymorth a hyfforddiant

Er mwyn i lywodraethwyr gyflawni eu cyfrifoldebau'n effeithiol ac i safon uchel mae angen iddyn nhw dderbyn hyfforddiant priodol.

Mae ymrwymiad i ddatblygiad llywodraethwyr yn agwedd bwysig o fod yn gorff llywodraethu effeithiol ond dydy hyfforddiant ddim yn gorffen yn y cyfnod anwytho. Mae yna nifer o gyrsiau hyfforddi ychwanegol ar gael wedi'u darparu gan yr Awdurdod Lleol, i gynorthwyo pob llywodraethwyr i gael yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i lywodraethu eu hysgolion yn effeithiol.

Mae modd cael gwybodaeth, cymorth a chyngor ychwanegol gan y canlynol:

  • Swyddogion Cefnogi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol / Awdurdod Esgobaeth
  • Cylchlythyrau
  • Dogfennau briffio
  • Digwyddiadau a rhaglenni hyfforddi llywodraethwyr ALI
  • Gwybodaeth anwytho.

Mae cefnogaeth ar gael gan yr ysgolion hefyd i lywodraethwyr newydd, gan y pennaeth, llywodraethwyr profiadol a'r clerc.

Mae enghreifftaiu'n cynnwys:

  • Hyfforddiant anwytho'r ysgol
  • Gwybodaeth a ddarperir gan yr ysgol ee. llawlyfr, cofnodion blaenorol, cynllun gwelliant yr ysgol, cylchlythyrau
  • Dyrannu llywodraethwr fel mentor o'r corff llywodraethu
  • Cyfarfod gyda'r pennaeth a'r cadeirydd
  • Gwybodaeth am y corff llywodraethu - rhestr pwyllorau, calendr cyfarfodydd y corff llywodraethu a'r pwyllgorau, cylch gwaith blwyddyn
  • Hyfforddi a datblygu llywodraethwyr - eitem rheolaidd ar agenda'r corff llywodraethu, archwiliad o'r hyfforddiant y mae'r corff llywodraethu wedi ei dderbyn.

Sut i ddod yn llywodraethwr ysgol

Cysylltwch gyda'ch Awdurdod Lleol am ragor a wybodaeth ynghylch dod yn llywodraethwr ysgol.