Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut mae'r awdurdod yn monitro cydymffurfiaeth gyda Safonau'r Gymraeg

Dull a camau gweithredu.

 

Sut mae'r awdurdod yn monitro cydymffurflaeth gyda Safonau'r Gymraeg
DullCamau gweithreduAmserlenni
Cwynion corfforaetholCofnodir cwynion corfforaethol sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau ac sy'n cynnwys y Gymraeg a / neu sy'n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg gan y tîm cwynion corfforaethol, ar y cyd â chwynion a dderbynnir gan Gomisiynydd y Gymraeg.Yn barhaus ac wedi'u cofnodi yn yr adroddiad blynyddol.
Adran ADNodi gweithleoedd a swyddi lle mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ofyniad hanfodol neu ddymunol (gan ddefnyddio'r Offeryn Asesu a'r Strategaeth a Sgiliau Cymraeg).Wrth i swyddi gael eu hasesu, e.e. oherwydd swyddi gwag.
Cyfarfodydd yr hyrwyddwyrCodir unrhyw bryderon gan adrannau yng nghyfarfodydd yr hyrwyddwyr ar gyfer mynd i'r afael â nhw yn ogystal â phryderon y mae angen i Swyddog y Gymraeg eu rhaeadru i staff. Caiff e-byst sy'n cael eu hanfon at hyrwyddwyr eu hanfon at bob Pennaeth Gwasanaeth hefyd.Cyfarfodydd bob 2-3 mis ac e-bostio'n amlach.
Gwe-dudalennau'r cyngorArchwllio'r holl we-dudalennau cyhoeddusBob chwe mis.
Cyfryngau cymdeithasolMonitro negeseuon Twitter a FacebookParhaus
FfônMonitro mewnol gan Swyddog y Gymraeg a Rheolwyr, e.e. ateb y ffôn yn Gymraeg, Peiriannau ateb gyda negeseuon Cymraeg. Staff derbynfeydd yn siarad Cymraeg.Parhaus
MeddalweddMonitro meddalwedd sy'n cydymffurfio â'r Safonau ar draws adrannau 
CaffaelYstyried y Gymraeg yn y broses dendro. 
Hyfforddiant yn y Gymraeg

Monitro nifer a chanran y staff sydd wedi'i derbyn hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg i safonau penodol ar draws yr awdurdod ac yn unol ag adrannau a chyfarwyddiaethau.

Monitro'r niferoedd sydd wedi cwblhau cyrsiau e-ddysgu Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg.

 
Asesiadau effaith cydraddoldebCynnwys y Gymraeg yn y broses Asesu Effaith Cydraddoldeb i sicrhau bod sylw teg yn cael ei roi i'r iaith mewn perthynas â phrif benderfyniadau'r awdurdod.Pob Sgriniad AEC / adroddiad AEC llawn - parhaus.