Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymunwch â'n hymgyrch i warchod morloi drwy ein gwaharddiad gwirfoddol ar gylchynau hedegog

Mae ymwelwyr â thraethau hardd ar draws Abertawe a phenrhyn Gŵyr yn cael eu hannog i ymuno â gwaharddiad gwirfoddol ar gylchynau hedegog er mwyn gwarchod morloi sy'n byw o amgylch yr arfordir.

gower seal

Mae'r creaduriaid ciwt a chwilfrydig hyn yn byw ar frigiadau creigiog o amgylch Gŵyr, ond mae eu bywydau'n cael eu peryglu gan y cylchynau hedegog sydd wedi'u taflu, a all eu dal o amgylch eu gyddfau.

Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi bod yn gweithio gyda Grŵp Morloi Gŵyr, ysgolion a busnesau lleol ym mhenrhyn Gŵyr i hyrwyddo'r gwaharddiad ar ôl pasio hysbysiad o gynnig sy'n anelu at roi diwedd ar ddefnyddio'r cylchynau mewn unrhyw le ger bywyd gwyllt ar hyd arfordir yr ardal.

Mae busnesau ym mhenrhyn Gŵyr sy'n cynnwys parc carafanau a gwersylla Pitton Cross, parc gwersylla a theithio Kennexstone, Surfside Café, Langland a garej Northway, Llandeilo Ferwallt eisoes wedi rhoi'r gorau i'w gwerthu yn wirfoddol.

Mae Grŵp Morloi Gŵyr yn parhau i ymweld ag ysgolion yn yr ardal i siarad â phobl ifanc am forloi a bywyd morol arall, gan dynnu sylw at sut y gallant gefnogi'r ymdrech.

Meddai Gareth Richards, sylfaenydd Grŵp Morloi Gŵyr ac is-gadeirydd sefydliad UK Seal Alliance, "Does neb yn prynu cylchynau hedegog gyda'r bwriad o achosi poen a dioddefaint i forloi. Ond dyna beth all ddigwydd os yw cylchynau hedegog yn cael eu colli neu eu taflu ar draeth neu ger dyfrffordd.

"Mae morloi yn chwilfrydig ac yn chwareus, ond gall dod o hyd i gylchynau hedegog yn y dŵr fod yn beryglus iawn iddynt, gan ei fod yn hawdd iawn i'w gyddfau gael eu maglu yn y cylchynnau.

Dywedodd na all y creaduriaid ryddhau eu hunain o'r cylchynnau hyn ac wrth iddynt dyfu, mae'r cylchyn yn tynhau, yn cyfyngu ar eu symudiad ac yn aml yn achosi poen, dioddefaint ac, yn y pen draw, marwolaeth.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym yn cefnogi'r hyn y mae Grŵp Morloi Gŵyr yn ei wneud i warchod ein morloi. Rydym mor ffodus bod gennym forloi ar hyd ein traethau yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr.

"Mae'r mwyafrif helaeth o'r miloedd lawer o bobl sy'n ymweld â phenrhyn Gŵyr bob blwyddyn yn parchu'r ardal, y bywyd gwyllt a'r arfordir. Ynghyd â Grŵp Morloi Gŵyr, rydym yn annog ymwelwyr i chwarae eu rhan wrth warchod ein poblogaeth morloi hefyd."

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Mai 2025