Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymunwch â ni ar gyfer Distawrwydd yn y Sgwâr

Bydd Sgwâr y Castell yng nghanol y ddinas yn cynnal dwy funud o ddistawrwydd ddydd Iau nesaf wrth i'r genedl gofio'r aberthau a wnaed gan y lluoedd arfog mewn gwrthdaro ledled y byd.

Remembrance poppies

Bydd prif Senotaff Abertawe ar lan y môr, staff Cyngor Abertawe a llawer o fusnesau, cartrefi a chofebion eraill hefyd yn distewi ar gyfer y digwyddiad coffa blynyddol ar 11 Tachwedd.

Mae Cyngor Abertawe'n trefnu digwyddiad Distawrwydd yn y Sgwâr yng nghanol y ddinas ac yn cefnogi cymunedau a chyn-filwyr mewn digwyddiadau a drefnir gan ganghennau lleol y Lleng Brydeinig Frenhinol.

Bydd Arglwydd Faer Abertawe, y Cyng. Mary Jones, yn bresennol ger Senotaff Abertawe ar 11 Tachwedd, ynghyd â Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cyng. Wendy Lewis ac arweinwyr eraill a fydd yn cynrychioli pobl Abertawe.

Meddai'r Cyng. Jones, "Mae dwy funud o fyfyrio tawel yn symbol o'n diolchgarwch i'r rheini a frwydrodd dros eu gwlad i amddiffyn ein rhyddid, a'r rheini sy'n parhau i wneud hynny.

"Mae'r dwy funud o ddistawrwydd, y bydd Abertawe a gweddill y DU yn ei nodi ar yr un pryd, hefyd yn atgofiad teimladwy o dreftadaeth a rennir o aberth ac ymdrech."

Bydd adeiladau dinesig o gwmpas Abertawe hefyd yn distewi ar 11 Tachwedd am 11am gyda dwy funud o ddistawrwydd cenedlaethol. Bydd Neuadd y Ddinas wedi'i goleuo'n goch y noson honno a nos Sul, 14 Tachwedd, i nodi Sul y Cofio.

Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol, fel bob amser, wedi trefnu'r Gwasanaeth Coffa blynyddol yn Eglwys y Santes Fair ar 14 Tachwedd a bydd y gwesteion gwadd a fydd yn bresennol yn cynnwys y Cynghorwyr Jones a Lewis. Bydd hyn yn ychwanegol at y digwyddiadau cymunedol niferus a drefnir gan gyn-filwyr, eu teuluoedd a'u cefnogwyr mewn cymunedau ar draws Abertawe.

Bydd Gwasanaeth Coffa hefyd yn cael ei gynnal ar 14 Tachwedd am 11am wrth y Senotaff y bydd y Dirprwy Arglwydd Faer, y Cynghorydd Mike Day yn mynd iddo wrth i'r ddinas ymuno â gweddill y DU yn y coffâd blynyddol.

Meddai'r Cyng. Lewis, "Y llynedd, ar anterth y pandemig, gwnaethom ymrwymiad i gyn-filwyr y byddem yn trysori ac yn diogelu cofebion rhyfel o gwmpas Abertawe ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae cyn-filwyr wedi'u cynnal am nifer o flynyddoedd. Hoffem ddweud wrthyn nhw: 'Diolch am eich gwasanaeth, tro Abertawe yw hi nawr.'

Mae pabïau ar werth mewn nifer o leoliadau'r cyngor o gwmpas y ddinas, gan gynnwys mewn nifer o lyfrgelloedd, Neuadd y Ddinas a'r Ganolfan Ddinesig.

 

Close Dewis iaith