Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth ychwanegol gan y cyngor i bobl sy'n cysgu allan

Mae ymdrechion Abertawe i sicrhau bod gan bob person sy'n cysgu allan rywle i gysgu os yw am gael hynny wedi cael hwb arall o gymorth gwerth £370,000.

ty tom jones wallich

Diolch i waith y cyngor ochr yn ochr ag elusennau lleol, gwasanaethau iechyd a chymdeithasau tai, mae nifer y bobl sy'n cysgu allan yn Abertawe wedi bod ar ei lefel isaf erioed yn ystod y pandemig.

Ac er bod heriau sylweddol o'n blaenau, mae'r cyngor wedi addo parhau â'r ymdrech a wnaed i gefnogi pobl sy'n cysgu allan drwy'r pandemig a'u helpu i gadw'n ddiogel ac yn iach.

Meddai'r Cynghorydd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau, fod yr arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig wedi helpu'r cyngor i ddiogelu pobl sy'n cysgu allan yn gynt.

Meddai, "Ein haddewid yw bod gwely i unrhyw un sydd angen un. Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru a gwaith partneriaeth cadarn rhwng elusennau lleol, iechyd, cymdeithasau tai a darparwyr y sector preifat, mae unrhyw un y canfuwyd ei fod yn cysgu allan wedi cael cynnig llety a'r gefnogaeth angenrheidiol i gynnal ei lety, a bydd y gefnogaeth hynny'n parhau.

"Ers dechrau'r pandemig rydym wedi helpu mwy na 400 o bobl ddigartref sengl i adael llety dros dro a naill ai wedi'u cefnogi i ddod o hyd i dai â chymorth neu eu cartref parhaol eu hunain.

"Mae'r £370,000 yn ychwanegol yng nghyllideb y cyngor yn golygu y gallwn gadw pobl yn ddiogel rhag cysgu allan a darparu help i gael gafael ar atebion tai mwy parhaol."

Fel rhan o Strategaeth Digartrefedd y cyngor, mae gwasanaethau wedi'u hehangu yng ngwasanaeth tai â chymorth dros dro Tŷ Tom Jones, a ddarperir ar hyn o bryd gan elusen Y Wallich   ac a gefnogir gan Gymdeithas Tai Pobl a'r cyngor.

Meddai'r Cyng. Lewis, "Mae gwasanaeth arobryn Tŷ Tom Jones wedi bod yn stori lwyddiant wirioneddol dros y flwyddyn ddiwethaf wrth gefnogi pobl sy'n cysgu allan a phobl ddigartref sengl drwy'r pandemig .

"Ein nod yw ei wneud yn rhan o raglen cymorth ailgartrefu cyflym a fydd yn helpu i annog pobl sy'n cysgu allan a phobl ddigartref sengl sy'n anodd eu cyrraedd i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt drwy gynyddu'r gwasanaethau iechyd, cymdeithasol, seicolegol a lles eraill sy'n cael eu cynnig yno.

"Cyn i'r pandemig daro roedd y cyngor eisoes   yn gweithio'n galed i roi diwedd ar gysgu allan. Mae'r cyllid pellach wedi ein galluogi i adeiladu ar lwyddiant yr hyn a gyflawnwyd gyda'n partneriaid, gan arwain at ostyngiad mewn cysgu allan yn Abertawe, i'r isaf a gofnodwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.

"Yn yr amser hwnnw rydym wedi dysgu llawer mwy am sut y gallwn barhau i ddatblygu ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn uniongyrchol.

"Gyda'r cyllid ychwanegol, byddwn yn ceisio gwneud popeth o fewn ein gallu i barhau i atal pobl rhag cysgu allan."

 

Close Dewis iaith