Toglo gwelededd dewislen symudol

Cannoedd o dai cyngor i gael paneli solar i helpu i leihau costau ynni

Bwriedir rhoi paneli solar ar doeon mwy na 1,200 o dai mewn dwsin o gymunedau yn y ddinas i'w helpu i gynhyrchu trydan a lleihau cost eu biliau ynni.

craig cefn park properties bungalows

Clustnodwyd tua £26m ar gyfer y prosiect pedair blynedd a bydd gwaith yn dechrau ar y tai cyngor yr haf hwn.

Bydd y cynllun yn cynnwys gosod paneli solar PV a batris i gynhyrchu a storio ynni ar gyfer pŵer trydan a golau, y gall preswylwyr unigol eu defnyddio yn ôl y galw.

Bydd dros 30 o dai cyngor mewn ardaloedd gwledig nad ydynt yn defnyddio nwy o'r prif gyflenwad hefyd yn elwa o gael gwell deunydd inswleiddio, a byddant yn derbyn pwmp gwres a fydd yn darparu dewis gwresogi carbon isel amgen i osodiadau olew, glo neu nwy petrolewm hylifedig (LPG) sydd eisoes yn bodoli.

Dywedodd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, fod y fenter yn cael ei hariannu gan renti tai cyngor a grantiau gan Lywodraeth Cymru.

Meddai, "Ar adeg pan fo cyllidebau'n dynn a chostau ynni'n cynyddu ac mae galw amlwg am fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, bydd hyn yn helpu teuluoedd nid yn unig yn ystod yr argyfwng costau byw, ond hefyd am flynyddoedd i ddod.

"Bydd y buddsoddiad yn rhan o gam gweithredu ehangach i inswleiddio cartrefi fel rhan o'n rhaglenni cynnal a chadw cynlluniedig blynyddol."

Meddai'r Cyng. Lewis, "Mae'r fenter ddiweddaraf hon yn golygu y bydd 1,245 o dai cyngor yn Abertawe yn cael cymorth pŵer solar o fewn pedair blynedd. Byddant yn helpu i gyfrannu at ein huchelgais o fod yn gyngor sero net erbyn 2030 ac yn ddinas sero net o ran carbon erbyn 2050.

"Drwy ôl-osod tai cyngor presennol â chyfarpar arbed ynni a gwella inswleiddio, byddwn yn helpu teuluoedd ac aelwydydd i leihau eu defnydd o ynni, moderneiddio ein heiddo a rheoli eu biliau.

Disgwylir i waith y prosiect paneli solar ddechrau ar fwy na 330 o dai ym Mharc Sgeti, 232 yn West Cross, 214 yn Waunarlwydd a 102 ym Mhenyrheol.

Mae gwaith uwchraddio hefyd wedi'i glustnodi ar gyfer tai cyngor mewn ardaloedd eraill fel Treforys, Fforest-fach, Craig-cefn-parc, Garnswllt a Chlydach.

Rhagwelir y bydd y rhaglen gwella'n cael ei hehangu yn y dyfodol, yn amodol ar gymorth ariannol pellach gan Lywodraeth Cymru.