Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2024 mewn Cydweithrediad â Freedom Leisure
Mae'r rhestr fer o'r bobl sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Abertawe, mewn cydweithrediad â Freedom Leisure, wedi cael ei chyhoeddi.

Roedd y panel o feirniaid yn wynebu tasg heriol, gyda dros 100 o enwebiadau wedi'u cyflwyno ar draws y 15 categori.
Cyflwynir y gwobrau, sy'n dathlu athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a thimau Abertawe, yn ystod seremoni arbennig yn Neuadd Brangwyn ar 2 Ebrill 2025.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae'r flwyddyn hon yn un arbennig iawn ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe gan ein bod yn dathlu 25 o flynyddoedd o'r seremoni.
"Mae'r nifer eithriadol o enwebiadau a gyflynwyd yn pwysleisio'r cyfranogiad arbennig mewn chwaraeon yn Abertawe. Mae gan ein dinas hanes o ragoriaeth mewn chwaraeon ar bob lefel, o chwaraeon llawr gwlad i chwaraewyr rhyngwladol.
"Diolch yn fawr i'r holl bobl sydd wedi cael eu henwebu hefyd. Roedd yn galonogol gweld yr holl athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a thimau ar draws amrywiaeth o chwaraeon"
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol:
- Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn a noddir gan ArvatoConnect
- Ben Fox
- Charley Davies
- Kenzi-Lee Vickers
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn a noddir gan John Pye Auctions
- Mary Ellis
- Tracey Williams
- Weixin Liu
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn a noddir gan Chwaraeon Cymru
- Jamie Salter
- Maddison Allen
- Matthew Milum
- Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn
- Daniel Huxtable
- Justin Jones
- Sophie Bevan
- Chwaraewr Iau'r Flwyddyn a noddir gan Tomato Energy
- Caleb Alexander Morrison
- Lewie Jones
- Logan Benbow
- Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn a noddir gan Tomato Energy
- Caitlin Walters
- Olivia Roberts
- Rhiannon Ayelén Heredia Rowe
- Tîm Ysgol y Flwyddyn a noddir gan Goleg Gŵyr Abertawe
- Bishopston Comprehensive Under 13s Boys Football team
- Hendrefoilan Premier Girls Netball Team
- Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn a noddir gan Peter Lynn and Partners
- Judo Swansea Junior Team
- Swansea Cricket Club u17 Team
- West Street Acrobatic Gymnastics Squad
- Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn a noddir gan Day's Motor Group
- Celtic Tri
- Swansea Harriers
- Ynystawe Cricket Club
- Gwobr Annog Abertawe Actif
- Community Fit Jacks- Swansea City AFC Foundation
- Frenz Pickleball
- Gemma Pugh Fiercely Fit
- Chwaraewr Iau'r Flwyddyn ag Anabledd a noddir gan Stowe Family Law
- Caleb Alexander Morrison
- Sienna Allen-Chaplin
- Zac Thomas
- Chwaraewr y Flwyddyn ag Anabledd a noddir gan Spartan Scaffolding Solutions
- Benjamin Pritchard
- Caleb Alexander Morrison
- David Smith OBE
- Chwaraewr y Flwyddyn a noddir gan McDonald's
- Benjamin Pritchard
- Ifan Lloyd
- Rachel Rowe
- Cyfraniad Oes i Chwaraeon
- Karen Trussler
- Keith Thomas
- Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig
- Carima Heaven
- Michael Thomas
Meddai Craig Jones o noddwr y digwyddiad, Freedom Leisure, ac un o aelodau'r panel sydd wedi llunio'r rhestr fer: "Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau. Rydym yn edrych ymlaen at y seremoni ac at ddathlu llwyddiannau ein hathletwyr a'n gwirfoddolwyr lleol."
Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi yn ystod y seremoni wobrwyo, 7pm nos Fercher 2 Ebrill 2025 yn Neuadd Brangwyn. Mae tocynnau bellach ar werth yn www.croesobaeabertawe.com/gwobrau-chwaraeon-abertawe