Toglo gwelededd dewislen symudol

Tystysgrifau storio petrolewm

Ceir deddfwriaeth sy'n ymwneud â storio petrol yn ddiogel er mwyn atal tân a ffrwydrad a allai ddigwydd os oes ffynhonnell danio gerllaw.

Bydd angen i chi gyflwyno cais am dystysgrif Storio Petrolewm os ydych yn:

  • weithle sy'n storio petrol lle caiff petrol ei ddosbarthu'n uniongyrchol i danc cerbyd â motor tanio mewnol, h.y. gorsafoedd petrol manwerthol ac anfanwerthol
  • eiddo nad yw'n weithle sy'n storio petrol, er enghraifft mewn cartrefi preifat neu mewn clybiau/cymdeithasau (neu debyg)

Cyhoeddir y tystysgrifau gan yr Awdurdod Gorfodi Petrolewm. Dinas a Sir Abertawe yw'r Awdurdod Gorfodi Petrolewm yn ardal Abertawe. Mae hyn yn rhan o Reoliadau Petrolewm (Cydgrynhoi) 2014.

Tystysgrifau

Mae'r tystysgrifau'n cynnwys gwybodaeth sy'n benodol i'r safle, megis y trefniadau storio, yn ogystal â manylion ynghylch dilysrwydd y dystysgrif a'r amgylchiadau lle mae'n rhaid dweud wrth yr awdurdod gorfodi am unrhyw newidiadau materol a ragnodir.

Dylai eiddo sy'n gwerthu gwirod petrolewm wedi'u hadeiladu a'u cynnal a'u cadw fel bod y cynnyrch yn cael ei ddosbarthu'n ddiogel ac nid yw'n beryglus i'r cyhoedd.  Rydym hefyd yn disgwyl bod eiddo sy'n storio gwirod petrolewm wedi'u cynnal a'u cadw mewn modd diogel a chywir, gyda gweithdrefnau rheoli a gweithredu eglur, ynghyd â staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol.

Ceidwad

Ceidwad yw person sy'n cadw petrol ar eiddo dosbarthu, sy'n gyfrifol am weithredu'r safle'n ddiogel a bydd dan rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod y safle'n cydymffurfio â'r rheoliadau.

Rhaid i'r ceidwad:

  • ddweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petrolewm cyn meddiannu safle ardystiedig
  • sicrhau bod lluniadau wrth raddfa ar gael ar y safle i lunio rhan o'r cynllun argyfwng
  • dweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petrolewm am unrhyw achosion, yn unol â'r canllawiau arfer gorau a dderbynnir yn genedlaethol ar adrodd am achosion, gan gynnwys gollyngiadau, difrod i osodiadau petrol etc
  • dweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petrolewm os gwneir newidiadau materol a ragnodir i'r eiddo ardystiedig
  • parhau i fodloni'r holl ddeddfwriaeth arall sy'n berthnasol i weithrediad diogel y safle e.e. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974, Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 a Rheoliadau Sylweddau Peryglus ac Amgylchedd Ffrwydrol 2002
  • dweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petrolewm os ydyw am roi'r gorau i feddiannu/weithredu.

Newid materol a ragnodir

Mae newid materol a ragnodir i eiddo'n ymwneud â'r newidiadau canlynol:

  • rhoi'r gorau i ddefnyddio un neu fwy o danciau storio petrol
  • symud neu ddadgomisiynu un neu fwy o'r tanciau storio petrol yn barhaol
  • gosod unrhyw danc, gwaith pibellau neu waith pibellau anwedd sy'n ymwneud â storio a dosbarthu petrol
  • gosod unrhyw bwmp petrol, unrhyw bwmp neu beiriant dosbarthu modurol arall mewn lleoliad newydd.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Cais ar-lein ar gyfer trwydded storio petrolewm Cais ar-lein ar gyfer trwydded storio petrolewm

Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Bydd rhaid i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen. 

Ffïoedd

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais. 

Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'u hanfon ynghyd â'r ffurflen.

Mae'r ffioedd yn dibynnu ar swm y petrol a storir.

Ffïoedd ar gyfer trwydded storio petrolewm
Math o drwyddedSwm
Band A dim mwy na 2,500 o litrau £46.00
Band B rhwng 2,500 a 50,000 o litrau£62.00
Band C mwy na 50,000 o litrau   £131.00

 

Caniatâd Dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â Safonau Masnach.

 

Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch Safonau.Masnach@abertawe.gov.uk. Gall ymgeisydd y mae ei drwydded yn cael ei gwrthod apelio i'r Ysgrifennydd Gwladol.

Close Dewis iaith