Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth Diwylliant Abertawe: 2026-2031 - dweud eich dweud

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau a phobl ar draws Abertawe i lunio Strategaeth Diwylliant newydd ar gyfer ein dinas a'n sir.

Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall, er enghraifft, print bras, e-bostiwch cultural.services@abertawe.gov.uk

Bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar bopeth sy'n gwneud Abertawe'n lle gwych i fyw: creadigrwydd, digwyddiadau, chwaraeon, lles, llyfrgelloedd a threftadaeth.

Ein nod yw:

  • Dathlu nodweddion unigryw Abertawe
  • Dod â phobl ynghyd
  • Cefnogi talent a busnesau lleol
  • Sicrhau y gall pawb cymryd rhan, teimlo'n falch ac elwa o ddiwylliant ein dinas

Rydym wedi gwrando ar eich straeon, eich syniadau a'ch gobeithion ar gyfer y dyfodol trwy weithdai, arolygon a sgyrsiau mewn digwyddiadau lleol. Rydym bellach am wirio i ofyn i chi a ydych chi'n teimlo bod crynodeb y strategaeth hon (Word doc, 362 KB) yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i chi - a oes unrhyw beth wedi'i hepgor neu a oes angen rhoi mwy o ystyriaeth i rywbeth? Bydd eich adborth yn ein helpu i sicrhau bod hwn yn iawn a gwybod sut y gallwn gydweithio i wneud diwylliant Abertawe'n gryfach fyth.

Diolch am fod yn rhan o hyn!

Sut i dweud eich dweud

Arlein

Gallwch ymateb i'r arolwg yma.

Dyddiau cau: 5.00pm, Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Tachwedd 2025