Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol

Caiff y strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol ei datblygu gan y cyngor i gydbwyso anghenion cymunedau, yr economi a'r amgylchedd.

Pennir y cyfrifoldeb i ni ddatblygu'r strategaeth hon yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, mae angen i ni ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol (strategaeth leol).  

Bydd y strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol yn ffurfio'r fframwaith lle bydd gan gymunedau fwy o gyfraniad mewn penderfyniadau rheoli perygl lleol. Ar y cyd â'r Strategaeth Llifogydd Genedlaethol (Llywodraeth Cymru) bydd y strategaethau lleol yn annog rheoli perygl yn fwy effeithiol trwy alluogi pobl, cymunedau, busnes a'r sector cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i:

  • sicrhau dealltwriaeth glir o berygl llifogydd ac erydiad, yn genedlaethol ac yn lleol, fel y gellir blaenoriaethu buddsoddiad mewn rheoli perygl yn fwy effeithiol
  • pennu cynlluniau clir a chyson ar gyfer rheoli perygl fel y gall cymunedau a busnesau wneud penderfyniadau gwybodus am reoli'r perygl gweddilliol
  • annog rheoli perygl llifogydd yn flaengar, ystyried anghenion cymunedau a'r amgylchedd
  • ffurfio cysylltiadau rhwng y strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol a chynllunio gofodol lleol
  • sicrhau bod cynlluniau ac ymatebion brys i lifogydd yn effeithiol ac y gall cymunedau ymateb yn briodol i rybuddion llifogydd
  • helpu cymunedau i adfer yn gyflymach ac yn fwy effeithiol ar ôl llifogydd.

Bydd yn gwneud hyn trwy weithredu fel y gronfa dystiolaeth ar gyfer y penderfyniadau a chamau gweithredu angenrheidiol ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Bydd y strategaeth leol a chynlluniau a pholisïau yn y dyfodol yn cael eu datblygu gyda chymunedau i sicrhau dealltwriaeth well o reoli perygl lleol, cynllunio cydlynol a chynaladwyedd. Bydd hefyd yn pwysleisio'r angen i gydbwyso gweithgarwch cenedlaethol a lleol ac arian.

Bydd y strategaeth leol ond yn ymdrin â pherygl llifogydd lleol a ddiffinnir yn y ddeddf fel perygl llifogydd o:

  • ddŵr ffo
  • dŵr daear, a 
  • chyrsiau dŵr cyffredin.

Mae Dinas a Sir Abertawe wedi llunio rhai dogfennau'n unol â gofynion y ddeddfwriaeth:

  1. Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd
  2. Adroddiad Cwmpasu'r Asesiad Amgylcheddol Strategol
  3. Adroddiad Amgylchedd yr Asesiad Amgylcheddol Strategol

Y garreg filltir nesaf i Gyngor Dinas a Sir Abertawe, dan ei ddyletswydd statudol, yw datblygu cynllun rheoli perygl llifogydd erbyn diwedd 2015.

I weld ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol, lawrlwythwch  Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd (PDF) [1MB]

Close Dewis iaith