Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu 2022
1. Cefndir
Cyflwynwyd Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu'r cyngor yn 2005, ac mae hyn wedi darparu fframwaith effeithiol ar gyfer cwblhau gweithgareddau ymgynghori a datblygu a gwella gwasanaethau ar gyfer y gymuned yn barhaus.
Ers cyflwyno'r strategaeth, mae'r cyngor wedi rhoi mwy o bwyslais ar ymgynghori ac ymgysylltu fel egwyddor allweddol wrth ddarparu gwasanaethau. Mae gweithgareddau wedi symud i ffwrdd o ganolbwyntio ar ymgynghori ffurfiol i ddull ymgysylltu cyhoeddus mwy ystyrlon a chynhwysol.
Bu mwy o ffocws ar gydgynhyrchu yn y cyngor, ac os yw'n bosib, mae angen i ni ystyried ymagwedd gydgynhyrchiol wrth ddatblygu'n gwasanaethau.
2. Diben y strategaeth
Diben y strategaeth hon yw sicrhau ymgynghori ac ymgysylltu ystyrlon ac effeithiol â phreswylwyr y ddinas a'r sir a'n sefydliadau partner, fel y gall y cyngor wneud penderfyniadau cytbwys sy'n gwella mynediad at wasanaethau, eu hansawdd a'r modd y cânt eu darparu.
Mae'r strategaeth hon yn darparu fframwaith i'r cyngor i sicrhau y gwrandewir ar ddinasyddion wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae'n darparu arweiniad a chyfarwyddyd ar y canlynol:
- Pryd y dylem ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Lefel yr ymgynghori a'r ymgysylltu sy'n ofynnol
- Yr egwyddorion i'w hystyried wrth ymgynghori ac ymgysylltu
- Y defnydd a wneir o ganlyniadau ymgynghori ac ymgysylltu
Mae sicrhau bod pobl yn cael eu clywed yn bwysig ac felly bydd Tîm Rheoli Corfforaethol y cyngor yn sicrhau bod y strategaeth hon yn cael ei rhoi ar waith yn gywir. Yn benodol, bydd yn sicrhau bod canlyniadau o'r cyfleoedd ymgynghori ac ymgysylltu'n cael eu hystyried yn briodol wrth wneud penderfyniadau allweddol.
Mae'r strategaeth yn cefnogi, (nid yn disodli) prosesau ymgynghori ac ymgysylltu statudol a rheoliadol cyfredol, trefniadau ymgynghori ac ymgysylltu hirsefydlog o fewn meysydd gwasanaeth, a threfniadau partneriaeth presennol. Bydd y broses hon yn parhau, ac yn cyfrannu at (lle bo hynny'n briodol) y fframwaith cyffredinol ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu a amlinellir yn y strategaeth hon.
Mae'r strategaeth yn adeiladu ar safon dda y gweithgarwch ymgynghori ac ymgysylltu sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws yr awdurdod. Rydym yn parhau i wella'n prosesau ymgynghori ac ymgysylltu ac mae gennym nifer o feysydd o arfer da i adeiladu arnynt fel awdurdod.
3. Ymgynghori ac ymgysylltu - beth yw hyn?
Mae ymgynghori ac ymgysylltu yn golygu gwneud y canlynol fel mater o drefn:
- Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, preswylwyr, busnesau, partneriaid a rhanddeiliaid eraill yn ein polisïau a'n gwasanaethau
- Gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud
- Defnyddio'r canlyniadau i ymateb i'w hanghenion
- Eu cynnwys yn y penderfyniadau rydym yn eu gwneud
I fod yn effeithiol, rhaid i ymgynghori ac ymgysylltu fod yn broses gyfathrebu ddwy ffordd rhwng y cyngor a'i bartneriaid a'r cyhoedd (naill ai fel unigolion neu fel cymuned) ar faterion allweddol sy'n effeithio arnynt.
4. Ymgynghori ac ymgysylltu - pam y mae angen gwneud hyn?
Mae ymgynghori ac ymgysylltu'n effeithiol yn dod â buddion sylweddol i'r dinasyddion a'r asiantaethau dan sylw. Mae prif fuddion ymgysylltu â'r gymuned mewn proses ddwy ffordd, ystyrlon yn cynnwys:
Ymddiriedaeth - mae'n adeiladu ymddiriedaeth rhwng pobl.
Cyfle i ddylanwadu - mae'n rhoi cyfleoedd i gymunedau ddylanwadu ar benderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt.
Chwalu rhwystrau - mae'n dileu rhwystrau corfforol, ieithyddol neu gymdeithasol i gymunedau gael mynediad at wybodaeth neu leisio anghenion neu farn.
Dealltwriaeth dinasyddion - mae'n helpu cymunedau i ddeall y gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt a chael rhagor o wybodaeth am rôl y cyngor i weithredu er lles pennaf y cyhoedd.
Boddhad - mae'n cynyddu boddhad â'r gwasanaethau cyhoeddus.
Gwybodaeth am faterion lleol - mae'n caniatáu i ddarparwyr gwasanaeth ddod i ddeall eu cymunedau'n well a bod yn fwy ymwybodol o'u hanghenion.
Darparu gwasanaethau'n well - Gall y cyngor wneud penderfyniadau gwybodus sy'n gwella mynediad at wasanaethau, eu hansawdd, a'r modd y cânt eu darparu.
Mae ymgynghori ac ymgysylltu hefyd yn hanfodol i gefnogi'r cyngor i gyflawni'i werthoedd craidd:
Canolbwyntio ar bobl - Mae angen i ni ganolbwyntio ar anghenion a chanlyniadau cymunedol ac ar wella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Abertawe. Byddwn hefyd yn parchu, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi'n gweithwyr ac yn dangos y safonau uchaf o uniondeb.
Gweithio gyda'n gilydd - Mae angen i ni hybu ymagwedd partneriaeth gyfan, gan weithio ar draws gwasanaethau i fwyafu adnoddau a gwybodaeth ac ymuno ag eraill y tu allan i'r cyngor i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu'n hadnoddau ac yn cael y gorau i'n cymunedau.
Arloesedd - Rydym yn hybu ac yn cefnogi diwylliant o arloesedd. Mae angen i ni feddwl a gweithio'n wahanol i wella'n gallu i gyflawni ac ymdopi â'r heriau ariannol, demograffig a chymdeithasol rydym yn eu hwynebu.
Dyletswydd i ymgynghori
Mae'r gyfraith yn nodi, lle mae disgwyliad dilys y bydd ymgynghori'n digwydd, fod angen i'r Awdurdod Lleol weithredu ar y disgwyliad hwn. Os yw'r cyngor wedi ymgynghori ar rywbeth yn flaenorol, yna byddai disgwyl i ni wneud hynny yn y dyfodol os gwneir unrhyw newidiadau.
Mae ystod o ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori ar faterion sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni ymgynghori â phobl sydd â nodweddion gwarchodedig a all effeithio arnynt mewn rhyw ffordd. Fel rhan o'r Ddeddf Cydraddoldeb mae cynghorau yng Nghymru yn ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. O ran ymgysylltu, mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn datgan bod yn rhaid i ni gynnwys pobl yr ystyrir eu bod yn cynrychioli'r rheini â nodweddion gwarchodedig gwahanol a'r rheini â diddordeb yn y ffordd y mae awdurdod yn cyflawni'i swyddogaethau. Mae gan y cyngor nifer o fforymau ymgysylltu sy'n ein galluogi i ymgysylltu â'r rheini o grwpiau gwarchodedig, megis y Grŵp Cyswllt Anabledd a'r fforwm LHDT.
Dyletswydd economaidd-gymdeithasol
Ar 31 Mawrth 2021, daeth dyletswydd gyfreithiol newydd i rym, sef y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol, a fydd yn effeithio ar y ffordd y mae'r cyngor yn gweithio ac yn cefnogi cymunedau lleol. Y nod yw sicrhau gwell canlyniadau i'r bobl hynny sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae angen i ni sicrhau wrth benderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion sut y gallai ein penderfyniadau helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae ymgynghori ac ymgysylltu yn chwarae rhan allweddol yn hyn.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn golygu bod yn rhaid i'r cyngor a gwasanaethau cyhoeddus eraill wneud yr hyn a wnawn mewn ffordd gynaliadwy. Mae Ymgynghori ac Ymgysylltu yn allweddol i gyflawni'r Ddeddf hon sy'n gosod dyletswydd lles ar 44 o gyrff cyhoeddus (gan gynnwys Cyngor Abertawe) i gyflawni datblygiad cynaliadwy drwy weithredu yn unol â'r 'egwyddor datblygu cynaliadwy'.
Mae hyn yn golygu ein bod yn ystyried yr effaith ar bobl sy'n byw yn y dyfodol wrth wneud penderfyniadau. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio'r 'Pum Ffordd o Weithio':
Tymor hir - Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr â'r angen i ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd
Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag codi neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion
Integreiddio - Ystyried sut gallai amcanion lles y corff cyhoeddus effeithio ar bob nod lles, ar eu hamcanion neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill
Cydweithio - Cydweithio ag unrhyw berson arall (neu rannau gwahanol o'r corff ei hun) mewn modd a allai helpu'r corff i gyflawni ei amcanion lles
Cyfranogaeth- Pwysigrwydd cynnwys pobl â diddordeb wrth gyflawni'r nodau lles a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae'r corff yn ei gwasanaethu
Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i ddarparu trefniadau ar gyfer cynnwys plant mewn penderfyniadau awdurdodau lleol a allai effeithio arnynt;
Cyfranogiad plant wrth i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau
- Rhaid i awdurdod lleol wneud unrhyw drefniadau y mae'n eu hystyried yn addas i hyrwyddo a hwyluso cyfranogiad plant mewn penderfyniadau gan yr awdurdod a allai effeithio arnynt.
- Rhaid i awdurdod lleol-
(a) gyhoeddi gwybodaeth am ei drefniadau o dan is-adran (1), a
(b) chadw'r wybodaeth a gyhoeddir yn gyfredol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC)
Ni oedd y cyngor cyntaf i ymgorffori CCUHP yn ein Fframwaith Polisi, ac rydym wedi datblygu Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sy'n pennu'n trefniadau i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r ddyletswydd dan sylw. Dywed Erthygl CCUHP12 fod gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, ac i'w barn gael ei hystyried.
Rhwymedigaeth Statudol
Mae nifer o achosion lle gosodir rhwymedigaeth statudol ar y cyngor i gynnal ymgynghoriad. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys cau gwasanaethau fel ysgolion, cartrefi gofal a newidiadau mawr eraill i wasanaethau.
5. Ymgynghori ac ymgysylltu - beth rydym am ei gyflwyno yn Abertawe?
Ein hegwyddorion ar gyfer cyflwyno
Rydym wedi ystyried yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru a Safonau Cenedlaethol Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru.
Cynllunio:
- Bod yn glir ynghylch pam ein bod yn cynnal gweithgarwch ymgynghori ac ymgysylltu
- Sicrhau bod y canlyniadau ymgynghori ac ymgysylltu presennol yn cael eu defnyddio lle bo hynny'n berthnasol
- Meddu ar syniad clir o bwy sydd angen cymryd rhan a phwy sydd am gymryd rhan
- Nodi adnoddau priodol
- Cynnwys Cynrychiolwyr Cydraddoldeb adrannol*
- Sicrhau bod digon o amser yn cael ei glustnodi ar gyfer y broses ymgynghori
- Nodi cyfleoedd ar gyfer gweithio ar y cyd yn y cam cynllunio
- Sicrhau eich bod wedi ystyried gofynion Mesur y Gymraeg i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal
- Sicrhau bod gennych gynlluniau ymgynghori sy'n mynd ati i annog cymaint o bobl â phosib i gymryd rhan
Gweithredu:
- Bod yn glir ynghylch sut y gall pobl gymryd rhan
- Sicrhau bod y dulliau ymgynghori ac ymgysylltu a'r iaith a ddefnyddir yn addas ar gyfer y gynulleidfa
- Darparu gwybodaeth glir am yr hyn rydym yn ymgynghori arno
- Bod yn glir o ran ar gyfer beth y bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio
- Sicrhau bod gan y rhanddeiliaid yr effeithir arnynt gyfle i gymryd rhan
- Hyrwyddo'ch gweithgarwch yn eang i annog cynifer o bobl â phosib i gymryd rhan
Gwneud Penderfyniadau, Adolygu ac Adborth:
- Adolygu'r canlyniadau a phwy sydd wedi cymryd rhan i sicrhau ein bod ni wedi cyrraedd pawb y mae angen i ni eu cyrraedd
- Sicrhau bod canlyniadau gweithgaredd ymgynghori ac ymgysylltu'n cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau
- Rhannu'r canlyniadau (lle bo'n briodol) â chynulleidfa mor eang â phosib
- Rhoi adborth i'r cyfranogwyr e.e. crynodeb o'r canlyniadau
- Hyrwyddo canlyniadau ein gweithgaredd ymgynghori ac ymgysylltu allweddol yn fewnol ac yn allanol
Egwyddorion 'Gunning'
Rhaid i unrhyw ymgynghoriad a wnawn fel cyngor lynu wrth y pedair Egwyddor 'Gunning':
- Dylid ymgynghori ar 'gam ffurfiannol'. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu na ddylai'r penderfyniad fod wedi'i wneud eisoes, - yn fwyaf aml y termau a ddefnyddir yw rhagbenderfynu
- Dylai'r ymgynghoriad gynnwys digon o wybodaeth am y cynigion fel y gall ymgynghorwyr roi ystyriaeth ddeallus i'r mater
- Mae angen darparu digon o amser i ystyried ac ymateb. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod yn rhaid rhoi digon o gyfle i ymgynghoreion gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn yr amser a ganiateir.
- Ystyried ymatebion yr ymgynghoriad. Mae angen i ni allu dangos sut yr ystyriwyd ymatebion yr ymgynghoriad yn ein proses benderfynu.
6. Beth rydym am ymgynghori yn ei gylch?
Penderfynu pryd i gynnal ymgynghoriad
Lle bydd gweithgaredd (e.e. polisi, gweithdrefn gwasanaeth neu benderfyniad posib) yn cael effaith ar aelodau'r cyhoedd, byddwn bob amser yn ystyried ymgymryd ag ymarfer ymgynghori. Weithiau nid oes cyfle gwirioneddol i newid, ac mae'n rhaid gwneud penderfyniadau lle nad yw'n bosib ymgynghori. Ar yr achlysuron hyn, dylem geisio rhoi gwybod i bobl pam mae hyn wedi digwydd.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn mynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghydraddoldebau ac yn amddiffyn pob unigolyn rhag triniaeth annheg. Mae gan y cyngor nifer o ddyletswyddau statudol sy'n deillio o'r Ddeddf i hyrwyddo cydraddoldeb yn well yn ein prosesau cynllunio busnes a gwneud penderfyniadau. Mae'r dyletswyddau'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor ystyried sut mae'r penderfyniadau a wnawn, a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu, yn effeithio ar bobl o wahanol grwpiau cydraddoldeb sy'n rhannu 'nodweddion gwarchodedig'.
Y ffordd allweddol y mae'r cyngor yn dangos ei fod yn cydymffurfio â hyn yw drwy cynnal Asesiadau Effaith Integredig (AEI). Dyma broses a arweinir gan dystiolaeth sy'n cynnwys defnyddio gwybodaeth berthnasol i ddeall a gwneud dyfarniadau ynghylch effaith 'gweithgaredd' y cyngor o ran cydraddoldeb. Mae gwybodaeth o'n prosiectau ymgynghori yn rhan allweddol o'r dystiolaeth a ddefnyddir mewn AEI. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle mae ein gwasanaethau'n cael eu darparu'n benodol ar gyfer y rheini sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig. Gall ymgynghori â'r grwpiau hyn ein helpu i ddeall yr effaith y bydd y penderfyniad yn ei chael arnynt ac yn galluogi ystyriaeth feddylgar o sut y gellir lleihau unrhyw effaith ganfyddedig.
Diffinnir y nodweddion gwarchodedig yn y Ddeddf Cydraddoldeb. Y nodweddion hyn yw:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Priodas a phartneriaeth sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Hil
- Crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred)
- Rhyw
- Tueddfryd rhywiol
7. Sut rydym yn ymgynghori?
Dulliau sydd ar gael
Mae nifer mawr o wahanol ddulliau ymgynghori ac ymgysylltu ac mae'n bwysig defnyddio'r rhai cywir. Bydd y dulliau a ddefnyddir yn dibynnu ar lawer o ffactorau, megis maint y prosiect, gyda phwy yr ydym yn ymgynghori â hwy, a'r gyllideb sydd ar gael. Mae pecyn cymorth ymgynghori ar gael i staff i'w helpu i hwyluso'r cyfleoedd mwyaf priodol. Mae cyngor ac arweiniad ar gael gan y cydlynydd ymgynghori.
Mae'r dulliau'n cynnwys:
- Arolygon (ar-lein, ar bapur, wyneb yn wyneb, dros y ffôn)
- Cyfarfodydd cyhoeddus / cyfarfodydd ar lein
- Gweithdai
- Grwpiau ffocws
- Arddangosfeydd
- Cyfarfodydd rhanddeiliaid
- Cyfryngau cymdeithasol
Ymgynghori ac Ymgysylltu Digidol
Newidiodd pandemig COVID-19 y ffordd rydym yn ymgysylltu ac yn ymgynghori â'n defnyddwyr gwasanaeth. Mae'r defnydd o Microsoft Teams a Zoom fel dulliau ar gyfer cynnal cyfarfodydd a gweithdai rhithwir wedi sicrhau y gallwn barhau i ymgysylltu'n effeithiol ac mae wedi caniatáu i ni ymgysylltu'n ehangach â'n cymunedau. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn gyson. Gall staff ddod o hyd i gyngor yn y pecyn cymorth ymgynghori.
Sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y gynulleidfa
Bydd gan wahanol gymunedau a rhanddeiliaid wahanol lefelau o wybodaeth a phrofiad o'r gwasanaeth a lefelau gwybodaeth sy'n effeithio ar y ffordd y maent yn ymateb. Efallai na fydd rhai dulliau'n briodol i bawb. Bydd y dull(iau) a ddefnyddiwn yn ystyried hyn. Er enghraifft, efallai na fydd pobl ifanc yn ymateb yn dda i arolwg drwy'r post ond efallai byddant yn fwy parod i ymateb i weithdy neu'r cyfryngau cymdeithasol.
Dylai pawb sydd â diddordeb yn y materion allu cael gafael ar yr wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Byddwn yn sicrhau bod ymgynghoriadau'n darparu cyfeiriad clir ar sut i ofyn am fformatau amgen fel print bras, fformatau testun yn unig, fersiynau hawdd eu darllen etc. Mae hygyrchedd y lleoliad hefyd yn bwysig. Byddwn yn sicrhau bod gofynion pobl ag anableddau'n cael eu hystyried a bod addasiadau ar waith.
Darparu'r wybodaeth gywir
Er mwyn i'r ymgynghoriad fod yn ystyrlon, mae'n bwysig bod gan 'ymgynghorwyr' ddigon o wybodaeth i ymateb yn wybodus. Ein nod yw cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy'n briodol i randdeiliaid a'r rheini sy'n debygol o fod â diddordeb yn y pwnc.
Bydd ein hymgynghoriadau'n nodi'n glir:
- Ddyddiadau'r ymgynghoriad
- Y ffyrdd y gall pobl gymryd rhan
- Cwmpas yr ymgynghoriad
- Y gwahanol opsiynau sydd ar gael gan gynnwys manteision ac anfanteision pob un
- Sut a phryd y gwneir penderfyniadau a sut bydd yr ymgynghoriad yn llywio'r penderfyniad
Hyd yr ymgynghoriad
Bydd angen rhoi amser priodol i bobl gyflwyno'u hymatebion. Oni bai fod hyd yr ymgynghoriad wedi'i bennu yn ôl y gyfraith, gall yr ymgynghoriad fod yn unrhyw gyfnod o amser. Gall cyfnodau ymgynghori cyffredin fod yn unrhyw beth rhwng 2 a 12 wythnos gan ddibynnu ar yr hyn rydych chi'n ymgynghori arno a chymhlethdod y mater/prosiect. Mae'r amser o'r flwyddyn y cynhelir yr ymgynghoriad hefyd yn berthnasol a dylid ymestyn y cyfnod ymgynghori os yw'n rhedeg dros y Nadolig neu wyliau'r haf. Mae hyn yn arbennig o wir os yw'r ymgynghoriad yn cynnwys ysgolion neu leoliadau addysg eraill.
8. Cyfrifoldebau am weithredu
Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am roi'r Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu ar waith yn llwyddiannus. Er mwyn i'r Strategaeth fod yn effeithiol, mae'n rhaid iddi fod yn rhan o ddiwylliant y cyngor ac mae angen ymrwymiad gwirioneddol i ymgysylltu â'r gymuned leol.
Mae gan y canlynol gyfrifoldebau penodol wrth roi'r strategaeth ar waith:
Aelodau Etholedig
Mae aelodau'n chwarae rhan hanfodol ym mhrosesau ymgynghorol y cyngor. Yn benodol, maent yn ffurfio cyswllt rhwng y gymuned a'r cyngor, gan gael dylanwad cadarnhaol ar lefel cyfranogiad y gymuned leol. Dylai rhoi'r strategaeth ar waith wella argaeledd gwybodaeth ymgynghori ar gyfer aelodau etholedig. Mae gan aelodau etholedig rôl bwysig wrth sicrhau bod datblygu polisi yn ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad.
Os ydynt yn cynnal gweithgaredd ymgysylltu sy'n effeithio ar wardiau penodol neu faes portffolio penodol, dylid briffio aelodau ward yn llawn ar gynigion sy'n effeithio ar yr ardaloedd y maent yn eu cynrychioli. Dylid ymdrechu i sicrhau bod aelodau cabinet perthnasol, cadeiryddion ac is-gadeiryddion craffu, cadeiryddion pwyllgorau ac aelodau ward yn ymwybodol o weithgareddau ymgysylltu ac yn cael cyfle i gyfrannu atynt.
Cyfarwyddwyr Corfforaethol
Mae gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol rôl allweddol wrth ddarparu lefel uchel o ymrwymiad i'r strategaeth ymgynghori ac ymgysylltu corfforaethol ac arwain y broses o'i rhoi ar waith yn effeithiol. Mae ganddynt gyfrifoldeb penodol sef sicrhau bod ymgynghori effeithiol yn digwydd yn eu cyfarwyddiaeth a bod canfyddiadau ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i ddylanwadu ar gyfeiriad strategol a bod datblygu polisi yn ystyried ymgynghori.
Penaethiaid Gwasanaeth
Swyddogion y Gyfarwyddiaeth briodol, dan arweiniad pennaeth a chyfarwyddwr eu gwasanaeth, fydd yn gyfrifol am gynnal ymgynghoriad sy'n seiliedig ar wasanaeth penodol. Bydd penaethiaid gwasanaeth yn gyfrifol am sicrhau:
- Bod yr holl staff yn ymwybodol o'r Strategaeth ac yn gweithredu arni
- Bod y gweithgaredd ymgynghori'n cael ei gynllunio gan ddefnyddio'r egwyddorion a amlinellwyd yn y strategaeth hon.