Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe mewn "lle cryf" i ddiogelu ei phobl ifanc

Mae Abertawe mewn "lle cryf" i barhau i wella bywydau plant drwy atal niwed ac ecsbloetiaeth yn eu cartrefi ac mewn mannau eraill lle maent yn treulio amser, yn ôl arbenigwyr.

Guildhall

Mae'r cyngor yn arloesi ymagwedd newydd i Gymru o'r enw Diogelu Cyd-destunol fel bod plant a phobl ifanc yn cael yr help iawn sydd ei angen arnynt gan y bobl iawn, yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn iddynt.

Yn ogystal â chynyddu ei waith ieuenctid gyda phum aelod ychwanegol o staff a chynyddu'r ddarpariaeth clybiau ieuenctid, mae'r cyngor wedi gweithio gydag eraill - er enghraifft yr heddlu a busnesau - i gyrraedd ardaloedd eraill fel parciau, y promenâd, y traeth a lleoedd cymunedol eraill lle mae pobl ifanc yn tueddu i ymgasglu a gwneud y lleoedd hyn yn fwy diogel.

Mae hefyd brosesau ac arferion ar waith yn awr i wrando ar bobl ifanc, preswylwyr a phobl yn y gymuned lle mae pryder am ddiogelwch pobl ifanc er mwyn iddynt weithio gyda'i gilydd i'w wneud yn lle mwy diogel ac yn lle i bawb. 

Mae'r pryderon hyn yn helpu i gyfeirio gwaith panel amlasiantaeth a sefydlwyd y llynedd sydd wedi bod wrthi'n ystyried 50 o atgyfeiriadau ac sydd wedi cymryd ystod o gamau gweithredu, o oleuadau stryd ac arwyddion help i waith ieuenctid allgymorth i hyfforddiant mewn ysgolion a chefnogi grwpiau a busnesau cymunedol i helpu i gadw lleoedd yn ddiogel.

Arweinir yr ymagwedd Diogelu Cyd-destunol hon gan Wasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Abertawe mewn partneriaeth â mwy na 25 o asiantaethau, o'r heddlu ac iechyd i'r trydydd sector a busnesau lleol.

Mae'n ganlyniad i waith a ddechreuodd ddwy flynedd yn ôl pan ddaeth Abertawe'n un o bum safle'n unig ar draws Cymru a Lloegr i wneud cais llwyddiannus i Brifysgol Durham a Phrifysgol Swydd Bedford weithio gyda nhw i ddatblygu ymagwedd Diogelu Cyd-destunol. 

Meddai Dr Rachael Owens, Ymgynghorydd Arfer Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Durham, "O ran newidiadau i arfer, mae Gwasanaethau Plant Abertawe wedi cynyddu eu darpariaeth gwaith ieuenctid. Mae'n golygu ochr yn ochr â newid yr amgylcheddau, fod ymrwymiad i adeiladu perthnasoedd ymddiriedus sy'n cynyddu gwarchodaeth pobl ifanc mewn lleoedd awyr agored, mynd i'r afael â'u hanghenion a'u cefnogi i ddysgu gan ei gilydd.

"Mae hyn oll wedi bod yn bosib gan fod y tîm sy'n arwain Diogelu Cyd-destunol yn Abertawe wedi ymwneud yn galonnog â'r broses.

"Maent wedi cyflawni'r weledigaeth o wneud newidiadau radical i'r strwythur gwasanaethau a'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig er mwyn cynyddu diogelwch pobl ifanc ac maent bellach mewn sefyllfa gref i wreiddio hyn yn eu 'harfer arferol'".

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau Plant, Elliot King, "Mae llawer o waith caled wedi digwydd yn y blynyddoedd diweddar i newid a gwella'r ffordd rydym ni a'n partneriaid yn gweithio ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb ymrwymiad a phroffesiynoldeb ein holl staff a phartneriaid."

Close Dewis iaith