Cyflenwad pŵer Trysorau'r Tip yn dod yn wyrddach gyda phaneli solar
Mae elfen werdd siop boblogaidd Trysorau'r Tip yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet wedi cael hwb ychwanegol gyda phaneli solar i gynhyrchu trydan gwyrdd.

Yn ogystal â dargyfeirio miloedd o eitemau o'r llif gwastraff i'w hailddefnyddio bob blwyddyn, mae to'r siop bellach wedi'i gorchuddio â set o baneli solar a fydd yn cynhyrchu 20,000 KwH o bŵer yn y chwe mis cyntaf ar ôl eu gosod.
Bydd y trydan gwyrdd a gynhyrchir yn helpu i wrthbwyso allyriadau carbon ac yn mynd yn ôl i'r grid i bweru gweithgareddau fel y cludfelt a'r offer didoli a ddefnyddir yn y safle bob dydd.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i fod yn sero net erbyn 2030 ac mae Trysorau'r Tip yn ein helpu i gyrraedd y nod diolch i'w hymdrechion gwych i ailddefnyddio pethau y mae pobl wedi'u taflu - ac yn awr drwy gynhyrchu trydan.
"Gallwch ferwi mwy na 105,000 o degelli gyda 20,000 kwH o drydan, felly'n fras mae hynny'n gyfwerth â phweru un tebotaid o de i bob aelwyd yn Abertawe gydag ynni gwyrdd o Drysorau'r Tip."
Mae'r siop yng nghanolfan ailgylchu'r cyngor yn Llansamlet ac mae hi ar agor saith niwrnod yr wythnos.
Ceir rhagor o wybodaeth yma: https://www.abertawe.gov.uk/trysoraurtip