Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig i orfodi Cerbydau Hacni (tacsis) a cherbydau hurio preifat i gynnig cyfleusterau talu â cherdyn

Gall y cyngor ychwanegu amodau at drwyddedau tacsis a cherbydau hurio preifat os credir bod hynny'n angenrheidiol. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw reolau sy'n gorfodi cerbydau trwyddedig i gynnig cyfleusterau talu â cherdyn, ond mae llawer wedi dewis eu gosod ar eu liwt eu hunain.

Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall, er enghraifft print bras, e-bostiwch: trwyddedutacsis@abertawe.gov.uk

Byddai cyfleusterau talu â cherdyn yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gwsmeriaid dalu, ac ni fyddai'n rhaid iddynt ofyn i yrwyr stopio ger peiriannau arian parod. Mae cynnig opsiynau talu gwahanol hefyd yn helpu i wella diogelwch cwsmeriaid yn Abertawe.

Mae adroddiad sy'n cynnwys rhagor o fanylion am y cynnig hwn ar gael yma.

Sylwer, mewn perthynas ag Adran 3 o'r adroddiad atodedig, byddai'n ofynnol i bob perchennog dderbyn taliadau â cherdyn debyd, cerdyn credyd a cherdyn digyffwrdd. Byddai'r perchnogion hynny sy'n derbyn taliadau arian parod ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny dan y cynigion hyn, ar yr amod eu bod hefyd yn rhoi'r dewis i deithwyr dalu â cherdyn.

Amodau arfaethedig:

  • Bydd y perchennog yn sicrhau y rhoddir y dewis i deithwyr dalu am bob taith drwy gerdyn debyd, cerdyn credyd neu gerdyn digyffwrdd.
  • Bydd y perchennog yn sicrhau bod holl yrwyr y cerbyd wedi'u hyfforddi i ddefnyddio'r system talu â cherdyn a'u bod yn ymwybodol bod yn rhaid cynnig yr opsiwn i deithwyr dalu drwy'r dull hwn.
  • Os nodir bod nam ar y system talu â cherdyn, rhaid i'r perchennog drefnu gwaith atgyweirio/cyfarpar newydd o fewn 48 awr.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am y cynnig hwn drwy gwblhau'r arolwg byr hwn.

Dyddiad cau: 11.59pm, 22 Mehefin 2025

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Mai 2025