Toglo gwelededd dewislen symudol

Talu'ch trethi busnes

Mae sawl ffordd o dalu ardrethi busnes. Debyd Uniongyrchol yw'r ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o dalu.

Talu trwy ddebyd uniongyrchol

Er mwyn sefydlu Debyd Uniongyrchol gallwch lenwi a dychwelyd:  Ffurflen Debyd Uniongyrchol ardrethi busnes (PDF) [109KB]

Hyd yn oed os nad oes gennych fynediad at argraffydd, cysylltwch â ni ac anfonwn ffurflen atoch.

Ein horiau agor yw 8.30am tan 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 8.30am tan 4.30pm ar ddydd Gwener.

Talu ar-lein

Talu ardrethi busnes ar-lein Talu

Er mwyn gwneud taliad ar-lein, bydd angen rhif eich cyfrif trethi busnes arnoch (o'ch bil) yn ogystal â'ch cerdyn debyd.

Taliad ffôn awtomataidd

Ffoniwch ein rhif cyfradd leol - 0300 4562765.

Er mwyn gwneud taliad dros y ffôn, bydd angen rhif eich cyfrif trethi busnes arnoch (o'ch bil) yn ogystal â'ch cerdyn debyd.

Trosglwyddiad banc

Gallwch dalu'ch bil yn uniongyrchol i gyfrif banc y cyngor. Cofiwch ddyfynnu'ch rhif cyfrif neu ni fyddwn yn gallu talu'r arian i'ch cyfrif:

Lloyds Bank PLC, 802 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AF.

Côd didoli: 30-00-00
Rhif y cyfrif: 00283290

Cofiwch ddyfynnu'ch rhif cyfeirnod trethi busnes neu ni fyddwn yn gallu talu'r arian i'ch cyfrif.

Yn bersonol

Gallwch dalu ag arian parod, siec neu gerdyn debyd yn eich swyddfa dai ardal agosaf neu yn y Ganolfan Ddinesig.

Trwy'r post

Anfonwch siec wedi'i gwneud yn daladwy i "Dinas a Sir Abertawe" at y Tîm Trethi Busnes, Adran gwasanaethau ariannol, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN.

Ysgrifennwch eich enw, eich cyfeiriad a rhif eich cyfrif Trethi Busnes ar gefn y siec. Peidiwch ag anfon sieciau wedi'u blaen-ddyddio gan na allwn dderbyn y rhain.

Close Dewis iaith