Toglo gwelededd dewislen symudol

Yr tîm NEET

Mae'r tîm Ôl-16 NEET yn cefnogi pobl ifanc 16-19 oed (gyda rhywfaint o estyniad o gefnogaeth ar gyfer pobl 20-24 oed) Heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) ac sy'n wynebu rhwystrau sylweddol i ailymgysylltu ag Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant.

Gall hyn fod oherwydd materion cymdeithasol, economaidd, lles a/neu iechyd.

Nod ein gwaith yw helpu pobl ifanc i wella'u lles; datblygu dyheadau; trosglwyddo'n llwyddiannus i addysg neu hyfforddiant; a/neu ennill sgiliau cyflogadwyedd a fydd yn eu galluogi i ddechrau a chynnal cyflogaeth.

Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu cymorth pwrpasol a chyfannol i bob person ifanc drwy:

  • gymorth un i un ac eiriolaeth drwy Weithiwr Arweiniol/TLO dynodedig
  • Cymorth cyflogadwyedd a lles drwy sesiynau gwaith grŵp bach
  • Broceru darpariaethau lles, addysg a/neu hyfforddiant allanol.
  • Help gyda chyllid tuag at bethau a fydd yn helpu i leihau rhwystrau i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, fel teithio, offer hanfodol ar gyfer y gweithle, cymwysterau, trwyddedau sy'n gysylltiedig â gwaith etc.
  • Cefnogaeth i ddod o hyd i gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant a chael mynediad iddynt.

Mae swyddfa'r Tîm NEET yn Info Nation (youthaccess.org) (Yn agor ffenestr newydd) (47 Ffordd y Brenin, Abertawe SA1 5HG) - sef y ganolfan sy'n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifanc.

Fodd bynnag, mae gan ein Gweithwyr Arweiniol yr hyblygrwydd i gwrdd â phobl ifanc yn y mannau y maent yn teimlo'n fwyaf cyfforddus ynddynt, a all gynnwys eu cartrefi, llyfrgelloedd lleol, siopau coffi, hybiau ieuenctid etc, er mwyn gweithio gyda nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth y gall y Tîm Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant ei chynnig, e-bostiwch post16neet@abertawe.gov.uk

Mae'r Tîm NEET ar hyn o bryd yn darparu cymorth addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant o dan Raglen Angori Cyflogadwyedd newydd Cyngor Abertawe (yn amodol ar gymeradwyaeth), Llwybrau at Waith dan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. 

"Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025."

Levelling up and funded by UK Gov logos - WEL.