Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae'n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Trawsryweddol ac rydym yn chwifio'r faner Ymwybyddiaeth Trawsryweddol yn Neuadd y Ddinas yn Abertawe i nodi'r achlysur

Yn gynharach yr wythnos hon, ymunon ni â grwpiau cymunedol lleol gan gynnwys Sadie's Butterflies a Fforwm LGBTQ+ Bae Abertawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe i goffáu Dydd y Cofio Trawsryweddol.

transgender flag

Yn gynharach yr wythnos hon, ymunon ni â grwpiau cymunedol lleol gan gynnwys Sadie's Butterflies a Fforwm LGBTQ+ Bae Abertawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe i goffáu Dydd y Cofio Trawsryweddol.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys sgwrs gan Sarah Jones, y person cyntaf i gael ei ordeinio yn Eglwys Lloegr ar ôl newid rhywedd yn flaenorol.

Meddai Louise Gibbard, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Prin iawn fu'r cyfleoedd i'n cymunedau trawsryweddol ac LGBTQ+ ddod ynghyd yn bersonol dros yr 20 mis diwethaf oherwydd pandemig COVID-19.

"Felly roedd yn dda gweld pobl yn dod ynghyd i ailsefydlu rhwydweithiau a chwrdd â ffrindiau newydd.

"Wrth i ni gychwyn ar daith i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol yn Abertawe, mae digwyddiadau fel hyn yn darparu cyfle mawr ei angen i ddod ynghyd i drafod a chysylltu.

"Er bod Dydd y Cofio Trawsryweddol o reidrwydd yn achlysur myfyriol i anrhydeddu a pharchu bywydau a gollwyd, roedd hefyd yn galonogol gan fod sgwrs ysbrydoledig Sarah Jones wedi rhoi llawer i ni feddwl amdano ynghylch cynwysoldeb a chydraddoldeb ac roedd yn wych clywed am y gefnogaeth y mae Sadie's Butterflies yn ei rhoi i'n cymunedau trawsryweddol yn Abertawe."

Close Dewis iaith