Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff - Trefniadau Derbyn 2024 / 2025

Caiff Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff yn Esgobaeth Mynyw, ei chynnal gan Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe.

Sefydlwyd Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff gan yr Eglwys Gatholig i ddarparu addysg i blant o deuluoedd Catholig. Pan fydd mwy o geisiadau na'r lleoedd sydd ar gael, bydd blaenoriaeth bob tro'n cael ei rhoi i blant Catholig yn unol â'r meini prawf gorymgeisio a restrir isod. Gweinyddir yr ysgol gan ei chorff llywodraethu fel rhan o'r Eglwys Gatholig yn unol â'i gweithred ymddiriedolaeth a'i hofferyn llywodraethu, ac mae bob amser yn ceisio tystiolaethu i Iesu Grist.

Fel Ysgol Gatholig ein bwriad yw darparu addysg Gatholig i'n holl ddisgyblion. Mewn Ysgol Gatholig, mae athrawiaeth ac arfer Catholig yn treiddio drwy bob agwedd ar weithgaredd yr ysgol. Mae'n hanfodol bod cymeriad Catholig yr ysgol yn cael ei gefnogi'n llwyr gan holl deuluoedd yr ysgol. Disgwylir felly i bob rhiant ddangos cefnogaeth lawn, agored a chadarnhaol i nodau ac ethos yr ysgol. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhiant nad yw'n dilyn y ffydd i gyflwyno cais am le i'w blentyn yn yr ysgol.

Y corff llywodraethu yw'r awdurdod derbyn, ac mae'n gyfrifol am benderfynu ar dderbyniadau i'r ysgol hon. Yr awdurdod lleol sy'n ymgymryd â chydlynu trefniadau derbyn. Mae'r corff llywodraethu wedi pennu rhif derbyn o 60 o ddisgyblion i ddosbarth Derbyn yr ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf sy'n cychwyn ym mis Medi 2019.

Bydd y corff llywodraethu'n derbyn gefeilliaid a phob brawd a chwaer o'r genedigaethau lluosog os mai un o'r plant yma yw'r 60fed plentyn i gael lle.

Meini prawf gorymgeisio

Os yw nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y meini prawf gorymgeisio canlynol yn cael eu cymhwyso yn y drefn ganlynol:

  1. Pob plentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ar hyn o bryd neu sydd wedi derbyn gofal ganddo.
  2. Plant â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig lle mae'r awdurdod lleol wedi enwi Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff yn y datganiad.
  3. a) Pob plentyn sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig a phlant catecwmenawd sy'n byw yn nalgylch yr ysgol y bydd ganddynt frawd neu chwaer sy'n mynychu'r ysgol pan fyddant yn ymuno - gweler y nodiadau am arweiniad. b) Pob plentyn sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig a phlant catecwmenawd sy'n byw yn nalgylch yr ysgol - gweler y nodiadau am arweiniad.
  4. Pob plentyn sydd wedi'i fedyddio yn yr Eglwys Uniongred Gristnogol ac sy'n byw yn nalgylch yr ysgol - gweler y nodiadau am arweiniad ar gyfer plant Catholig eraill.
  5. Ymgeiswyr y mae ganddynt frodyr a chwiorydd nad ydynt wedi'u bedyddio'n Gatholigion ac sydd ar y gofrestr yn y flwyddyn dderbyn.
  6. Disgyblion Catholig o'r tu allan i'r dalgylch.
  7. Plant o enwadau Cristnogol eraill neu blant o ffydd neu grefyddau eraill sydd am gael addysg o fewn cyd-destun Catholig (gweler y nodiadau).
  8. Plant y mae eu rhieni'n awyddus iddynt gael addysg Gatholig.

Nodiadau

Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd y Corff Llwyodraethol yn derbyn y ddau/tri phlentyn.

'Byw yn' a 'chyfeiriad cartref'

Cyfeiriad y cartref fydd y cyfeiriad a ddefnyddir ar gyfer gohebiaeth sy'n gysylltiedig â lle caiff "Budd-dal Plant" ei dalu. Mewn achosion lle mae amheuaeth ynglŷn â chyfeiriad y cartref neu pan fo plentyn yn byw rhwng dau gartref (teuluoedd hollt) neu amgylchiadau perthnasol eraill, mae'n rhaid darparu prawf o Gyfeiriad y Cartref i'r ysgol er mwyn cadarnhau'r cyfeiriad a ddefnyddir ar y ffurflen gais. Cyfeiriad y cartref fydd y cyfeiriad sy'n cydymffurfio â'r uchod ar ddyddiad cau ceisiadau a bennir gan yr awdurdod lleol. Dylai teuluoedd sy'n bwriadu symud tŷ ddarparu:

  1. llythyr cyfreithiwr sy'n cadarnhau bod contractau wedi'u cyfnewid ynglŷn â phrynu eiddo; neu
  2. copi o'r cytundeb rhentu cyfredol, wedi'i lofnodi gan y tenantiaid a'r landlord, sy'n dangos cyfeiriad yr eiddo; neu
  3. yn achos personél cyfredol Lluoedd EM, llythyr swyddogol yn cadarnhau dyddiad eu lleoli gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad neu Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU.

Rhestr aros

Cynhelir rhestr aros ar gyfer yr ysgol yn achos gorymgeisio. Ar ôl dyrannu lleoedd yn ystod y rownd dderbyn arferol, bydd plant yn aros ar y rhestr aros tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y maent wedi cyflwyno'u cais. Os daw lleoedd ychwanegol ar gael pan fo'r rhestr aros ar waith, cânt eu dyrannu i blant ar y rhestr aros yn ôl y meini prawf gorymgeisio uchod.

Sut y profir ymlyniad crefyddol

Os ydych yn gwneud cais dan feini prawf 3, 4, 6, a 7 cwblhewch y Ffurflen Gais Cyffredin. Diffinnir aelod fel aelod o'r Eglwys yng Nghymru trwy gofrestru ar gofrestr etholiadol y plwyf.

Apeliadau derbyn

Mae addysg feithrin yn ddarpariaeth anstatudol ond nid oes hawl apelio gan rieni o dan Ddeddf Addysg 1980 os nad ydynt yn llwyddiannus yn eu cais am le. Nid yw derbyn plentyn i'r dosbarth meithrin yn sicrhau y caiff ei dderbyn i'r ysgol. Y pennaeth sy'n gyfrifol am benderfynu a ddylid dyrannu lle yn y bore neu'r prynhawn. Ar gyfer plant sydd wedi derbyn lle yn y dosbarth meithrin bydd rhaid cyflwyno cais ar gyfer lle yn y dosbarth Derbyn ar yr adeg briodol.

Ar gyfer rhieni sy'n gwneud cais am le i'w plentyn/plant yn y dosbarth Derbyn neu unrhyw ddosbarth arall nad ydynt yn derbyn cynnig am le yn yr ysgol hon, y rheswm am hyn yw y byddai'r cynnydd mewn niferoedd yn effeithio ar addysg ein disgyblion presennol. Mae gan rieni'r hawl i apelio os nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad y corff llywodraethu i beidio â derbyn plentyn. Os ydych yn dewis defnyddio'r hawl honno, mae'n rhaid i chi gyflwyno'r apêl i glerc llywodraethwyr yr ysgol.

Caiff yr apêl ei hystyried gan Banel Apeliadau Derbyn annibynnol, a weinyddir gan Fwrdd Addysg yr Esgobaeth, yn unol â chôd ymarfer Llywodraeth Cymru ar apeliadau derbyn. Yna bydd y Panel Apeliadau'n cynnal cyfarfod i ystyried yr holl apeliadau gan rieni y gwrthodwyd lle yn yr ysgol i'w plant. Mae'r penderfyniad yn rhwymol i bob parti perthnasol. Os yw plant nad ydynt yn Gatholigion yn cael eu croesawu i'r ysgol, mae disgwyl iddynt gymryd rhan yn llawn ym mywyd ysbrydol a gweddïol yr ysgol.

Os yw nifer y ceisiadau mewn unrhyw gategori unigol yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gan roi blaenoriaeth i'r rhai sy'n byw'n agosaf (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) at yr ysgol. Mesurir y pellter o'r palmant y tu allan i brif fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat), i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Caiff rhaglen mapio cyfrifiadurol awtomatig yr awdurdod lleol (ONE system) ei defnyddio i fesur ac mae'n mesur y pellter o'r cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr byrraf.

Os yw cais am le yn cael ei wrthod, bydd hawl gan rieni'r plentyn hwnnw i gyflwyno apêl i Banel Apeliadau Annibynnol. Bydd y llythyr gwrthod a anfonir atoch yn cynnwys manylion am sut i apelio yn erbyn ein penderfyniad.

Nodiadau arweiniol

Caiff Bedydd Catholig ei wirio drwy weld tystysgrif bedydd y plentyn wedi'i llofnodi gan Offeiriad y Plwyf. Os nad yw hyn ar gael, gofynnir i rieni gyflwyno tystiolaeth e.e. llythyr gan Offeiriad y Plwyf.

Cristnogion Uniongred (Groegaidd, Rwsiaidd, Indiaidd): Mae ganddynt berthynas agosach â'r Eglwys Gatholig trwy eu Hysgrythur a'u Traddodiad nag unrhyw enwadau Cristnogol eraill, sy'n esbonio'u categori uwch a gwirir hyn drwy weld Tystysgrif Bedydd y plentyn wedi'i llofnodi gan yr Offeiriad.

Enwadau Cristnogol eraill neu blant o ffydd neu grefyddau eraill sy'n ceisio addysg o fewn cyd-destun Catholig. Caiff Aelodau o Enwadau Cristnogol eraill (y rheini y cydnabyddir eu defod bedydd gan yr Eglwys Gatholig) neu blant o ffydd neu grefyddau eraill eu gwirio trwy lythyr oddi wrth y clerigwyr, y gweinidog neu'r arweinydd ffydd priodol.

Diffiniad o frawd / chwaer

Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer ar y gofrestr yn Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff yn y mis Medi pan fyddai'r ymgeisydd yn dechrau'r ysgol. Os oes angen, rhoddir y flaenoriaeth uchaf i'r ymgeisydd â'r brawd neu chwaer ieuengaf. (Er enghraifft, mae brawd yn Bl6 gan Mary ac mae chwaer yn Bl1 gan Jane. Os mai un lle sydd ar gael ac os bydd yr holl feini prawf eraill yn gyfartal, cynigir lle i Jane oherwydd bod ei chwaer yn iau.) Dylid nodi perthynas unrhyw frodyr neu chwiorydd yn glir yn y cais. At ddibenion derbyn, brawd neu chwaer yw plentyn sy'n frawd neu'n chwaer lle mae'r ddau blentyn yn perthyn drwy briodas. Mae'r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys plant a fabwysiadwyd neu a faethwyd sy'n byw yn yr un cyfeiriad.

Nifer derbyn

Dyma'r nifer uchaf o blant y gallwn eu derbyn mewn unrhyw grŵp blwyddyn. Caiff ei gyfrifo yn ôl arweiniad Llywodraeth Cymru "Mesur capasiti Ysgolion yng Nghymru." Y rhif mynediad yw 30.

Gwarchedwaeth a rennir

Yn achos plentyn sydd, drwy amgylchiadau teuluol, yn byw gyda rhieni neu warchodwyr gwahanol mewn dau gyfeiriad yn ystod yr wythnos ysgol, bernir mai cyfeiriad y gofalwr sy'n bennaf gyfrifol am y plentyn yn ystod yr wythnos ysgol fydd cyfeiriad y plentyn. Byddwn yn defnyddio'r cyfeiriad hwn ar gyfer penderfyniadau ynglŷn â derbyniadau. (Er enghraifft, mae David yn byw gyda'i fam ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener; ac mae'n byw gyda'i dad ar ddydd Mawrth a dydd Iau. Cyfeiriad y fam a ddefnyddir fel cyfeiriad David.)

Plentyn sy'n derbyn gofal

Diffinnir plentyn sy'n derbyn gofal fel plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol yn unol ag Adran 22 Deddf Plant 1989 ac unrhyw ddeddfwriaeth dilynol.


Rhestrau aros

Os caiff cais plentyn am le yn y Dosbarth Derbyn ei wrthod oherwydd gorymgeisio, bydd ei gais yn cael ei gadw ar ffeil mewn rhestr aros tan 30 Medi yn y flwyddyn dderbyn (h.y. un mis ar ôl i'r ysgol ddechrau). Os daw lle ar gael, caiff ei gynnig i'r plentyn sydd ar frig y rhestr meini prawf goralw'n gyntaf, yna caiff ei gynnig i blant sy'n is ar y rhestr nes dyrannu'r lle. Am 3.20pm ar 30 Medi, caiff unrhyw geisiadau sydd ar y rhestr aros eu dileu. Ni fydd rhestr aros gan unrhyw grŵp blwyddyn arall. Caiff unrhyw geisiadau am le yn yr ysgol gan grwpiau blwyddyn eraill (a phlant y Dosbarth Derbyn ar ôl 30 Medi) eu hystyried ar wahân wrth iddynt gael eu cyflwyno a'u derbyn.

Ceisiadau hwyr

Caiff yr holl geisiadau a gwblheir eu hystyried ar yr un pryd, felly nid oes mantais i rieni sy'n cyflwyno cais yn gynnar. Fodd bynnag, os na fyddwch yn cyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, caiff ei ystyried ar ôl yr holl geisiadau eraill a anfonwyd ar amser. Erbyn i geisiadau hwyr gael eu hystyried efallai bydd holl leoedd yr ysgol wedi cael eu dyrannu, hyd yn oed os ydych yn byw yn nalgylch yr ysgol ac yn bodloni'r holl feini prawf mynediad.

Close Dewis iaith