Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trosedd casineb

Rhoi gwybod am droseddau casineb a sut i gael cefnogaeth os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn ddioddefwr troseddau casineb.

Beth yw digwyddiad casineb neu drosedd casineb?

Gellir defnyddio'r term 'trosedd gasineb' i ddisgrifio amrywiaeth o ymddygiad troseddol lle mae'r cyflawnwr yn cael ei ysgogi gan elyniaeth, neu'n dangos gelyniaeth at anabledd, hil, crefydd, tueddfryd rhywiol neu hunaniaeth drawsryweddol y dioddefwr.

Gallai hyn gynnwys:

  • cam-drin geiriol
  • graffiti sarhaus
  • ymddygiad bygythiol
  • difrod i eiddo
  • ymosodiad
  • bwlio seiber
  • negeseuon testun, e-byst neu alwadau ffôn ymosodol
  • dwyn arian oddi wrthych.

Pam y mae mor bwysig i adrodd am drosedd casineb neu ddigwyddiad casineb?

Nid ydym yn cael gwybod am ddigon o ddigwyddiadau casineb a throseddau casineb. Mae angen i ni ddeall y broblem er mwyn i'r penderfyniadau cywir gael eu gwneud i'ch atal chi neu aelod o'ch teulu neu'ch ffrindiau chi rhag dod yn ddioddefwr.

Heb wybod bod y problemau hyn yn digwydd, ni allwn eu hatal rhag digwydd i chi neu rywun arall. Mae adrodd am y materion hyn yn ein helpu ni a sefydliadau eraill i fesur maint y broblem yn eich ardal leol chi ac i wneud y pethau iawn i sicrhau bod eich cymuned chi yn lle gwell, mwy diogel i fyw a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael.

Mae'r cymorth cywir yn golygu y gallwn atal dioddefwyr rhag teimlo ar eu pennau eu hunain, yn isel, yn ofnus, mewn trallod neu hyd yn oed yn waeth, cymryd eu bywyd eu hunain.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae cymorth i ddioddefwyr wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr adroddiadau am ddigwyddiadau casineb a throseddau casineb ledled Cymru ac i gynnig cymorth i ddioddefwyr y troseddau hyn.

Trwy weithio gyda sefydliadau eraill megis yr heddlu, gall cymorth i ddioddefwyr fod yn rhagweithiol yn atal rhagor o droseddau casineb trwy ymyriadau lleol a chenedlaethol sydd wedi'u targedu.

Mae'r cymorth wedi'i deilwra at anghenion pob dioddefwr a gallai gynnwys cymorth emosiynol, ymarferol neu eiriolaeth. Gallwn hefyd roi cymorth i chi i adrodd am y drosedd i'r Heddlu a mynd i'r llys, ond nid oes pwysau arnoch i wneud hyn.

Hyd yn oed os nad oes arnoch angen y cymorth eich hun, mae'n bwysig i ni wybod pa droseddau sy'n digwydd a lle a phryd.

Pwy allaf gysylltu â nhw?

  • Ffoniwch yr heddlu'n uniongyrchol trwy ddeialu 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol, neu 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys.
  • Ffoniwch 0300 30 31 982 (24/7) i gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr yn uniongyrchol. Mae'r galwadau'n gwbl gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi roi eich enw.
  • Gallwch hefyd roi gwybod am hyn ar-lein drwy'r wefan rhoi gwybod am drosedd gasineb (Yn agor ffenestr newydd)
  • Os ydych yn denant y cyngor, gallwch hefyd ddweud wrth eich swyddfeydd tai ardal - bydd eich swyddog cymdogaeth yn ymchwilio i'r gŵyn.
Close Dewis iaith