Toglo gwelededd dewislen symudol

Adrodd am drysor

Os ydych chi'n dod o hyd i eitem a allai fod yn hanesyddol neu'n werthfawr ('trysor') yn ardaloedd cynghorau Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot, mae'n rhaid i chi adrodd amdano i'r crwner lleol cyn gynted â phosib.

Mae'n rhaid i chi adrodd am drysor o fewn yr amserlenni canlynol:

  • o fewn 14 o ddiwrnodau o ddod o hyd i'r trysor, neu
  • o fewn 14 o ddiwrnodau o sylweddoli bod eitem yn drysor, hyd yn oed os ydych chi wedi dod o hyd i'r eitem cyn hynny

Sylwer - gallwch dderbyn dirwy ddiderfyn neu hyd at 3 mis yn y carchar os NAD ydych yn adrodd am drysor

 

Adrodd am drysor i'r crwner yn uniongyrchol

Bydd y crwner yn cyfeirio'r eitem i Amgueddfa Cymru i'w ddadansoddi a darperir adroddiad am y darganfyddiad wedi hynny a fydd yn cadarnhau a ddylid ystyried yr eitem yn 'drysor' neu beidio.

Os bydd yr amgueddfa'n rhoi gwybod i'r crwner y dylid dosbarthu'r eitem fel 'trysor', yna bydd y crwner yn cynnal ymchwiliad byr i ddod i'r un casgliad yn ffurfiol.

 

Adroddwch am drysor i'r crwner drwy Amgueddfa Cymru

Gallwch gael cymorth wrth adrodd am drysor gan gysylltu â churaduron Amgueddfa Cymru:

 

Gorchymyn Trysor (Dynodiad) (Diwygiad) 2023

O 30 Gorffennaf 2023

Bydd Amgueddfa Cymru'n dadansoddi darganfyddiadau i benderfynu a ddylent gael eu dosbarthu fel Trysor o dan y Ddeddf. Mae'n rhaid bod gwrthrychau o leiaf 200 mlwydd oed - ni waeth pa fetel y defnyddiwyd i'w creu - cyhyd â'u bod yn darparu mewnwelediad pwysig i dreftadaeth y wlad. Mae hwn yn cynnwys gwrthrychau prin, eitemau sy'n darparu mewnwelediad arbennig i berson neu ddigwyddiad penodol neu rai sy'n gallu taflu goleuni newydd ar hanesion rhanbarthol pwysig. 

 

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys:

  • gwirio a yw'r hyn rydych wedi dod o hyd iddo'n drysor
  • adrodd am drysor
  • yr hyn sy'n digwydd wedi i chi adrodd am drysor

ewch i Report treasure (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

 

Adrodd am drysor a ddarganfuwyd y tu allan i Abertawe a Castell-nedd Port Talbot

Mae'n rhaid i chi adrodd am drysor i grwner lleol y cyngor neu'r ardal awdurdod lleol lle daethpwyd o hyd iddo: Search for a coroner (The Coroners' Society of England and Wales) (Yn agor ffenestr newydd)

Gallwch hefyd adrodd am unrhyw drysor a ddarganfuwyd yng Nghymru drwy Amgueddfa Cymru (manylion uchod). 

Close Dewis iaith