Toglo gwelededd dewislen symudol

Adfywio Tudno Place a Heol Emrys

Nod y prosiect hwn yw adfywio'r stad ym Mhen-lan drwy foderneiddio ac adnewyddu eiddo presennol y cyngor, ac adeiladu rhagor o dai rhentu cymdeithasol a chreu cymuned fwy diogel i bawb sy'n byw yno.

Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r ymgynghorwyr Powell Dobson Architects i greu'r uwchgynllun ar gyfer y safle. Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori yng Nghanolfan Hamdden Pen-lan ym mis Hydref 2022, a roddodd gyfle i breswylwyr roi sylwadau ar y cynlluniau arfaethedig. Mae'r dyluniad presennol wedi'i ddatblygu gan ystyried sylwadau a wnaed gan breswylwyr.

Bydd y cynllun yn cynnwys adnewyddu'r tu mewn a'r tu allan i holl eiddo'r cyngor, gan gynnwys gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd a thirlunio'r ardal a chreu ardal chwarae newydd. Gall gwelliannau i eiddo hefyd gynnwys creu agoriadau newydd ar gyfer ffenestri neu ddrysau lle bo hynny'n ymarferol.

Mae'r cynigion adnewyddu ar gyfer y stad yn rhai sylweddol ac mae cwmpas y gwaith yn golygu y bydd y prosiect yn cael ei rannu fesul cam dros nifer o flynyddoedd.

Mae cynigion yn cynnwys ychwanegu rhagor o gartrefi i'r safle er mwyn cynyddu lefelau tai cyngor yn ardal Pen-lan. Bydd y gwaith i adeiladu adeiladau newydd yn cael ei gwblhau yng nghamau diweddarach y cynllun, gan y bydd gwaith i adnewyddu'r cartrefi presennol yn cael blaenoriaeth.

Fideo o'r awyr o Tudno Place a Heol Emrys gan Asbri Planning

Dyluniad arfaethedig Tudno Place a Heol Emrys

Cliciwch ar y lluniau i weld fersiynau mwy

 

 

Byddwn yn darparu cynllun manylach o sut y bydd yr holl waith yn cael ei gyflawni ac amserlenni bras ar gyfer gwneud y gwaith ar ôl i bob cynllun adnewyddu gael ei gwblhau.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr drwy gydol y broses:

Lleoliad

Close Dewis iaith