Toglo gwelededd dewislen symudol

Undeb Credyd Celtic

Cwmni cydweithredol yw Undeb Credyd, sy'n darparu gwasanaethau ariannol syml a fforddiadwy i'w aelodau. Y bobl sy'n defnyddio'i wasanaethau sy'n berchen arno, nid rhanddeiliaid neu fuddsoddwyr allanol.

Cwmnïau nid er elw yw undebau credyd, felly defnyddir unrhyw incwm a wneir i dalu costau gweithredu, cronni cronfeydd arian wrth gefn a thalu rhandaliadau blynyddol sylweddol i gynilwyr.

Mae Undeb Credyd Celtic yn cynnig nifer o wasanaethau i'w aelodau:

  • benthyciadau â chyfraddau llog teg heb gostau cudd
  • cyfrifon cynilo
  • cyngor ar gyllidebu
  • arweiniad ar ddyled.

Diogelir cynilion gydag Undeb Credyd Celtic gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol felly os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, bydd eich arian yn ddiogel.

Enw
Undeb Credyd Celtic
Cyfeiriad
  • 13 Portland Street
  • Abertawe
  • SA1 5LR
Gwe
https://celticcreditunion.co.uk/
Rhif ffôn
0333 006 3002
Close Dewis iaith