Newyddion da i glybiau chwaraeon a phreswylwyr sy'n defnyddio caeau chwaraeon ac ystafelloedd newid ym Mharc Underhill
Mae Cyngor Abertawe a Chyngor Cymuned y Mwmbwls yn falch o gadarnhau y bydd cae pob tywydd ac ystafelloedd newid Underhill yn ailagor ddydd Llun 11 Awst 2025.

Gellir archebu drwy e-bostio bookings@mumbles.gov.uk.
Sylwer y bydd sesiynau talu a chwarae'n ailddechrau o 18 Awst, gydag amseroedd a dyddiadau'n cael eu rhyddhau yn ystod yr wythnos nesaf.
Rydym hefyd yn gweithio'n galed ar baratoadau i sicrhau bod yr hwb a'r caffi'n gallu agor yn fuan. Cymerwch gip ar wefan Cyngor Dinas Abertawe neu Gyngor Cymuned y Mwmbwls am ddiweddariadau pellach.
Rydym am ddiolch i'r gymuned am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod cau ac edrychwn ymlaen at eich croesawu'n ôl ddydd Llun ac yn yr wythnosau i ddod.
Roedd Cyngor Abertawe a Chyngor Cymuned y Mwmbwls wedi gweithredu'n gyflym i gyfathrebu â diddymwyr a chytuno ar bartneriaeth â Chyngor Cymuned y Mwmbwls i gefnogi'r gymuned leol ar ôl i weithredwyr Parc Underhill ddatodi'n wirfoddol fis diwethaf.
Nod menter ar y cyd dros dro rhwng y ddau gyngor yw sicrhau bod y caeau a'r ystafelloedd newid yn aros ar agor tan ddiwedd 2025, pryd y gobeithir y bydd trefniant mwy parhaol ar waith.