Toglo gwelededd dewislen symudol

Us Girls a GemauStryd

Gwersylloedd a sesiynau Us Girls arobryn i ferched rhwng 8 a 14 oed.

Us Girls (IS)

Us Girls (IS)

Bydd ein gwersylloedd Us Girls yn rhoi'r cyfle i chi roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol chwaraeon a gweithgareddau mewn amgylchedd hwyliog, cyfeillgar ac anfarnol ar draws tair canolfan hamdden lleol yn Abertawe; Pen-lan, Penyrheol a Chefn Hengoed yn ystod gwyliau ysgol. Mae'r chwaraeon a gweithgareddau sydd ar gynnig yn ein gwersylloedd yn cynnwys gymnasteg, rygbi, hunanamddiffyn, nofio, dawnsio, mynyddfyrddio, ioga a mwy; mae bendant rhywbeth i bawb!

Mae gweithdai hefyd yn gyffredin yn yr holl wersylloedd lle bydd cyfle gennych i drafod eich barn a'ch pryderon ynghylch gwahanol bynciau fel cyfryngau cymdeithasol, hyder a hunan-barch, iechyd emosiynol, modelau rôl a mwy. Efallai yr hoffech ddod yn wirfoddolwr Us Girls neu'n arweinydd ifanc ac os felly, byddwn yn eich cefnogi ac yn darparu'r holl bethau sydd eu hangen arnoch i gyflawni'r rôl hon yn hyderus.

Am ragor o wybodaeth am GemauStryd ac Us Girls yng Nghymru, ewch i: Street Games (Yn agor ffenestr newydd) 

Street Games Us Girls (Yn agor ffenestr newydd)

Cysylltu â ni...Chwaraeon ac Iechyd Abertawe

Rydym am i chi gymryd rhan...

Rydym yn gobeithio'ch gweld chi'n fuan yn un o'n gweithgareddau, ac os nad ydych chi eisoes yn gwneud, sicrhewch eich bod yn ein dilyn ni ar Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd), Chwaraeon ac Iechyd Abertawe X (Yn agor ffenestr newydd),Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Instagram (Yn agor ffenestr newydd) a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe YouTube (Yn agor ffenestr newydd) a chofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio Chwaraeon ac Iechyd ein rhestr bostio (Yn agor ffenestr newydd) i fod y cyntaf i glywed ein newyddion ac i gael rhagor o wybodaeth amdanom.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2024