Toglo gwelededd dewislen symudol

Penaethiaid iechyd yn annog pobol i gael eu brechu cyn y Nadolig

Mae pobl sydd heb gael eu brechiad COVID-19 cyntaf yn cael eu hannog i gael y pigiad yn awr yn barod ar gyfer y cyfnod cyn y Nadolig.

covid campaign osprey

Bu'n rhaid i lawer o'r dathliadau ar gyfer y Nadolig y llynedd gael eu canslo oherwydd y feirws, ac eleni mae perygl y bydd pobl nad ydynt wedi cael dau frechiad erbyn dechrau tymor yr ŵyl ym mis Tachwedd yn colli'r cyfle i fwynhau'r dathliadau.

Dywedodd Dr Keith Reid, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ym Mae Abertawe, er bod 70% o oedolion ifanc yn yr ardal wedi cael eu brechiad cyntaf, fod angen annog y lleill i gael eu brechiad yn awr.

Meddai, "Roedd y rhan fwyaf o dymor yr ŵyl y llynedd yn fethiant oherwydd y cyfyngiadau angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel ac amddiffyn y GIG. Eleni, mae'n edrych yn debygol y bydd tafarndai a chlybiau'n gweithredu mewn ffordd fwy traddodiadol.

"Ond mae nifer y bobl sy'n cael y feirws ym Mae Abertawe yn awr yn cynyddu'n gyflym, gyda 2,737 o achosion newydd yn yr wythnos diwethaf yn unig. Mae'n dangos bod y feirws gyda ni o hyd a bod angen i bob un ohonom chwarae ein rhan wrth atal yr ymlediad.

"Mae angen i'r rheini sy'n gymwys ac sydd heb gael eu brechiad cyntaf wneud hynny'n gyflym gan fod o leiaf wyth wythnos rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos, ac mae angen cwpwl o wythnosau ar ôl yr ail ddos i ganiatáu iddo weithio.

"Felly os nad ydych yn cael yr un cyntaf cyn bo hir, efallai na fyddwch wedi cael y ddau frechiad mewn pryd ar gyfer y nosweithiau mas yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

"Mae'n hawdd cael eich brechu, nid yw'n cymryd yn hir ac mae e'n helpu i'n cadw ni a'n hanwyliaid yn ddiogel."

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi trefnu sesiynau galw heibio mewn lleoliadau o gwmpas yr ardal fel y gall pobl alw heibio a chael eu pigiad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://bipba.gig.cymru/ewch/sesiynau-galw-heibio-brechlyn-pfizer-covid-19-ar-gyfer-oedolion-16/

Dangoswyd mai brechiad dwbl yw un o'r amddiffyniadau gorau rhag ymlediad y feirws. Mae tystiolaeth wedi dangos bod pobl sydd wedi cael dau frechiad yn llai tebygol o gael y feirws os dônt i gysylltiad â rhywun â COVID-19, ac os ydynt, mae'r effaith ar eu hiechyd yn llai niweidiol.

Mantais arall o gael dau frechiad ar hyn o bryd yw nad oes yn rhaid i chi hunanynysu am 10 niwrnod mwyach os cewch eich nodi'n gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am y feirws ac nid ydynt yn dangos symptomau COVID-19.

Meddai Dr Reid, "Os ydych chi'n bwriadu cymdeithasu'n helaeth dros y Nadolig, a gwneud iawn am yr amser clybio a gollwyd y llynedd, yna ewch i gael eich brechiad cyntaf yn awr fel y gallwch gael y ddau frechiad mewn pryd ar gyfer tymor y partïon.

"Mae brechiad dwbl hefyd ymysg y ffyrdd gorau y gall pobl ddiogelu eu hunain, eu teuluoedd a'u perthnasoedd rhag y feirws adeg y Nadolig.

"Y llynedd, nid oedd pobl yn gallu gwneud llawer o'r pethau traddodiadol fel dod ynghyd ag aelodau'r teulu gan fod y peryglon mor fawr.

Ychwanegodd David Hopkins, Dirprwy Arweinyddion ar y Cyd Cyngor Abertawe, "Dros y 18 mis diwethaf, mae cynifer o bobl wedi gwneud gwaith mor ryfeddol i gadw'n cymunedau'n ddiogel.

"Mae pob un ohonom wedi gorfod addasu i ffyrdd newydd o wneud pethau. Diolch i ymdrechion ein cymunedau, gyda chefnogaeth y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a chynifer o rai eraill, gwnaed cynnydd. Cael dau frechiad yw un o'r pethau symlaf i'w wneud i'n cadw ni i gyd ar y llwybr iawn."