Toglo gwelededd dewislen symudol

Sioe Awyr Cymru 2023

1 - 2 Gorffennaf 2023

Wales Airshow

Wales Airshow
Dros ddeuddydd, bydd rhai o'r peilotiaid a'r arddangosiadau hedfan gorau yn y byd yn defnyddio amffitheatr naturiol Bae Abertawe i ddangos eu sgiliau trwy berfformio arddangosiadau aerobatig anhygoel. O jetiau i hofrenyddion i'r Red Arrows gwych, dyma ddau ddiwrnod na fyddwch am eu colli. Ac yn well byth - mae'r cyfan am ddim!

Nid yw'r holl gyffro'n digwydd yn yr awyr yn unig - bydd Prom Abertawe'n llawn arddangosiadau ar y ddaear, tryciau bwyd a diod blasus, profiadau rhithwirionedd, cerddorion a bandiau'n chwarae cerddoriaeth fyw, arddangosiadau, gweithgareddau i deuluoedd, reidiau a mwy! Does dim syndod bod dros 200,000 o bobl yn dod i'r digwyddiad bob blwyddyn.

Rhagor o wybodaeth 

Oes gennych ddiddordeb mewn noddi'r digwyddiad hwn?

Mae cyfleoedd nawdd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn.  Mae pecynnau ar gael sy'n addas i bob cyllideb y gellir eu teilwra i ddiwallu'ch anghenion a'ch amcanion.  I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, e-bostiwch Commercial@swansea.gov.uk

Cau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau arbennig

Gorchmynion ar gyfer cau ffyrdd am hyd at dridiau, er mwyn cynnal digwyddiadau arbennig e.e. digwyddiadau rhedeg.