Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ardal chwarae newydd yng nghanol West Cross yn agor yn swyddogol

Os ewch i lawr i'r goedwig yn West Cross heddiw, byddwch yn siŵr o weld ardal chwarae newydd wych.

play area west cross woodland

Coetir West Cross yw calon werdd y gymuned a nawr mae pobl ifanc wedi agor yr ardal chwarae yn swyddogol. Mae'r ardal yn un o dros 60 sydd wedi'u creu neu eu huwchraddio dan gynllun gwerth £8m Cyngor Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed i wella ardaloedd chwarae cymunedol ledled y ddinas, a bydd hyd yn oed mwy o gymdogaethau yn gweld gwelliannau yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnwys Parc Gwernfadog yn Nhreforys, lle dechreuodd y gwaith adeiladu'r wythnos hon.

Mae ardal chwarae Coetir West Cross yn cynnwys pecyn o gyfarpar sy'n cynnwys siglenni, si-sos, unedau aml-chwarae i blant bach ac iau a chylchfan ar ffurf het wrach.

Mae'r ardal chwarae wedi'i hysbrydoli gan ddylanwad preswylwyr lleol, rhieni a phlant ac mae hefyd yn cynnwys meinciau a thri phanel chwarae a phanel chwarae synhwyraidd. Agorwyd yr ardal chwarae'n swyddogol gan arweinydd y cyngor, Rob Stewart.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'n bosib mai ein buddsoddiad mewn chwarae awyr agored i blant a phobl ifanc yw'r buddsoddiad mwyaf o'i fath yn y DU yn y blynyddoedd diweddar.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r fenter hon yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan gymunedau yn Abertawe fynediad at fannau diogel a chyffrous i gael hwyl yn yr awyr agored. Gorau oll, mae plant a'u rhieni wrth eu boddau."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Awst 2025