Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymweld â Chastell Ystumllwynarth

Visiting Oystermouth Castle

Visiting Oystermouth Castle
Oriau Agor

  • Ar agor bob dydd rhwng 5 Ebrill a 30 Medi, ac ar benwythnosau yn unig yn ystod mis Hydref.
  • 11.00am - 5.00pm (mynediad olaf am 4.30pm).

Costau Mynediad

  • Safonol £6
  • Consesiynau £4
  • PTL Abertawe £3
  • Tocyn Teulu (2 oedolyn a 3 phlentyn) £18
  • Tocyn Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 o blant) £12
  • Plant dan 5 oed am ddim
  • Tocyn Tymor ar gael - holwch yn y castell
  • Teithiau tywys - ar gael rhwng mis Ebrill a mis Medi. Bydd y rhain AM DDIM ac yn dechrau am 11.30am bob dydd  Mercher, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sul tan ddiwedd mis Medi.

Ble i barcio

Gall Ystumllwynarth fod yn brysur iawn ym misoedd yr haf. Mae tri maes parcio ar waelod pentref Ystumllwynarth (ar Mumbles Road) ond os yw'r rhain yn llawn, gallwch roi cynnig ar un o feysydd parcio Underhill, sydd ar ben uchaf y pentref. Dyma neges i atgoffa pawb sy'n ymweld â Chastell Ystumllwynarth nad oes modd parcio ar diroedd y castell ei hun.

I gyrraedd meysydd parcio Underhill o Mumbles Road, trowch i fyny Newton Road pan welwch dafarn y White Rose ar y gornel. Parhewch i fyny Newton Road heibio i Marks & Spencer (ar y chwith) nes i chi gyrraedd cyffordd ffordd â goleuadau traffig. Fe welwch iard chwarae ysgol ar eich ochr dde ac eglwys ar y chwith.

  • I ddod o hyd i'r maes parcio, trowch i'r chwith heibio'r eglwys i Langland Road ac fe welwch y maes parcio tua 120 llath ar ochr dde'r ffordd. Mae'n cymryd 5 munud ar droed i gyrraedd y castell o fan yma.
  • I ddod o hyd i'r maes parcio am ddim, parhewch yn syth i fyny Newton Road, gyda'r caeau chwarae ar eich chwith ac ewch heibio'r fynwent ar y llaw dde. Ar ben y parc, cyn i'r tai ddechrau, fe welwch arwydd lle parcio ar y chwith. Trowch i mewn i'r ffordd gul ac mae'r maes parcio ymysg y coed. Mae'n cymryd 10 munud ar droed i gyrraedd y castell o fan yma.

Mae toiledau cyhoeddus i'w cael ar y safle. Os oes gennych ymholiadau pellach neu os hoffech chi siarad â rhywun am eich ymweliad - Cysylltwch â Chastell Ystumllwynarth

Hygyrchedd

Oherwydd natur amddiffynnol hanesyddol y safle, mae hygyrchedd Castell Ystumllwynarth yn gyfyngedig, yn enwedig i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn neu gadair wthio.

Mae mynediad i'r ganolfan ymwelwyr a llwybrau wedi'u harwynebu o gwmpas y castell (y mae rhai ohonynt yn serth), ac mae grisiau a lloriau anwastad y tu mewn i'r castell.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Awst 2025