Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Tu Hwnt i Frics a Morter

Mae Y Tu Hwnt i Frics a Morter yn fenter bwysig i sicrhau buddion cymunedol o weithgareddau cyngor addas yn Ninas a Sir Abertawe fel buddion parhaus i'r gymuned.

Trwy gyflwyno cymalau budd cymunedol megis cynnwys recriwtio a hyfforddiant a dargedir yn ein contractau, ein bwriad yw sicrhau bod aelodau o'n cymuned, yn enwedig pobl ifanc a'r rheiny nad ydynt wedi bod yn y farchnad waith ers peth amser, yn derbyn cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth ystyrlon.

Mae'n cynrychioli ymagwedd gyfannol at adfywio a fydd yn caniatáu i  Abertawe, a chymunedau'r rhanbarth ehangach, fanteisio ar brosiectau adfywio ffisegol, yn enwedig trwy ddod â phobl sy'n anweithgar yn economaidd yn ôl i'r farchnad lafur.

Mae  polisi budd cymunedol (PDF) [468KB],

a ddiweddarwyd ym mis Gorffennaf 2016, bellach wedi'i ehangu i sicrhau bod buddion a gwerth ychwanegol yn cael eu gwireddu o'r holl weithgareddau a chontractau addas a gaiff eu harwain gan y cyngor, ac nid adeiladu ac adfywio'n unig. Mae'r Polisi Cymunedol (gweler y ddolen isod) yn nodi sut mae'r polisi'n gweithio a sut bydd yn gymwys i adrannau mewnol a sefydliadau allanol sydd am weithio gyda'r cyngor. Bydd Tîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth ac adeiladu ar lwyddiant menter Y Tu Hwnt i Frics a Morter.

Mae cymalau budd cymunedol yn cynnig ymagwedd newydd at gaffael cyhoeddus, a gellir eu diffinio fel gofynion a wnaed o ddatblygiad neu gontract na fyddai, fel arfer, yn eu cynnwys fel canlyniad diffiniedig neu fesuredig. Gellir cynnwys cymalau i ddylanwadu ar y meysydd canlynol:

  • hyfforddiant a recriwtio a dargedir, e.e. y di-waith tymor hir
  • mentrau cadwyn gyflenwi, ymroi i ddod o hyd iddynt yn lleol
  • ymgynghoriad cymunedol (contractwyr ystyriol)
  • cyfraniadau at addysg
  • hyrwyddo mentrau cymdeithasol
  • buddion amgylcheddol yn ystod y gwaith ac ar ôl ei gwblhau

 

Mae budd cymunedol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, ac yn un o ddeg o egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru. Bydd ymagwedd Abertawe'n sicrhau bod unrhyw brosiectau a chontractau posib yn cael eu hystyried ar gyfer buddion cymunedol, gan fwyafu'r cyfleoedd i gyflawni gwerth ychwanegol o wariant y sector cyhoeddus yn Abertawe.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch beyondbricksandmortar@swansea.gov.uk.

Close Dewis iaith