10k Bae Abertawe - rheolau a rheoliadau ar gyfer masnachwyr
Ar y dudalen hon
1. Diffiniad o dermau
a. Rheoliadau. Defnyddir y term hwn ar gyfer yr holl ofynion a nodir gan y trefnwyr i gynnal Ras 10k Bae Abertawe ac ar gyfer unrhyw ychwanegiadau neu newidiadau pellach a bennir yn angenrheidiol gan y trefnwyr.
b. Trefnwyr. Ystyr y term yw Dinas a Sir Abertawe, eu gweision neu'i hasiantiaid.
c. Arddangoswyr. Mae'r term hwn yn cynnwys holl weithwyr, gweision ac asiantiaid unrhyw gwmni neu sefydliad sy'n arddangos neu'n masnachu yn Ras 10k Bae Abertawe .
2. Defnyddio'r rheoliadau
a. Y trefnwyr sy'n gyfrifol am reoli'r Arddangosfa Fasnachu ac mae eu penderfyniadau'n derfynol ac yn gyfrwymol ar yr holl arddangoswyr.
b. Mae hawl gan y trefnwyr heb apêl i ddatrys yr holl achosion, nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y rheoliadau.
c. Gellir gofyn i unrhyw berson neu sefydliad nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau neu gyfarwyddiadau'r trefnwyr adael y digwyddiad ac ni ad-delir unrhyw ffïoedd safle neu daliadau eraill gan y trefnwyr.
3. Atebolrwydd
a. Ni fydd y trefnwyr yn derbyn unrhyw atebolrwydd am golled neu ddifrod i unrhyw arddangosfeydd ar unrhyw adeg, a chynghorir arddangoswyr i yswirio eu harddangosfeydd yn erbyn colled neu ddifrod, gan gynnwys perygl o dân.
b. Bydd arddangoswyr yn gyfrifol am golled neu niwed neu anaf i eiddo a phobl (gan gynnwys arddangosfeydd eraill), a achosir ganddynt hwy, eu gweision neu eu hasiantiaid.
c. Bydd pob arddangoswr sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad yn cytuno i ddigolledu'r trefnwyr yn erbyn unrhyw hawliadau o unrhyw natur y gellir eu cyflwyno yn erbyn y trefnwyr sy'n deillio o gyfranogiad yr arddangoswr yn yr Arddangosfa Fasnachol, neu'n gysylltiedig â hi. Mae'r arddangoswr yn cytuno'n benodol bod y ddarpariaeth hon deg ac yn rhesymol. Ni fydd trefnwyr y digwyddiad yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am unrhyw eitem sy'n cael ei chyflwyno, ei gwerthu neu'i harddangos, a bydd yn amod cyflwyno ar bob arddangoswr nad yw'n cyhuddo'r cyngor a'i fod yn ei indemnio yn erbyn unrhyw achos cyfreithiol posib o ganlyniad i golled, difrod (trwy dân, storm neu unrhyw achos arall), neu fethu dosbarthu unrhyw eitem. Rhaid i bob masnachwr lenwi a llofnodi'r cytundeb indemniad cyn dychwelyd y ffurflen gais.
ch. Ni dderbynnir unrhyw arddangoswr heb ffurflen indemniad wedi'i llenwi a phrawf o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
d. Nid yw'r trefnwyr yn derbyn atebolrwydd ac ni fydd dan unrhyw atebolrwydd i arddangoswyr neu eu gweithwyr, gweision a/neu asiantiaid o ran unrhyw ddifrod uniongyrchol neu anuniongyrchol, colled neu anaf, i bobl neu eiddo sy'n deillio o'r Arddangosfa Fasnachu neu'n gysylltiedig â hi.
dd. Cynghorir arddangoswyr yn gryf i gael yswiriant priodol rhag ofn y caiff y digwyddiad ei ganslo neu ei ohirio. Bydd unrhyw ad-daliad os bydd y sioe gyfan neu ran ohoni'n cael ei chanslo yn ôl disgresiwn y trefnwyr ac os rhoddir ad-daliad, bydd yn ad-daliad net ar ôl didynnu costau a thaliadau gweinyddol y trefnwr. Ni fydd yr arddangoswyr yn gallu hawlio yn erbyn y trefnwyr os bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo neu ei ohirio dan unrhyw amgylchiadau.
e. Os bydd arddangoswr yn tynnu yn ôl o'r Arddangosfa Fasnachu ar ôl i'r trefnwyr neilltuo lle, bydd yr arddangoswr yn colli pob taliad a wnaed. Rhaid ysgrifennu at y trefnwyr os ydych yn tynnu'n ôl a fydd yn ceisio rhoi'r lle i rywun arall, ond nid yw rhoi'r lle i rywun arall o reidrwydd yn golygu y byddai'r arddangoswr yn cael ad-daliad o unrhyw daliadau a wnaed neu ryddhau unrhyw symiau y mae'n atebol amdanynt.
f. Os derbynnir cais gan unrhyw sefydliad y mae ei fusnes am ba reswm bynnag yn cael ei roi yn nwylo'r derbynnydd, bydd y cais hwnnw, oni cytunir fel arall, yn ysgrifenedig gan y trefnwyr, yn ddi-rym hyd yn oed os y'i derbyniwyd yn flaenorol gan y trefnwyr, a bydd unrhyw arian a dderbyniwyd yn cael ei ad-dalu ar ôl didynnu'r holl gostau a threuliau yr aeth y trefnwyr iddynt.
ff. Rhaid i arddangoswyr gydymffurfio â holl Ofynion a Rheoliadau Statudol y DU yn 10K Bae Abertawe .
g. Mae'r trefnwyr yn cadw'r hawl i wrthod cais a hefyd yn cadw'r hawl i ganslo cais y gellir fod wedi'i dderbyn, neu wrthod derbyn unrhyw arddangosyn arfaethedig i'r digwyddiad, a hynny ar unrhyw gam. Os, o dan y rheoliad hwn, y caiff cais am le ei wrthod, neu caiff dyraniad o le ei ganslo gan y trefnwyr, neu caiff mynediad arddangoswr ei wrthod, gall y ffïoedd a dalwyd am y lle, yn ôl disgresiwn y trefnwyr, gael eu had-dalu, ac os byddant yn cael eu had-dalu, byddant yn cael eu derbyn gan yr arddangoswr neu'r darpar arddangoswr, yn gwbl fodlon ar unrhyw hawliadau yn erbyn y trefnwyr.
ng. Mae arddangoswyr yn gyfrifol am ddiogelwch y cyhoedd ar eu safleoedd, yn enwedig wrth arddangos unrhyw arddangosiadau sy'n gweithio yn ddiogel ac maent yn gyfrifol am ddiogelwch eu harddangosiadau a'u heiddo.
h. Bydd ymwelwyr sy'n mynd i 10k Bae Abertawe yn gwneud hynny ar eu risg eu hunain. Ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd gan Ddinas a Sir Abertawe, eu gweision, eu hasiantiaid, contractwyr annibynnol neu noddwyr am unrhyw anaf (gan gynnwys anaf angheuol), salwch, difrod neu golled uniongyrchol neu anuniongyrchol a berir i berson neu eiddo, p'un ai oherwydd esgeulustod neu fel arall.
i. Cedwir yr hawl gan swyddogion diogelwch 10k Bae Abertawe i gynnal gwiriadau diogelwch fel sy'n ofynnol ac i wrthod mynediad i gerbydau a/neu i bobl i 10k Bae Abertawe a/neu i gyfeirio ymwelwyr i ardaloedd y meysydd parcio.
4. Gorfynion yswiriant
Mae'n ofynnol i arddangoswyr feddu ar Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus Trydydd Parti gyda therfyn digolledu nad yw'n llai na £5,000,000 ar gyfer unrhyw ddigwyddiad ac sy'n cynnwys cymal digolledu prif bartïon. Os nad yw Yswiriant Atebolrwydd Trydydd Parti'r arddangoswyr yn cynnwys indemniad cyffredinol i'r cymal prifswm at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i drefnwyr Ras 10k Bae Abertawe gael ei grybwyll yn benodol fel Prifsymiau yn yr yswiriant sy'n berthnasol i'r contract y maent yn cytuno iddo.
5. Rheoliadau gwerthiannau
a. Disgwylir i stondinau ac arddangosfeydd fod o safon uchel.
b. Gwaherddir gwerthu'r eitemau canlynol:
- Cyllyll â llafn caeedig ac unrhyw gyllyll gan gynnwys cyllyll poced sy'n plygu.
- Gynau tegan realistig neu ynau, neu arfau eraill, sy'n tanio unrhyw fath o daflegryn (e.e. gynau BB, gynau awyr, bwâu croes, catapyltiau).
- Da byw, pysgod byw ac adar mewn cewyll.
- Bwydydd neu luniaeth heb ganiatâd ysgrifenedig y trefnwyr.
- Loteri, raffl neu docynnau hapchwarae.
- Unrhyw fath o gofrodd 10K Bae Abertawe , neu atgynhyrchiad o ddeunydd cyhoeddusrwydd 10K Bae Abertawe , heb ganiatâd ysgrifenedig y trefnwyr.
- Raffl tocynnau teganau meddal.
- Unrhyw gynnyrch arall a nodir yn ysgrifenedig i arddangoswyr unigol gan y trefnwyr.
c. Atgynhyrchiad sain. GWAHERDDIR defnyddio meicroffonau a chwyddseinwyr i gynorthwyo gyda gwerthiannau. Cedwir yr hawl hefyd gan y trefnwyr i ofyn am waredu unrhyw gyfarpar y derbynnir cwynion amdanynt.
ch. Cyfarpar radio a radar. Rhaid i arddangoswyr sy'n bwriadu defnyddio radio a/neu arddangosiadau radar gyflwyno manylion y fath gyfarpar i'r trefnwyr erbyn 6 Medi 2025 er mwyn cael caniatâd i'w gweithredu.
d. Gwaherddir gwerthiannau hwnt ac yma neu fasnachu tebyg.
dd. Mae Tîm Digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe'n gweithio'n agos gyda'r Safonau Masnach ym mhob digwyddiad a bydd yn rhoi gwybodaeth pan ofynnir amdani. Rhaid i'r holl nwyddau a werthir ar dir y cyngor fod yn werthadwy ac o safon foddhaol ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth Safonau Masnach.
e. Cedwir yr hawl gan Ddinas a Sir Abertawe i dderbyn arddangoswyr sy'n rhoi nwyddau o fwyd, diod neu gynnyrch arall am ddim yn y digwyddiad.
6. Gwybodaeth gyffredinol
a. Cyflenwad dŵr. Nid yw'r trefnwyr yn gallu darparu cyflenwad dŵr i safle unrhyw Arddangosfa Fasnachol er bydd mannau dŵr ar gael ger safle'r digwyddiad.
b. Yswiriant. Rhaid i bob masnachwr gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth o leiaf £5 miliwn (nifer diderfyn o hawliadau). Rhaid i chi atodi copi o'r yswiriant at y ffurflen gais, sy'n ddilys ar gyfer dyddiadau 10K Bae Abertawe .
c. Cynabyddiaeth a chadarnhad. Caiff pob cais ei gydnabod a'i gadarnhau pan ddaw'r taliad i law. Anfonir manylion pellach a mapiau etc. oddeutu wythnos cyn y digwyddiad.
ch. Dros nos. Gall arddangoswyr aros ar y safle dros nos dim ond os ydynt wedi rhoi gwybod i'r trefnwyr ymlaen llaw a chyda'u cymeradwyaeth. Oriau busnes - Rhaid bod y stondinau ar agor ar gyfer masnachu erbyn 7.30am a rhaid iddynt barhau ar agor tan 3.30pm. Gall yr holl stondinau gael eu gosod yn y bore. Gall unedau trelar gael eu gosod ddydd Gwener 12 Medi neu ddydd Sadwrn 13 Medi 2025.
d. Sbwriel. Bydd masnachwyr yn gyfrifol am waredu'r holl sbwriel o gyffiniau eu stondin ar ddiwedd pob dydd.
dd. Cerbydau. Rhaid i gerbydau masnachu aros yn y parc cerbydau sydd wedi'i ddynodi i Fasnachwyr. Mae Trefnydd y Digwyddiad yn cadw'r hawl i symud cerbydau nad ydynt wedi'u parcio mewn ardaloedd dynodedig. Rhaid i gerbydau barcio yn y maes parcio dynodedig. Ni cheir parcio ceir masnachu ar safle'r digwyddiad.
e. Peirianwaith. Rhaid amddiffyn pob peiriant gweithredol rhag y cyhoedd yn unol â deddfwriaeth statudol. Ni chaniateir peiriannau sy'n creu llwch neu sŵn gormodol. Gall peiriannau yr ystyrir ei bod yn berygl neu'n risg gael eu diffodd.
f. Trydan. Dim ond generaduron disel distaw iawn gyda chymeradwyaeth diweddar NICEIC neu gyfwerth a ganiateir.
Mae rhaid i bob generadur sy'n dod i'r safle fod yn fodel disel dawel iawn a rhaid bod gennynt gwaith papur gwasanaeth / prawf diweddar.
7. Cadw lle ar y safle
a. Dyrennir safleoedd arddangos i fasnachwyr ar sail y cyntaf i'r felin gan drefnwyr y digwyddiad, er y caiff dewis y masnachwyr ei ystyried lle y bo'n bosib ac yn ymarferol.
b. Nid yw bod yn bresennol yn y gorffennol yn 10K Bae Abertawe yn rhoi unrhyw hawliau i gymryd rhan mewn digwyddiadau 10K Bae Abertawe dilynol.
c. Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno i'r trefnwyr ar y ffurflen briodol. Mae'r trefnwyr yn cadw'r hawl i ganslo neu wrthod cais cyfan neu ran ohono. Bydd derbyn neu wrthod y cais, yn llwyr neu'n rhannol, ynghyd â'r safle dynodedig, yn cael ei gyflwyno'n ysgrifenedig gan y trefnwyr.
ch. Cedwir yr hawl gan y trefnwyr i newid cynllun a lleoliad masnachwyr heb ddweud wrth yr arddangoswyr.
d. Cedwir yr hawl gan y trefnwyr i newid lleoliad unrhyw safle a ddyrannwyd eisoes.
dd. Gwaherddir is-osod a/neu is-gontractio safleoedd.
e. Bydd ffiniau safleoedd yn cael eu marcio'n glir gan y trefnwyr. Rhaid i arddangoswyr sicrhau bod eu harddangosfeydd, gan gynnwys yr holl gyfarpar cefnogi, pabell a rhaffau tynhau, wedi'u cynnwys ym mhob ardal safle ddynodedig. Ni chaniateir gwerthu, cwblhau holiaduron neu weithgareddau tebyg ar safle'r digwyddiad.
f. Rhaid i'r arddangoswr lofnodi'r Cais am Ardal Fasnachu atodedig, mewn cytundeb i lynu wrth y rheoliadau hyn.
8. Mynediad
a. I gael mynediad i'r safle, rhaid dangos tocyn cerbyd dilys, a fydd yn cael eu rhoi i'r arddangoswyr gan y trefnwyr.
b. Rhaid i arddangoswyr fynd i weld aelod o'r Tîm Digwyddiadau cyn cael eu tywys i'w safle dynodedig. Gall methu cydymffurfio arwain at gael eich gyrru o'r digwyddiad.
9. Sefydlu
a. Ni chaniateir adeiladu a gosod safleoedd cyn 9.00am ddydd Sadwrn 13 Medi 2025 heb ganiatâd penodol trefnwyr y digwyddiad. Rhaid gofyn am ganiatâd ysgrifenedig.
b. Rhaid i arddangoswyr sicrhau eu bod ar gael ar y safle i dderbyn yr holl nwyddau gan nad yw'r trefnwyr yn gallu trin a thrafod cyfarpar yr arddangoswyr neu'r contractwyr.
c. Rhaid i arddangoswyr ddarparu'r holl lorïau y mae eu hangen arnynt ar gyfer stondinau awyr agored. Nid oes gan y trefnwyr unrhyw lorïau ac nid oes ganddynt fynediad i ddefnyddiau o'r fath.
10. Rheoli'r safle
a. Mae'n ofynnol i arddangoswyr gadw'u safleoedd a'r llwybrau cerdded cyfagos yn daclus ar bob adeg. Dylid rhoi sbwriel yn y biniau a'r sgipiau sbwriel a ddarperir gan y trefnwyr ac a fydd ar gael drwy gydol y dydd i'w casglu'n rheolaidd gan y tîm clirio sbwriel.
b. Rhaid i arddangoswyr sicrhau bod pobl yn bresennol ar eu safleoedd pan fydd y digwyddiad ar agor i'r cyhoedd h.y. 8.00am tan 3.30pm ar y dydd Sul. Bydd arddangoswyr nad ydynt yn cydymffurfio'n colli'r safle a'r ffïoedd a dalwyd.
c. Rhaid gosod y giardiau angenrheidiol ar arddangosion neu gyfarpar sy'n cynnwys darnau symudol i gydymffurfio â rheoliadau diogelwch safonol sy'n rheoli'r math hwnnw o arddangosyn.
ch. Dylai arddangoswyr sy'n dymuno codi mast neu adeiledd sy'n uwch na 4 metr gael caniatâd o flaen llaw gan y trefnwyr.
d. Ni chaiff arddangoswyr rwystro unrhyw aleau neu fannau agored, ac ni chânt osod arwydd neu dafluniad dros aleau neu fannau agored, neu effeithio ar unrhyw arddangosiad gerllaw.
dd. Rhaid i arddangoswyr sydd am osod arwydd, hysbyslen neu hysbyseb mewn unrhyw leoliad ar wahân i'w safle nhw gael caniatâd ysgrifenedig y trefnwyr.
e. Nid oes cyfleusterau storio ar safle'r digwyddiad.
f. Ni fydd y trefnwyr yn atebol am fethu cyflenwi unrhyw gyfarpar neu gelfi a huriwyd ar ran arddangoswr. Ni fydd y chwaith hawl gan yr arddangoswr i gael ad-daliad, neu ad-daliad rhannol, o unrhyw ffïoedd safle os ni ddarperir cyfarpar neu gelfi o'r fath.
ff. Defnyddir generaduron ar yr amod nad ydynt yn tarfu ar arddangoswyr eraill na'r cyhoedd. Cedwir yr hawl gan y trefnwyr i ofyn am waredu unrhyw gyfarpar y derbynnir cwynion amdano.
g. Cerbydau sy'n rhan annatod o'r arddangosfa/stondin yn unig a ganiateir ar safle'r arddangosfa. Rhaid i'r holl gerbydau eraill gael eu parcio yn y meysydd parcio cyhoeddus dynodedig.
ng. Unwaith y byddant ar y safle, ni all cerbydau gael eu symud pan fydd y digwyddiad ar waith.
h. Ni chaiff arddangoswyr ddod â chŵn neu anifeiliaid anwes i'r digwyddiad.
i. Ni chaiff arddangoswyr gynnau unrhyw fath o farbeciw awyr agored ar eu safle masnachu, neu yn unrhyw le arall yn y digwyddiad.
11. Clirio'r safle
a. Ni all unrhyw arddangoswr glirio cyn 3.30pm ddydd Sul 14 Medi 2025.
b. Ni all arddangoswyr adael eu safle tan 3.30pm ddydd Sul 14 Medi i osgoi tagfeydd traffig a rhaid bod y safle wedi'i glirio'n llwyr erbyn 10.00am ddydd Llun 15 Medi ac eithrio gyda chaniatâd uniongyrchol y trefnwyr. Gall arddangoswyr sy'n anwybyddu'r amserau hyn gael eu gwahardd o fasnachu yn y dyfodol. Ar ôl yr amser hwn, gall y trefnwyr gael gwared ar unrhyw wrthrychau y gwelir eu bod ar werth, a bydd yr arddangoswr yn gorfod talu'r gost. Rhaid gadael y safle yn yr un cyflwr ag yr oedd ar y dechrau. Caiff unrhyw ddifrod a achosir gan yr arddangoswr ei asesu gan y trefnwyr, a'r arddangoswr fydd yn gorfod talu'r gost i'w atgyweirio.
12. Canslo
a. Cedwir yr hawl gan y cyngor i gau unrhyw uned nad yw'n gweithredu er lles y digwyddiad: e.e. towtio a phedlera. Mewn achos o'r fath, ni fydd y ffi'n cael ei had-dalu. Bydd arddangoswyr sy'n tynnu yn ôlneu ganslo lle am unrhyw reswm yn colli'r holl ffïoedd a dalwyd ac mae Trefnydd y Digwyddiad yn cadw'r hawl i ail-osod lle o'r fath. Ni fydd arddangoswyr sy'n tynnu yn ôl ac yn canslo'n cael eu had-dalu.
13. Cynaliadwyedd
a. Rhaid i bob cynhwysydd bwyd a diod fod naill ai'n ailddefnyddiadwy, yn ailgylchadwy neu'n gompostiadwy. Ni chaniateir gwydr na phlastig wedi'i chwalu. Ni ddylid defnyddio polystyren.
b. Fe fyddwn yn darparu biniau ailgylchu i chi eu defnyddio. Rhoddir blaenoriaeth i arlwywyr sydd yn ddangos agwedd gyfrifol at ailgylchu.
14. Iechyd, diogelwch a diogeledd
a. Asesu risgiau. Mae arddangoswyr yn gyfrifol am ddiogelwch eu gweithwyr ac unrhyw drydydd partïon o ran eu gweithgareddau ac yn arbennig am arddangos unrhyw arddangosiadau neu arddangosfeydd sy'n gweithio'n ddiogel.
b. Rhaid caniatáu mynediad i'r safleoedd ar bob adeg i'r trefnwyr a'r gwasanaethau iechyd a diogelwch swyddogol at ddibenion archwilio.
c. Mae arddangoswyr yn gyfrifol am ddiogelwch eu harddangosfeydd a'u heiddo ar bob adeg. Nid oes ffens o amgylch y safle.
ch. Polisi dim smygu. Rhaid i'r holl fasnachwyr lynu wrth y ddeddfwriaeth ysmygu bresennol; yn arbennig, mae'n rhaid i stondinau masnachu sy'n caniatáu mynediad cyhoeddus arddangos arwyddion Dim Smygu swyddogol.
d. Gwasanaethau diogelwch. Bydd gweithwyr diogelwch yn patrolio'r safle gyda'r hwyr a thros nos nos Sadwrn 13 Medi, ac er y gwneir pob ymdrech i ddiogelu eiddo, ni all y trefnwyr sicrhau diogelwch eiddo'r arddangoswyr.
dd. Rhagofalon tân. Rhaid i'r holl arddangoswyr gael diffoddiaduron tân addas a digonol wrth law ger eu stondinau. Mae'n rhaid i arddangoswyr mwy (e.e. Pebyll Crefftau) weithredu rhagofalon tân ar eu safle yn unol ag Arweiniad y Swyddfa Gartref ar Ragofalon Tân mewn Mannau Presennol o Adloniant ac Eiddo Tebyg'.
e. Cydymffurfio â deddfwriaeth. Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gydymffurfio â holl weithredoedd a deddfwriaeth bresennol y llywodraeth ac unrhyw gyfarwyddebau CEE sy'n ymwneud ag arlwyo allanol, gan gynnwys ''Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974' (a chodau ymarfer perthnasol). Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a rheoliadau Hylendid Bwyd 2006.
f. Trydan. Rhaid i pob eitem trydanol a ddefnyddir gael prawf PAT (prawf offer cludadwy) gan gynnwys yr holl geblau a gwifrau pŵer. Mae'n rhaid i pob drelar cael thystysgrif cymeradwyo / gwaith papur trydanol diweddar a dilys.
ff. Nwy. Rhaid sicrhau pob silindr nwy petrolewm hylifedig (LPG); cysylltwyr cloeon chwim yn unig a chaniateir/ni chaniateir dod â mwy na 200kg ar y safle ar unrhyw un adeg. Mae'n ofynnol i bob peiriant nwy gael tystysgrif diogelwch nwy cyfredol.
15. Os bydd argyfwng
a. Rhowch wybod yn syth i'r trefnwyr neu unrhyw swyddogion diogelwch mewn lifrai.
b. Sicrhewch fod pawb yn cael eu symud o ardal y digwyddiad yn bwyllog.
c. Cadwch fynedfewydd yn glir ar gyfer cerbydau'r gwasnaethau brys.