10k Bae Abertawe - cais am stondin masnachu
Rydym yn chwilio am fasnachwyr arloesol a chreadigol.
Dydd Sul 14 Medi 2025
Mae diwrnod y ras yn cynnig i cyfle i:
- Gyrraedd 10,000 o ddarpar gwsmeriaid.
- Arddangos eich brand a'ch cynnyrch.
- Bod yn rhan o un o rasys ffyrdd gorau'r DU.
Gwybodaeth gyffredinol:
- Yr oriau masnachu yw rhwng 7.30am a 3.30pm
- Rhaid bod y masnachwyr wedi gosod ei stondin erbyn 7.00am fan bellaf.
- Mae 5,000 o redwyr yn cymryd rhan bod blwyddyn.
- Disgwylir i 5,000 o wylwyr ddod i'r digwyddiad hefyd.
- Digwyddiad am ddim i ymwelwyr.
Y manylion
Gall masnachwyr wneud cais am fan masnachu awyr agored (hyd blaen sydd o leiaf 3m i fasnachwyr ac elusennau, hyd blaen sydd o leiaf 6m ar gyfer bwyd a diod).
Dylai'r lle a archebir fod yn ddigon mawr i gynnwys pob agwedd ar eich stondin/unedau masnachu.
Rhoddir blaenoriaeth i fasnachwyr a fydd yn cyd-fynd ag awyrgylch chwaraeon y digwyddiad hwn, yn ddelfrydol wedi'i gysylltu â'r diwydiant rhedeg / ffitrwydd / lles.
Mae Cyngor Abertawe'n cadw'r hawl i wrthod ceisiadau yn ol ei ddisgresiwn.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd cais yw 29 Awst 2025.
Sut rydw i'n gwneud cais?
- Cwblhewch y ffurflen gais isod.
- Dylech gynnwys copi o'ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
- Cwblhewch y Cytundeb Indemniad.
- Dylech gynnwys disgrifiad a llun o'ch uned a'r cynnyrch a'r prisiau.
- Lanlwythwch gopi o'ch Asesiad Risg Tan.
- Er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig amrywiaeth o nwyddau addas i'n cwsmeriaid a'n bod yn galluogi ein masnachwyr i barhau i fod yn gystadleuol, gellir gwrthod rhai ceisiadau. Os nad ydych yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu a chi i drefnu i ad-dalu eich fi am wrneud cais.
- 10k Bae Abertawe - rheolau a rheoliadau ar gyfer masnachwyr
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch a'r: Tîm Digwyddiadau Arbennig.