Toglo gwelededd dewislen symudol

Prydau ysgol am ddim i 2,400 o ddisgyblion derbyn

Mae mwy na 2,400 o ddisgyblion derbyn yn Abertawe wedi cael cynnig prydau am ddim ers i'r ysgol ailddechrau ym mis Medi.

school meals generic

Mae Cyngor Abertawe'n gweithio'n agos gydag ysgolion i ehangu'r cynnig i flynyddoedd eraill cyn gynted â phosib wrth iddo weithio tuag at roi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd erbyn 2024 ar waith.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae'r cyngor yn buddsoddi mewn cyfarpar a staff newydd yn ogystal ag addasiadau i geginau mewn rhai ysgolion, er mwyn gallu cyrraedd y targed erbyn 2024.

Er bod pob disgybl mewn dosbarth derbyn yn cael cynnig pryd o fwyd am ddim, ac efallai y bydd rhai teuluoedd ar incwm isel hefyd yn gymwys ar gyfer buddion ychwanegol fel y grant gwisg ysgol a gostyngiad ar dripiau ysgol.

Gall teuluoedd a all fod yn gymwys ond nad ydynt wedi gwirio'r meini prawf eto wneud hynny drwy fynd i https://www.abertawe.gov.uk/prydauysgolamddim  ac yna llenwi'r ffurflen.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Yn ystod yr argyfwng costau byw hwn mae addewid prydau ysgol am ddim Llywodraeth Cymru yn bwysicach nag erioed.

"Erbyn 2024 bydd pob plentyn mewn ysgolion cynradd yn cael cynnig pryd ysgol am ddim ac yn Abertawe rydym eisoes yn gwneud cynnydd da wrth baratoi i gyflawni'r ymrwymiad hwn.