Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Asesiad digonolrwydd gofal plant - cynllun gweithredu

Mae'r cynllun gweithredu yn cyflwyno gofynion ar gyfer ymdrin â meysydd diffygiol a nodwyd yn yr asesiad.

Ar ben hynny, yn achos meysydd y bernir eu bod yn ddigonol, rhaid i'r cynllun ystyried camau priodol i gynnal y lefel honno.

Gan fod Asesiadau blaenorol wedi nodi bylchau ymddangosiadol y gwelwyd wedi hynny nad oeddent yn achosi trafferthion, mae Cynllun Gweithredu 2022 yn cynnwys rhagor o gamau i ymchwilio ymhellach i fwlch neu broblem a ganfyddwyd. Bydd hyn yn gwneud camau gweithredu'n fwy effeithiol ac ystyrlon, yn hytrach nag ymrwymo adnoddau i gam gweithredu na fydd angen amdano o bosib.

Cynllun gweithredu
Adran 1: Cyfeiriad strategol
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Angen sicrhau dull gweithredu cydlynus ar gyfer y rhai sy'n derbyn y gwasanaeth.Datblygu pellach ar ddull gweithredu 'Drws Blaen' i'r Blynyddoedd Cynnar.ALI / partneriaidParhausAmser swyddogion / partneriaidUn pwynt mynediad wedi'i nodi, a mecanweithiau effeithiol ar waith.
Angen sicrhau bod canfyddiadau ac argymhellion yr Asesiad Digonolrwydd gofal Plant yn sbarduno polisi a chyllid gofal plant

Sichrau bod y canfyddiadau a'r camau gweithredu yn cael eu cynnwys mewn polisi lleol a chynllunio strategol.

Sicrhau bod meini prawf ariannu lleol yn adlewyrchu canfyddiadau'r asesiad.

ALIParhaus

Amser swyddogion / partneriad

Arian craidd / allanol sydd eisoes yn bodoli.

Mae'r holl bolisi a chynllunio perthnasol yn rhoi sylw dyledus i ganfyddiadau ac argymhellion yr asesiad.
Sicrhau bod partneriaid mewnol ac allanol yn cael eu cefnogi i gyfrannu at weithredu'r asesiad digonolrwydd gofal plant.

Asesu capasiti mewnol, gan gynnwys cynnal rôl gefnogi'r asesiad digonolrwydd.

Sicrhau bod partneriad allanol e.e. swyddogion datblygu, yn derbyn adnoddau effeithiol.

 Mawrth 2023

Arian craidd / allanol sydd eisoes yn bodoli.

Arian allanol sydd eisoes yn bodoli

Cefnogaeth ddigonolrwydd barhaus ar waith i ganfod ac ymateb i'r angen.

Capasiti i gefnogi lleoliadau a datblygu camau gweithredu blaenoriaeth.

Adran 2: Gweithio mewn partneriaeth ac ymgynghori
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Sicrhau ymgysylltiad parhaus

Arolygon rhanddeiliaid blynyddol.

Nodi canfyddiadau a thueddiadau ychwanegol.

ALI / partneriadYn flynyddol

Amser swyddogion / partneriad.

Amser swyddogion / partneriad

Nodir bylchau ac anghenion.
Cydnabod yr angen am ddull gweithredu mewn partneriaeth er mwyn cyflawni digonolrwydd yn effeithiol.Parhau i ariannu swyddogion datblygu cyrff trosfwaol â thargedau i adlewyrchu digonolrwydd.ALI / cyrff trosfwaolParhausArian allanol sydd eisoes yn bodoliCefnogaeth i ymdrin â chamau gweithredu a blaenoriaethau.
Angen sicrhau bod barn rheini'n cael ei chlywed fwy nag unwaith bob 5 mlynedd.

Cynnal ymgynghoriad blynyddol â rhieni / gofalwyr.

Datblygu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol fel bo modd bwydo safbwyntiau i mewn.

ALI / parneriaid

 

ALI

Yn flynyddol

 

Mawrth 2023

Amser swyddogion / partneriaid

Sichau bod angenion cyfredol yn cael eu nodi.

Cefnogi cyfleoedd i fwydo safbwyntiau i mewn.

Adran 3: WESPs
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Angen hyrwyddo manteision bod yn ddwyieithog.Cynyddu'r cynnig cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg fel rhan o strategaeth farchnata ehangach.ALI / partneriaidMawrth 2025Arian grant newydd / sydd eisoes yn bodoliCynnydd yn nifer y lleoedd cyn-ysgol sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
Angen datblygu opsiynau gofal plant difwlch trwy gyfrwng y Gymraeg i gefnogi rhieni.

Gweithio gyda'r Mudiad Meithrin i agor 3 lleoliad Cylch Meithrin newydd (ar hyn o bryd mae 7 lleoliad yn Abertawe) yn ardaloedd dalgylch ysgolion YGG Lôn Las, YGG Y Login Fach ac YGG Tan-y-lan ac archwilio cyfleoedd.

Ar ben hynny, ceisio cynyddu capasiti swyddogion datblygu i alluogi hyn.

ALI / Mudiad MeithrinMawrth 2025Arian grant newydd / sydd eisoes yn bodoliCynydd yn nifer y lleoedd gofal difwlch sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
Angen cynyddu'r cyfloedd i rieni a'u plant ryngweithio'n gynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.Gweithio gyda'r Mudiad Meithrin a phartneriaid eraill i gychwyn 5 Cylch newydd Ti a Fi (mae 9 yn Abertawe ar hyn o bryd)ALI / Mudiad MeithrinMawrth 2025Arian allanol sydd eisoes yn bodoliCynnydd yn nifer y teuluoedd sydd â'r hyder i ddewis gofal plant cyfrwng Cymgraeg.
Angen cynyddu defnydd o'r Gymraeg ac archwilio cyfleoedd ar gyfer mwy o leoliadau cyfrwng Cymraeg.

Datblygu strategaeth iaith i'r Gymraeg ar draws ein holl leoliadau Dechrau'n Deg.

ALI / partneriaidMawrth 2024Amser swyddogion / partneriadStrategaeth ar waith, gyda chanlyniadau mesuradwy sy'n ceisio cynyddu defnydd o'r Gymraeg.
Angen sicrhau bod cefnogaeth ddatblygu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ei lle i helpu i gyflawni'r camau gweithredu.Parhau i ariannu oriau datblygu'r Mudiad MeithrinALIParhauseArian allanol sydd eisoes yn bodoliCefnogaeth ddatblgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar waith i helpu i gyflawni canlyniadau.
Angen hybu cofrestriad AGC Clybiau tu allan i'r ysgol sy'n gwasanaethu ysgolion cyfrwng Cymraeg (5 allan o 9 heb eu cofrestru), fel bod gofal plant addas wrth i'r plentyn dyfu.Hybu manteision cofrestru i'r lleoliadau a nodwyd.ALI / partneriadParhausAmser swyddogion / partneriaidCynnydd yn y lleoliadau a nodwyd sydd wedi cofrestru.
Adran 4: Trosolwg - mathau o ofal plant, gwasanaethau a lleoedd
Adran 5: Y cyflenwad o ofal plant
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Gallai Covid fod wedi achosi'r gorgyflenwad canfyddedig.Angen monitro lleoedd gwag i benderfynu a yw hyn yn gywirALIYn flynyddolAmser swyddogion / partneriaidPennu lefel y cyflenwad
Posibilrwydd y gallai darpariaeth heb ei chofrestru yn ystod y gwyliau effeithio ar gyfle darpariaeth gofrestredig i ddarparu gofal.Sicrhau nad yw cyllid yn cael ei ddyrannu i ddarpariaeth heb ei chofrestru lle mae gofal gwyliau sydd wedi cofrestru gydag AGC eisoes yn bodoli.ALI / partneriaidMawrth 2024Arian craidd / allanol sydd eisoes yn bodoli.Nid yw darpariaeth gofrestredig yn colli tir i ofal rhatach sydd heb ei gofrestru.
Mae'r ffaith nad yw clybiau gweithgaredd yn ystod y gwyliau yn cofrestru yn golygu bod safon ac arfer da yn anoddach penderfynu yn eu cylch.

Ymgysylltu'n agosach â darpariaeth heb ei chofrestru yn y gwyliau.

Annog cofrestru a rhoi cefnogaeth i gaffael cymwysterau.

ALI / sefydliadau partnerParhaus

Amser swyddogion / partneriaid

Cynyddu'r berthynas er budd o'r ddeutu.

Potensial i fonitro ymarfer.

Mae llawer o rieni'n anghyfarwydd â'r gwahaniaeth rhwng lleoliadau cofrestredig a rhai heb eu cofrestru.Cynyddu dealltwriaeth o fanteision bod yn ddarpariaeth gofrestredig gydag AGC.ALI / partneriaidMawrth 2023Amser swyddogion / partneriaidRhieni'n cael eu cynghori'n well i wneud penderfyniadau.
Dywedodd 22% o'r lleoliadau eu bod yn methu gofalu am blant 'nad oeddent yn siarad Saesneg / Cymraeg'.Asesiad ychwanegol i ganfod beth sy'n cael ei olygu, gyda gweithredu fel sy'n briodol.ALI / partneriaidMawrth 2023Amser swyddogion / partneriadSichrau darlun cliriach ac ymateb fel sy'n briodol.
Adran 6: Anghenion rheini / gofalwyr (y galw am ofal plant)
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Nifer uchel o ymatebwyr yn nodi bod cost yn rhwystr i ofal plant.

Mwy yn manteisio ar gredydau treth (gweler 13).

Gweithio gyda lleoliadau ar ostyngiadau i siblingiaid ac eraill.

ALI / partneriaidParhause

Amser swyddogion / partneriaid.

Arian craidd / grantiau sydd eisoes yn bodoli.

Cynnydd yn y teuluoedd sy'n manteisio ar gredydau treth.

Llai yn adrodd bod cost yn rhwystr.

Rheini'n sôn am ddiffyg 'dewis' o ran gofal plant (er eu bod yn nodi bod gofal plant ar gael iddynt).Ystyried goblygiad 'dewis' fel mater posibl i roi sylw iddo.ALIMawrth 2024Amser swyddogionCanfod a yw dewis annigonol yn golygu bod angen mwy o darpariaeth.
Canfyddiad dealledig y byddai'n well gan rieni gael gofal ffurdiol, ond eu bod yn ddiweddarach yn dewis gofal anffurfiol gan rieni.Gwneud gwaith ymchwil / ymgysylltu ychwanegol i ganfod y rhesymau am hyn.ALI / partneriaidMawrth 2023Amswer swyddogion / partneriaidTystiolaeth ychwanegol i ganfod unrhyw rwystrau penodol i gyflawni'r nod.
Angen gwneud rhieni / gofalwyr yn rhan o gynllunio a datblygu polisi.Datblygu hyrwyddwyr sy'n rhieniALIMawrth 2023Amser swyddogionHyrwyddwyr sy'n rhieni ar waith ac wedi ymgysylltu.
Roedd lefel bodlonrwydd ynghylch darpariaeth yn y gwyliau yn is nag yn ystod y tymor.Asesu ymhellach pam mae'r gwahaniaeth hwn yn bodoli a rhoi mesurau unioni ar waith lle bo hynny'n briodol.ALIMawrth 2024Amser swyddogionCanfod a yw'r lefel boddhad yn is ac ymdrin â'r rhesymau.
Awgrym y byddai mwy o deuluoedd yn hoffi i'w plentyn fynychu darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg nag sydd ar gael yr hyn o bryd.Asesu pellach i weld pam maen nhw'n teimlo hynny.ALI / partneriaidMawrth 2024Amser swyddogion / partneriaidCanfod a yw hyn yn cynrychioli diffyg.
Sicrhau bod anghenion rhieni a nodwyd yn yr asesiad digonolrwydd gofal plant yn derbyn sylw dilynol i gadarnhau eu dilysrwydd.Datblygu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol neu ymgysylltu â rhieni mewn modd arall i 'brofi'r' canfyddiadau allweddol.ALI / partneriaidMawrth 2023Amser swyddogion / partneriaid'Presenoldeb digonolrwydd gofal plant' yn ei le ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ystyried canfyddiad Coram ynghylch diffyg yn y gofal gwyliau i blant 12-14 oed.Canfod a yw hwn yn broblem neu'n achos o ddiffyg galw.ALI / partneriaidMawrth 2025Amser swyddogion / partneriaidYmchwil wedi'i gwblhau yn dangos tystiolaeth ynghylch a oes bwlch neu beidio.
Adran 7: Dosbarthiad daearyddol
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Diffyg posibl o ofal plant mewn ardaloedd a nodwyd.Asesu pellach i weld a yw'r 'diffyg canfyddedig' yn wir.ALI / partneriaidMawrth 2023Amser swyddogion / partneriaidCanfod a yw'r bylchau canfyddedig yn gywir ac yn ymateb yn unol â hynny.
Ymateb i fylchau dosbarthiad a nodwyd.Mynd ati i ymghysylltu mewn ardaloedd y nodwyd eu bod yn ddiffygiol.ALI / partneriaidMawrth 2023Amser swyddogion / partneriaidCeisio cynyddu'r ddarpariaeth mewn ardaloedd allweddol.
Adran 8: Cynaliadwyedd
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Ystyried gorgyflenwad posibl mewn rhai ardaloedd.Asesu gorgyflenwad posibl ac unrhyw anawsterau y gallai eu creuALI / partneriaidMawrth 2024Amser swyddogion / partneriaidCanfod a all gorgyflenwad effeithio ar gynaliadwyedd
Angen nodi cynaliadwyedd lleoliadau i'r dyfodol.

Cynnal gwiriadau iechyd busnes.

Arolwg o'r sector i asesu cynaliadwyedd.

Cynghori ar arian grantiau i gefnogi cynaliadwyedd

ALI / partneriaid

Parhaus

Mawrth 2023

Parhaus

Amser swyddogion / partneriaid

Canfod cynaliadwyedd lleoliadau, gan gynnwys pryderon.

Dull asesu ychwanegol.

Cefnogaeth ariannol i leoliadau.

Mae llawer o leoliadau'n ansicr a fyddant yn gweithredu yn yr 1-2 flynedd nesaf.Canfod pam y teimlir hyn a beth gellir ai wneud i roi sylw iddo.ALI / partneriaidMawrth 2023Amser swyddogion / partneriaidGelli ymdrin ag achosion posibl o gau lle bo hynny'n briodol.
Gostyngiad posibl yn y gofynion o ran gofal plantYmchwiliadau pellach, gan gynnwys monitro lleoedd gwag.ALI / partneriaidMawrth 2023Amser swyddogion / partneriaidMwy o allu i ganfod y galw'n barhaus
Pryder bod problemau recriwtio yn effeithio ar gynaliadwyeddYstyried fel rhan o adran datblygu'r gweithluALI / partneriaidParhausAmser swyddogion / partneriaidFel y manylir yn adran 14.
Adran 9: Trawsffiniol
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Canfod a yw ceisiadau trawsffiniol yn cael effaith ormodol ar leoliadau sydd ar y ffin rhwng siroedd.Ymchwll ychwanegol gyda lleoliadau perthnasol i ganfod a yw hyn yn ffactor.ALI / partneriaidParhausAmser swyddogion / partneriaidSicrhau mwy o fewnwelediad i anghenion
Adran 10: Covid-19
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Sicrhau bod lleoliadau'n parhau i fod yn gynaliadwy wedi i unrhyw gyllid cynaliadwyedd ychwanegol ddod i ben.gweithio gyda phartneriaid i ganfod a yw lleoliadau'n mynd i ddibynnu ar gyllid ychwanegol.ALI / partneriaidMawrth 2023Amser swyddogion / partneriaidCanfod a oes dibyniaeth neu a yw lleoliadau'n hunangynhaliol.
Sicrhau nad yw plant yn colli cyfle hanfodol i ddatblygu'n gymdeithaol oherwydd nad ydynt yn mynychu gofal plant.Hyrwyddo gwerth gofal plant a manteision chwarae ymhlith rhieni / gofalwyr p'un a ydyn nhw'n gweithio oddi cartref neu gartref, e.e. y llyfryn Dewis gofal Plant.ALI / partneriaidParhausAmser swyddogion / partneriaid

Nid yw peidio â mynychu darpariaeth gofal plant yn cael effaith ormodol ar hawl plant i chwarae.

Mae rhieni'n cael cyngor gwell i wneud penderfyniadau ynghylch gofal.

Angen canfod a yw blaenoriaethau a nodwyd yn ystod Covid yn dal yn berthnasol.Sicrhau bod adroddiadau cynnydd blynyddol yn asesu targedau cysylltiedig â Covid ac a ydynt yn dal yn ddilys, cyn penderfynu a ddylid eu cynnal neu eu dileu.ALI / partneriaidYn flynyddolAmser swyddogion / partneriaidSicrhau bod targedau'n parhau'n ddilys.
Adran 11: Poblogaeth
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Y gyfran uchel o LSOAs difreintiedig a darparu gofal plant fforddiadwy.Gwaith yn ardaloedd Townhill, Penderi a mannau eraill difreintiedig i gynyddu'r cyfleoedd gofal plant fforddiadwy.ALI a phartneriaid, Cydlynu Ardal LeolMawrth 2024Arian craidd / allanol sydd eisoes yn bodoliMae teuluoedd mewn ardaloedd blaenoriaeth yn teimlo'n fwy abl i ddefnyddio gofal plant ffurfiol.
Gan fod lefel uchel o gyflogaeth ym maes iechyd, mae'n bwysig bod y ddarpariaeth yn ymateb i'r angen.

Ymgysylltu'n ychwanegol â'r bwrdd iechyd lleol i asesu digonolrwydd.

ALIMawrth 2023Amser swyddogionMwy o ddealltwriaeth o anghenion gofal plant sector allweddol.
Gan fod llai o fenywod na gwrywod mewn cyflogaeth, ac eto'n ennill mwy, a yw gofal plant yn gweithredu fel rhwystr cysylltiedig â rhywedd i ennill arian?Ymgynghori ychwanegol i ganfod dewisiadau gyrfa / gofal plant.ALI / partneriaidMawrth 2024Amser swyddogion / partneriaidCanfod a yw cyflogaeth enillwyr uchel posibl yn cael ei hatal gan ofynion gofal.
Adran 12: Yr asesiad digonolrwydd gofal plant a chynlluniau llesiant lleol
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Parhau i ddarparu tystiolaeth o gyfraniad gofal plant wrth ymdrin â thlodi.Cyfrannu at y fforwm tlodi a'r strategaethALIParhausAmser swyddogionMae'r rhai sy'n byw mewn tlodi yn cael eu cefnogi'n well i ddefnyddio gofal plant ffurfiol.
Sicrhau bod gofal plant yn cael ei gydnabod wrth gynllunio addysg.Ymgysylltu â chydweithwyr addysg i sicrhau cynrychiolaethALIMawrth 2023Amser swyddogionMae lleoliadau mewn ysgolion yn teimlo bod eu hanghenion yn cael eu deall a'u hystyried.
Sicrhau bod datblygiadau tai allweddol yn cael eu hystyried wrth gynllunio digonolrwydd.Cynnwys arweinydd y CDLI yn y gweithgor a nodi safleoedd strategol allweddol.ALIParhausAmser swyddogionLle bydd lefel sylweddol uwch o dai yn cael eu codi, mae cynllun i ymdrin â'r cynnydd yn y galw.
Sicrhau bod cyfraniad i'r Cynllun Llesiant a pholisi a strategaethau eraill yn cael ei gydnabod a'i fonitroNodi polisi perthnasol a sicrhau bod cysylltiadau'n bodoli a chyfraniadau'n cael ue gwneud.ALIParhausAmser swyddogionMae gofal plant yn cael ei gydnabod a'i ystyried yn y polisi perthnasol.
Adran 13: Rhwystrau i'r ddarpariaeth gofal plant
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Cost gofal plant yw'r prif bryder i deuluoedd.

Annog lleoliadau i gynnig gostyngiad siblingiaid a chostau is eraill.

Dosbarthu'r llyfryn Dewis gofal Plant, sy'n cynnwys adran ar help gyda chost gofal plant.

ALI / partneriaid

Mawrth 2023

Arian craidd / allanol sydd eisoes yn bodoli

Teuluoedd sydd â nifer o blant yn cael bod gofal plant ffurfiol yn fwy fforddiadwy.

Mwy o ddealltwriaeth o gefnogaeth ar gyfer costau gofal plant.

Nifer bach yn manteisio ar Ofal Plant Di-dreth.

Cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth i gynyddu'r rhai sy'n manteisio ar hyn.

Ceisio ymdrin â'r nifer llai sydd i weld yn manteisio ar hyn yn Nwyrian Abertawe.

cynyddu ymwybyddiaeth lleoliadau a'u gallu i gynghori teuluoedd ynghylch budd-daliadaus.

Cynyddu nifer y lleoliadau sydd wedi cofrestru i gefnogi'r cynllun.

ALI / partneriaid

Mawrth 2023

Mawrth 2024

Mawrth 2023

Mawrth 2025

Amser swyddogion / partneriaid

Mwy o ymwybyddiaeth ymhlith teuluoedd.

Mwy yn manteisio ar hyn yn Nwyrain Abertawe.

Lleoliadau'n sôn am allu cynyddol i gynghori rhieni.

Cynnydd yn y nifer sydd wedi cofrestru.

Ymateb lleoliadau (Mawrth 2021) nad ydynt yn teimlo bod ganddyn nhw'r wybodaeth a'r gefnogaeth i ofalu'n effeithiol am blant ag ADY.

Parhau i estyn y gefnogaeth a'r hyfforddiant ADY.

Gwneud gwaith ymchwll ychwanegol i ganfod a yw'r farn wedi newid.

ALI

Parhaus

 

Mawrth 2023

Amser swyddogion

Cynnydd yn y niferoedd sydd wedi mynychu hyfforddiant.

Cynnydd yn y lleoliadau sy'n teimlo'n hyderus eu bod wedi diwallu anghenion.

Yr angen am sicrhau bod teuluoedd yn ymwybodol o gefnogaeth ar y cyfle cyntaf.Nodi proses effeithiol ar gyfer rhoi gwybod i deuluoedd am gefnogaeth i gael mynediad i ofal plant.ALI / partneriaidMawrth 2023Amser swyddogion / partneriadCaiff teuluoedd plant ag Anabledd / sydd ag ADY gefnogaeth yn gynt.
Barn rhai teuluoedd yw nad oes darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael iddyn nhw.Gwneud gwaith penodol i fesur lefelau'r ddarpariaeth Gymraeg a'u mapio yn erbyn yn galw.ALIMawrth 2024Amser swyddogion / partneriaidNodi bylchau neu rwystrau i'r ddarpariaeth Gymraeg
Adran 14: Darpariaeth am ddim o ran Addysg Feithrin, Dechrau'n Deg a'r Cynnig Gofal Plant
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Y cynnig i estyn gofal plant a ariannir i blant 2 oed.Cynllun ar gyfer effaith yr estyniad, gan gynnwys adnoddauALIMawrth 2023Amser swyddogionLlwyddo i estyn y gwaith ehangu, gyda manteision cysylltiedig
Ystyried Cynnig Cymreig Dechrau'n DegDatblygu cynllun i ymateb i'r angenALI / partneriaidMawrth 2023Amser swyddogion / partneriaidCyflawni'r gofynion o ran darpariaeth Gymraeg.
Angen cefnogi'r rhai sydd mewn angen y tu allan i ddalgylch Dechrau'n Deg.Datblygu ac ymestyn Allgymorth Dechrau'n Deg ymhllach.ALIMawrth 2024Arian newydd / sydd eisoes yn bodoli.Rhaglen allgymorth effeithiol ar waith, yn ymateb i anghenion teuluoedd blaenoriaeth.
Adran 15: Datblygu a hyfforddi'r gweithlu
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Ymdeimlad bod y sector yn teimlo nad oes neb yn eu gwerthfawrogi.Hyrwyddo'r sector, gan gynnwys ei gyfraniad allweddol, gyda golwg ar gynyddu cydnabyddiaeth ac annog staff newydd i ddod i'r sectorALI / partneriaidMawrth 2024Amser swyddogion / partneriaidMwy o deimlad eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ymhlith staff y sector.
Problemau recriwtio a chadw mae lleoliadau'n eu hwynebu

Hyrwyddo gofal plant ymhellach fel opsiwn gyrfa.

Ceisio darparu cymhelliad ar gyfer datblygu gyrfa.

Nodi rhwystrau a allai atal recriwtiaid newydd rhag dod i gael eu hyfforddi.

Archwilio rhannau o'r sector lle llwyddwyd i gadw staff.

ALI / partneriaid

Cyngor Gyrfaoedd

Ongoing

 

Mawrth 2024

 

Mawrth 2025

 

Mawrth 2024

Amser swyddogion / partneriaid

Cynyddu'r niferoedd ar gyrsiau ac mewn rolau.

Nodi ffyrdd o sicrhau cymhelliad er mwyn cadw staff.

Mae'r rhwystrau'n derbyn sylw a myw yn manteisio ar gyfleoedd.

Rhennir arfer da fel bob pawb yn elwa.

Mae datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn hanfodol, a rhaid rhoi sylw i'r rhwystrau.

Nodi'r llwybrau a ddefnyddiwyd i gefnogi DPP e.e. y GGD etc.

Ymdrin â'r rhwystrau i reolwyr ac ymateb iddynt, gan ryddhau staff i fynychu hyfforddiant.

ALI

 

ALI / partneriaid

Mawrth 2023

Amser swyddogion / partneriaid.

Arian craidd / allanol sydd eisoes yn bodoli.

Llwybr DPP yn ceal ei nodi a'i hyrwyddo.

Ymateb yn cael ei nodi, e.e. arian grant, cyrisau ar-lein etc.

Beth yw'r cam nesaf ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau gofal plant newydd?

Nodi ymadawyr o golegau lleol a darparwyr hyfforddiant.

Deall cynlluniau ymadawyr ar ôl hyfforddi. Cynnig cyngor ac arweiniad i gefnogi recriwtio gweithwyr chwarae a gofal plant.

ALI / partneriaid

Mawrth 2023

 

Mawrth 2024

Amser swyddogion / partneriaid

System y cytunwyd arni ar gyfer adnabod graddedigion a chynnig cefnogaeth.

Tystiolaeth o effaith gadarnhaol y gefnogaeth.

Nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n mynd i gyflogaeth ym maes Gofal Plant / Chwarae.

Nifer presennol y siaradwyr Cymraeg sy'n gweithio ym maes Gofal Plant / Chwarae.

Cyfrannu at gynllun 10 mlynedd Abertawe ar gyfer y Gymraeg.

Datblygu'r Cynnig Gweithredol ymhellach.

ALI / partneriaidParhaus

Amser swyddogion / partneriaid.

Arian craidd / allanol sydd eisoes yn bodoll.

Cyfraniad gofal plant i ddatblygiad y cynnlun.

Mwy o ymwneud ymhlith lleoliadau

Ymdrin â nifer y staff sydd heb hymhwyster perthnasol.Asesiad pellach o lefelau cymwysterau.ALIMawrth 2024Amser swyddogion / partneriadiCodi lefel y cymwysterau o fewn y sector.
Datblygu'r cynnig digidolCefnogi estyn y cynnig digidol, ymhlith lleoliadau.ALI / partneriaidMawrth 2025

Amser swyddogion / partneriaid.

Arian craidd / allanol sydd eisoes yn bodoli.

Lleoliadau wedi'u paratoi i gyflwyno'r cynnig digidol.
Mabwysiadu dulliau priodol o ymdrin ag ansawddDarparu dull addysgeg ymhellach, gan gynnwys strategaeth ar gyfer y gweithluALI / partneriaidMawrth 2024Amser swyddogion / partneriaidDefnyddir y dull addysgeg oddi mewn i leoliadau.
Nodwyd mantais sicrhau marc ansawdd cyson ar draws pob lleoliad.

Datblygu safonau ansawdd penodol i Abertawe.

Cefnogi a darparu cymhelliad ar gyfer cynlluniau safonol, e.e. cynllun cyn-ysgol cynaliadwy iach.

ALI / partneriaidMawrth 2024Amser swyddogion / partneriaid.Gallu i ddarparu tystiolaeth o arfer da - llesol i rieni / gofalwyr yn ogystal â'r awdurdod lleol.
Angen darparu tystiolaeth o gydymffurfio â'r safonau gofynnol.Ystyried datblygu cytundeb fframwaith i leoliadau lynu ato.ALI / partneriaidMawrth 2024Amser swyddogion / partneriaid.Fframwaith yn ei le.
Angen cynyddu ymwybyddiaeth mewn rolau gofal plant.Gweithdio gyda gofal cymdeithasol Cymru i hyrwyddo'r gwahanol rolau yn y sector.ALI / partneriaidMawrth 2025Amser swyddogion / partneriaidCynyddu ymwybyddiaeth.
Mae'r atgyfeiriadau cyfredol i dîm ADY Blynyddoedd Cynnar Abertawe yn dangos cynydd yn nifer y plant sy'n derbyn cefnogaeth staff, ac mae nifer yr oriau fesul plentyn hefyd wedi cynyddu.Nodi cymwysterau hyfforddi priodol y gallai staff sy'n dymuno cyflawni rôl cefnogi staff eu cyflawni.ALI / partneriaidMawrth 2024Arian grant newydd / sydd eisoes yn bodoliLefel uwch o staff yn gallu cynnig cefnogaeth briodol.
Adran 16: Dadansoddiad o'r bylchau
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Angen sicrhau bod yr holl fylchau a nodwyd yn derbyn sylw.Sicrhau bod gan Gynllun Gweithredu'r asesiad dargedau CAMPUS a monitro ar waith i roi sylw i'r bylchauALIMawrth 2025Amser swyddogion / partneriaidtystiolaeth o gynnydd at ymdrin â'r bylchau a manylion y cynnydd hwnnw.
Nodi partneriaid allweddol a fydd yn cefnogi ymdrin â'r bylchauPartneriaid wedi'u nodi, gan gynnwys cyfathrebu fel sy'n briodol.ALI / partneriaidMawrth 2023Amser swyddogion / partneriaidTystiolaeth o ddull cydweithredol o ymdrin â'r bylchau.
Adran 17: Crynodeb o'r anghenion sydd heb eu diwallu
ManylionGweithreduPwyAmserlenAdnoddauCanlyniad
Angen penderfynu a yw'r anghenion canfyddedig heb eu diwallu yn gywirGwneud gwaith ymchwil ac ymgynghori ychwanegol ynghylch y ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a'r gefnogaeth i ADY.ALIMawrth 2023Amser swyddogion / partneriaid.Nodi a fernir bod dau faes yn angen heb ei ddiwallu ac ymateb yn unol â hynny.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Mehefin 2022