Goresgyn rhwystrau
Mae cyfathrebu clir rhwng partneriaid yn agwedd hanfodol o weithio'n effeithiol mewn partneriaeth.
Mae rhieni'n aml yn rhagdybio sut mae gweithwyr proffesiynol yn gweithio. Gallant gymryd yn ganiataol bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo o fewn yr ysgol a rhwng asiantaethau, a bod yn siomedig i ganfod nad yw hyn wedi digwydd.
Mae materion sy'n ymwneud â chyfathrebu yn hollbwysig a gallant wneud i rieni deimlo'n ddig, yn rhwysterdig, yn ofidus, yn amddiffynnol ac yn flin. Dyma rai sylwadau gan rieni am eu perthynas ag ysgolion:
- 'Rwy'n teimlo'n hapus yn gofyn i'w athrawes am unrhyw broblemau neu bryderon sydd gan fy mhlentyn.'
- 'Rwy'n gallu ffonio neu gysylltu â'r ysgol unrhyw bryd gydag ymholiadau.'
- 'Mae cael apwyntiadau rheolaidd strwythuredig i siarad am gynnydd a phroblemau fy mhlentyn yn help mawr.'
- 'Bod yr ysgol yn canolbwyntio ar gryfderau fy mhlentyn.'
Mae'r sylwadau hyn yn dangos pwysigrwydd cyfathrebu.