Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o fusnesau'n cael eu hannog i wneud cais am gyllid cymorth COVID

Darparwyd dros £2.8m o gymorth ariannol COVID brys i 1,071 o fusnesau ac elusennau yn Abertawe ers i gynllun grant newydd fynd yn fyw yn gynharach y mis hwn.

swansea from the air1

swansea from the air1

Mae'r cynllun, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i redeg gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, elusennau a sefydliadau nid er elw yr effeithiwyd arnynt gan Gymru'n symud i lefel rhybudd dau yn hwyr ym mis Rhagfyr.

Gallai busnesau cymwys yn ogystal â'u cadwyni cyflenwi sy'n gyfrifol am dalu ardrethi annomestig fod â hawl i grantiau o £2,000, £4,000 neu £6,000, gan ddibynnu ar eu gwerth ardrethol.

Mae'r cyngor bellach yn galw ar fusnesau cymwys nad ydynt eisoes wedi gwneud cais i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau sef 5pm dydd Llun 14 Chwefror.

Mae rhagor o wybodaeth, meini prawf cymhwysedd a manylion cofrestru a chyflwyno cais ar gael yn awr yn www.abertawe.gov.uk/GrantiauBusnesArdrethiAnnomestigCovid

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae ein swyddogion eisoes wedi prosesu bron 1,000 o geisiadau llwyddiannus, ond rydym yn annog unrhyw fusnes neu elusen gymwys nad yw wedi gwneud cais eto  i gyflwyno'i ffurflenni cyn i'r dyddiad cau i wneud cais am y cymorth hwn ddod i ben.

"Rydym yn bwriadu prosesu ceisiadau a gwblhawyd yn llawn o fewn saith niwrnod gwaith, er y bydd angen mwy o amser i asesu ceisiadau y mae angen eu gwirio ymhellach neu sy'n gofyn am dystiolaeth ategol.

"Mae'r grant yn un o nifer o ffyrdd y mae'r cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i gefnogi ein busnesau yn ystod yr amserau heriol iawn hyn."

Mae cynllun grant brys bellach ar gael i fusnesau Abertawe yn y sectorau hamdden, twristiaeth, lletygarwch a manwerthu nad ydynt yn talu ardrethi busnes.

Mae cynllun grant y Gronfa Argyfwng Busnes sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i redeg gan Gyngor Abertawe, wedi'i anelu at helpu i gefnogi busnesau y mae cyfyngiadau presennol COVID yn effeithio arnynt nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd.

Mae ceisiadau ar-lein bellach ar agor i'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt rhwng y cyfyngiadau a gyflwynwyd ar gyfer y cyfnod rhwng dydd Llun 13 Rhagfyr a dydd Llun 14 Chwefror, ac maent yn cwmpasu dwy lefel o ddyfarniad grant:

  • Taliad grant o £1,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu, hamdden neu gadwyni cyflenwi cysylltiedig nad ydynt yn cyflogi unrhyw un ar wahân i'r perchennog, ac nad oes ganddynt eiddo
  • Taliad grant o £2,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu, hamdden neu gadwyni cyflenwi cysylltiedig sy'n cyflogi staff drwy gynllun Talu Wrth Ennill (yn ogystal â'r perchennog)

Mae'r grantiau hyn, sydd hefyd yn cefnogi gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol, wedi'u hanelu at gefnogi busnesau a chanddynt drosiant blynyddol o lai nag £85,000.

Gofynnir i fusnesau a all fod yn gymwys fynd i https://fundchecker.businesswales.gov.wales/businesssupport/cy/ lle mae'n rhaid llenwi gwiriwr cymhwysedd Busnes Cymru cyn bod ymgeiswyr yn gallu cyrchu'r ffurflen gais.

Rhaid cyflwyno pob cais ar gyfer y grantiau hyn cyn 5pm dydd Llun 14 Chwefror.

Close Dewis iaith