Toglo gwelededd dewislen symudol

Creu Gwarchodfeydd Natur Lleol newydd: cyfle i ddweud eich dweud

Hoffem i chi ddweud eich dweud ar gynigion i ardystio ardaloedd yn swyddogol fel Gwarchodfeydd Natur Lleol i'w gwarchod yn awr ac yn y dyfodol ar gyfer natur a phobl.

I fod yn gymwys i fod yn Warchodfa Natur Leol, rhaid i safle:

  1. Feddu ar nodweddion naturiol o ddiddordeb lleol arbennig
  2. Cael ei reoli'n gyfreithiol gan yr awdurdod lleol, naill ai drwy berchnogaeth neu gytundeb rheoli gyda'r perchennog tir

Dyma'r 16 safle sy'n cael eu hystyried ar gyfer statws Gwarchodfa Natur Leol:

  1. Brynlliw
  2. Parc Gwledig Dyffryn Clun
  3. Parc Coed Bach
  4. Fferm y Garth
  5. Coridor Bywyd Gwyllt Hillside
  6. Parc a Rhos Llewelyn
  7. Parc Blaendraeth Llwchwr
  8. Cwm Tawe Isaf - Llyn Pluck i Lansamlet
  9. Melin Mynach
  10. Cae ras Pen-lan
  11. Porth Einon
  12. Parc Singleton a Pharc Brynmill
  13. Bae Abertawe
  14. Y Clogwyni - Bae Caswell, Bae Langland i Ben y Mwmbwls ac Ynys y Mwmbwls 
  15. Coetiroedd West Cross a nant Washinghouse
  16. Coed Ynysforgan

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a mapiau ac i ddweud eich dweud ar-lein yn awr

Mae Urban Foundry yn cynnal yr arolwg ar ein rhan

Dyddiad cau: 11.59pm, nos Sul 29 Mawrth 2026

Os bydd angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall, e.e. print bras, e-bostiwch nature.recovery@abertawe.gov.uk

Cadwraeth natur

Mae amrywiaeth fawr o gynefinoedd o fewn Abertawe, sy'n amrywio o glogwyni arfordirol, twyni tywod a morydau i ucheldiroedd, rhosydd a glaswelltiroedd, coetiroedd a gwlyptiroedd.

A-Y o barciau, gwarchodfeydd natur a mannau awyr agored

Mwy o wybodaeth am barciau, gerddi a gwarchodfeydd natur o amgylch Abertawe.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2025