
A-Y o barciau a gwarchodfeydd natur
Mwy o wybodaeth am barciau, gerddi a gwarchodfeydd natur o amgylch Abertawe.
Ardal Amwynderau Bae Langland
Gerllaw traeth deniadol Bae Langland mae cyrtiau tenis, promenâd glan môr ger cytiau traeth sydd wedi eu hadnewyddu'n ddiweddar ac ardal ddymunol o lwyni a seddau.
Ardal Gêmau Amlddefnydd y Blaenymaes
Parc trefol yng nghanol Blaenymaes. Mae'n cynnig gweithgareddau gwych i blant ifanc a phlant hwn.
Ardal Gêmau Amlddefnydd y Clâs
Mae'r tir hamdden hwn yng ngogledd y ddinas mewn ardal tai cymunedol brysur ac mae'n darparu man agored i blant redeg o'i gwmpas.
Ardal Gêmau Amlddefnydd Mayhill
Mae'r parc gweithgareddau bach hwn drws nesaf i ganolfannau cymunedol a hamdden yr ardal.
Ardal Gêmau Amlddefnydd Townhill
Man agored yn Townhill.
Arfordir De Gŵyr, Rhosili i Oxwich
Mae'r darn hwn o arfordir yn doreithiog o fywyd gwyllt a hanes ac yn dirwedd amrywiol a thrawiadol o olygfeydd clogwyni, coetiroedd a thwyni tywod.
Ashlands/Bandfield
Dyma ddau safle, mae Ashlands a Bandfield gyferbyn â'i gilydd. Ceir meysydd pêl-droed a chaeau chwarae.
Bae Abertawe
Mae bywyd gwyllt a nodweddion naturiol a hanesyddol Bae Abertawe'n creu amgylchedd o safon eithriadol i fyw, gweithio a datblygu twristiaeth gynaliadwy ynddo.
Bae Bracelet
Bae Bracelet yw cartref Gorsaf Gwylwyr y Glannau a Goleudy'r Mwmbwls, gyda golygfeydd ar draws Môr Hafren i Ddyfnaint ar ddiwrnod clir.
Blaendraeth Llwchwr
Ardal laswelltog ddymunol yw hon, gyda llawer o goed ac, fel mae'r enw yn ei awgrymu, mae'n agos at Foryd Llwchwr.
Broughton, Hillend a Thwyni Llangynydd
Ardal helaeth o dwyni tywod ar hyd yr arfordir yw hon ac mae'n gynefin i sawl rhywogaeth warchodedig bywyd gwyllt. Mae'n agos at Draeth Llangynydd a Rhos Llangynydd sy'n safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC).
Bryn Llanmadog a Rhos Tankeylake
Mae'r ardal hon ym mhen gorllewinol penrhyn Gŵyr, rhwng pentrefi bach Llanmadog a Cheriton i'r gogledd-ddwyrain a Llangynydd i'r de-orllewin.
Camlas Abertawe
Mae Camlas Abertawe'n goridor gwyrdd deniadol ac yn lle hyfryd i fynd am dro.
Camlas Tennant
Mae camlas Tennant yn 8 milltir o hyd o Bort Tennant, Abertawe i'w chyffordd â Chamlas Nedd yn Aberdulais ac mae'n daith gerdded hyfryd a hamddenol drwy dirweddau heb eu difetha er gwaethaf ei chysylltiadau diwydiannol.
Castell Casllwchwr
Yn y parc bach hwn, sy'n llai na hectar, gellir gweld adfeilion Castell Casllwchwr.
Cefn Bryn
Mae Cefn Bryn yn grib o dir comin, pum milltir o hyd, a adnabyddir yn lleol fel asgwrn cefn Gŵyr. Un o brif atyniadau'r Bryn yw heneb Neolithig fawr o'r enw Maen Ceti, nid nepell o ben y crib.
Clogwyni a Thwyni Pennard (Bae'r Tri Chlogwyn )
Mae Clogwyni Pennard (ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bennaf) yn ddarn o arfordir hardd gwyllt a garw yn ne Gwyr, gyda Bae'r Tri Chlogwyn, sy'n destun poblogaidd mewn ffotograffau, ar un pen, a Bae Pwll Du, sydd yr un mor hardd, ar y pen arall. Mae tua 4 milltir rhwng y ddau.
Clogwyni Langland
Mae'r clogwyni hyn yn estyn o'r dwyrain o Fae Langland i Limeslade.
Clogwyni Newton a Chlogwyni Summerland
Mae'r tir comin 35 hectar hwn ar lethr y clogwyn rhwng Bae Langland a Bae Caswell.
Coed Cwm Penllergaer
Ar gyrion gogleddol Abertawe y mae Coed Cwm Penllergaer sy'n weladwy o draffordd yr M4.
Coed Hendrefoelan
Cymysgedd o goetir llydanddail a phlanhigfa sydd ar ôl ers clirio coedwig wreiddiol y cwm rai degawdau yn ôl i adeiladu'r safle tai a phentref y myfyrwyr gerllaw.
Coed Parc Sgeti
Mae Coed Parc Sgeti'n cwmpasu grŵp o bum coedwig fach leol yn ardal Sgeti yn Abertawe, y mae dwy ohonynt yn hawdd mynd iddynt.
Coed y Melin
Mae Coed y Melin yn ymestyn dros 126 hectar sy'n llydanddail yn bennaf.
Coed y Parc
Coetir poblogaidd yw Coed y Parc (164 hectar) yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr.
Coedwig Chwarel Crymlyn
Coetir dail llydan bach a dôl yw Coedwig Chwarel Crymlyn.
Coedwig y Cocyd
Parc dymunol gyda choed a choetir aeddfed gerllaw safle o bwysigrwydd cadwraeth natur o'r enw Coedwig a Pharc y Cocyd. Coetir derw yw prif nodwedd yr ardal hon heblaw am waelod y dyffryn lle gwelir gwern yn bennaf.
Coedwig Penllergaer
Mae Coedwig Penllergaer, sy'n eiddo i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn ardal gymharol fawr (tua 193 hectar) o goetir, yr ystyrir ei bod o werth gymunedol sylweddol.
Coetir West Cross
Parc coediog canolig ei faint yw hwn gyda nant ddymunol yn rhedeg drwyddo.
Comin Barlands
Comin bach (14.6 hectar) llonydd gyda llwybrau cerdded yn arwain at Gomin Fairwood a Chomin Clun. Mae'n agos at Gomin Barlands ar y B4436.
Comin Clun a Maes Mansel
Dyma ardal helaeth o dir comin (286 hectar) a groesir gan y B4436, gyda datblygiadau West Cross a Mayals ar ffin ddwyreiniol Comin Clun a phentref Murton nesaf i Faes Mansel i'r de-orllewin.
Comin Llangyfelach
Mae ffyrdd mawr yn torri trwy'r comin ychydig i'r gogledd o Gyffordd 46 yr M4 a gerllaw'r safle Parcio a Theithio.
Comin Mynydd Bach
Mae Comin Mynydd Bach ar gyrion trefol Abertawe i'r gogledd o Ysgol Mynydd Bach (Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw), dwy fynwent, tai a ffermdir.
Comin Mynydd Cadle
Mae Comin Mynydd Cadle ar gyrion trefol Penderi.
Comin Pengwern a Chomin Fairwood
Mae Pengwern a Fairwood yn ddwy ardal fawr o dir comin nesaf at ei gilydd (cyfanswm o 157 hectar a 462ha yn eu tro) sy'n cynnwys glaswelltir rhostirol llaith, glaswelltir corsiog a rhedyn a phrysgwydd ar y tir uchel.
Comin Stafford
Mae'r comin hwn yn glytwaith o rostir isel a glaswelltir corsiog. Mae'r gwair ar ran o'r safle'n cael ei dorri'n rheolaidd a cheir rhai meysydd chwaraeon.
Cors Llan-y-tair-mair (Knelston)
Mae Cors Llan-y-tair-mair yn ardal bwysig o borfeydd hesg o ansawdd uchel, wedi'i hamgylchynu gan dir âr a glaswellt wedi'i wella.
Cronfeydd Dŵr Lliw Isaf ac Uchaf
Mae'r cronfeydd dŵr mewn ardal â golygfeydd mynyddig syfrdanol sy'n nodweddiadol o Fawr, i'r gogledd o Abertawe.
Cyfleusterau Chwaraeon Elba
Mae gan y parc gweithgareddau hwn nifer o gyrtiau, caeau a chyfleusterau ar gyfer nifer o chwaraeon awyr agored.
Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Mae Dyffryn Llandeilo Ferwallt (ger pentref Llandeilo Ferwallt), yn ymestyn o Kittle yn y gogledd i Fae Pwll Du yn y de.
Gerddi Argyll
Parc trefol bach gyda choed aeddfed, meinciau, toiledau a gwelyau blodau/llwyni ger y prif safle bws yng Ngorseinon.
Gerddi Botaneg Singleton
Mae'r Gerddi Botaneg yn gartref i un o gasgliadau planhigion pennaf Cymru gyda borderi blodau lliwgar a thai gwydr mawr.
Gerddi Clun
Mae Gerddi Clun yn cynnwys casgliadau cenedlaethol amrywiol o blanhigion mewn parcdir prydferth. Yn enwog yn rhyngwladol am ei chasgliadau ysblennydd o Rododendronau, Pieris ac Enkianthus, mae'r gerddi'n cynnig hafan o lonyddwch, plannu toreithiog a nodweddion diddorol.
Gerddi Southend
Parc cymunedol gwych yn y Mwmbwls. Eisteddwch yn ôl a mwynhau'r olygfa dros Fae Abertawe wrth i'r plant gael hwyl ar y cyfleusterau chwarae gwych.
Gerddi St James
Parc cowrt trefol bach a ffurfiol gyda choed yn eu llawn dwf a seddau.
Glaswelltir Bryn Lliw a Thir Comin Mynydd Lliw
Tir comin yw Mynydd Lliw. Hen domenni rwbel yw'r brif nodwedd ond maent wedi'u gorchuddio â llystyfiant.
Glaswelltir Corsiog y Trallwn gan gynnwys Parc Halfway
Mae Glaswelltir Corsiog y Trallwn yn ardal o oddeutu 23 hectar o laswelltir wedi'i wella a'i wella'n rhannol, planhigfeydd coniffer (Coedwig y Trallwn) gyda datblygiad trefol o amgylch y corstir. Mae Rheilffordd Bro Tawe ar ymyl ogleddol y safle.
Graig y Coed
Mae'r ardal hon yn cynnwys coetir cymunedol newydd sy'n cael ei ddatblygu o dan Brosiect Coetiroedd Gogledd Gŵyr, ynghyd â meysydd chwarae.
Gwaith Brics Dyfnant
Mae safle'r hen waith brics bellach yn goetir llydanddail gyda phwll, dôl, rhostir, brigiadau creigiog ac adfeilion adeiladau'r hen waith brics.
Gwarchodfa Natur Bro Tawe
Mae Gwarchodfa Natur Bro Tawe ym Mro Tawe, maestref yng ngogledd-ddwyrain Abertawe.
Gwarchodfa Natur Leol Bryn y Mwmbwls
Ym 1991, dynodwyd 23 hectar Bryn y Mwmbwls yn Warchodfa Natur Leol (GNL) er mwyn diogelu'r safle i fywyd gwyllt a phobl.
Gwarchodfa Natur Leol Coed Cwmllwyd
Yn bennaf mae'r warchodfa'n cynnwys coed derw sydd tua 100 mlwydd oed a gafodd eu plannu ar ôl cliriad blaenorol.
Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob
Mae Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob yn cynnwys 46 o erwau (19 hectar) o goetir a glaswelltir calchfaen.
Gwarchodfa Natur Leol Cors Cilâ
Mae Cors Cilâ yn ymestyn dros 21.3 erw (8.62 hectar), yn cynnwys mosäig o gynefinoedd ac yn meddu ar rai enghreifftiau rhagorol o lawer o gynefinoedd gwlypdir a ddiogelir ac sydd dan fygythiad.
Gwarchodfa Natur Leol Pwll Du
Mae Gwarchodfa Natur Leol Pwll Du yn cynnwys darn cul o dir gwastad ar ben y clogwyni a'r llethr i lawr i'r creigiau a olchir gan y môr, ac mae'n cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a phlanhigion pwysig.
Gwarchodfa Natur Leol Rhos Cadle
Mae Gwarchodfa Natur Leol Rhos Cadle yn un o'r enghreifftiau gorau o rostir trefol yn y wlad.
Gwarchodfa Natur Leol Twyni Whiteford a Morfa Heli Llanrhidian
Mae Morfa Llanrhidian a Thwyni Whiteford yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn safleoedd arbennig o ran harddwch y dirwedd a'r bywyd gwyllt.
Hardings Down
Mae Hardings Down (sy'n eiddo Llangennith Manors) yn safle rhostir agored ar lethr bryn sy'n ymestyn ar draws oddeutu 65 hectar. I raddau helaeth, nid oedd Hardings Down yn hygyrch tan yn ddiweddar, am fod y rhedyn mor uchel ac mor drwchus.
Leadfield, Ffynnon Deml
Yn wahanol i'r tirlun a ddyluniwyd gerllaw ym Mharc Treforys, mae hon yn ardal fawr o laswelltir (mae merlod yn pori yno ar hyn o bryd) gydag ardal gorsiog sy'n gynefin gwych i amffibiaid fel brogaod, llyffantod a madfallod.
Llethrau Penlan
Amgylchynir llethrau Penlan gan ddatblygiadau trefol Penlan a Brynhyfryd ac yn cynnwys mosaig o rostir sych/laswelltir asidig. Ceir ardaloedd llai sy'n cynnwys prysgwydd yn bennaf a glaswelltir hamdden.
Llethrau Trewyddfa
Mae rhan ogleddol y safle'n cynnwys brith o laswelltir corsiog a phrysgwydd.
Llyn y Fendrod
Mae Llyn y Fendrod yn cynnwys ardal o ryw 13 erw yng nghalon Parc Menter Abertawe.
Llys Nini
Mae Llys Nini yn perthyn i gangen Llys Nini y Gymdeithas Frenhinol Diogelu Anifeiliaid (RSPCA) ac mae'n gartref i ganolfan anifeiliaid.
Mawr/Ucheldir Abertawe
Mae Mawr/Ucheldir Abertawe yn cynnwys Cefn Drum, Graig Fawr, Mynydd y Gopa, Pentwyn Mawr, Mynydd Pysgodlyn, Mynydd y Gwair a thir i'r gogledd-orllewin o Glydach, sef Banc Darren-fawr.
Meysydd Chwarae Brenin Siôr V (Heol y Mwmbwls)
Mae'r safle hwn yn cynnwys meysydd chwarae'n bennaf. Mae coed o gwmpas y terfyn. Mae mynediad agored i'r safle.
Mynydd Bach y Cocs (wedi'i gysylltu â Chomin Fairwood)
Comin 65 hectar yw hwn wedi'i gysylltu gan lwybr troed â Choed Gelli Hir - safle sy'n eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru sy'n ei reoli.
Mynydd Bach Y Glo
Tir comin tua 34 hectar yw hwn, wedi'i groesi gan reilffordd, ac mae'n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd.
Mynydd Cilfái
Mynydd Cilfái, tirnod blaenllaw, sylweddol (3km sgwâr) yn nwyrain Abertawe. Ceir coetir cymunedol yma a reolir gan Wirfoddolwyr Coetir Cymunedol Cilfái, Menter Coedwigaeth Cymru a Dinas a Sir Abertawe.
Mynydd Garn Goch
Safle 182 hectar o faint ar ymyl ystâd ddiwydiannol Penllergaer yw hwn. Mae Heol Tregŵyr (A484), Heol Abertawe (B4620) a Heol yr Ysbyty yn croesi'r safle.
Mynydd Gelliwastad, Comin Rhyddwen a Choed Homelean
Mynydd hir, cul (79.4 hectar) yw Mynydd Gelliwastad sydd â golygfeydd hyfryd o ddwy ochr y cwm.
Mynwent Ystumllwynarth a'r Castell gan gynnwys Coed Peel
Mae'r ardal hon yn cynnwys Coed Peel, y fynwent gan gynnwys safle claddu coetir a thiroedd y castell.
Parc Bonymaen
Mae Parc Bonymaen, yn ardal drefol gogledd ddwyrain Abertawe, yn ganolbwynt i'r gymuned leol. Mae ganddo nifer o gyfleusterau a fydd yn apelio at bob grŵp oed.
Parc Brynmelyn
Noddfa fach Waun Wen ger canol y ddinas
Parc Brynmill
Parc trefol hynod boblogaidd. Yn ogystal â chyfleusterau ardderchog, mae gan y parc ystafell ddosbarth unigryw hefyd, y Ganolfan Ddarganfod.
Parc Bryn Y Don
Yng nghalon cymuned Waun Wen gyda golygfeydd helaeth dros y ddinas, nid yw'n syndod bod preswylwyr lleol yn dwlu ar Barc Bryn-y-Don.
Parc Coed Bach
Mae'r parc yng ngogledd y sir ac yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau gyda chyfarpar da a fydd yn diddanu'r teulu.
Parc a Chaeau Chwarae Cwm Level
Mae coed aeddfed o amgylch perimedr yr ardal laswellt. Mae dau gae pêl-droed ar gael i chi eu llogi, yn ystod y gaeaf yn unig (Medi i Ebrill), ardal chwarae fechan ac ardal laswellt fawr gyferbyn â'r cae pêl-droed, er gall fod yn wlyb iawn.
Parc Coed Gwilym
Mae'r parc yng ngogledd-ddwyrain y sir ac yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae ganddo amrywiaeth ardderchog o gyfleusterau yn ogystal â llwybrau cerdded hardd a gardd flodau.
Parc Cwmbwrla
Mae'r parc mawr agored hwn i'r gogledd o ganol dinas Abertawe yn lle gwych i ymestyn eich coesau a mynd â'r ci am dro.
Parc Cwmdoncyn
Parc hardd yng nghanol y ddinas yw Parc Cwmdoncyn. Gwnaed gwaith adnewyddu sylweddol yn y parc yn ddiweddar, drwy raglen a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Croeso Cymru a Dinas a Sir Abertawe.
Parc Dyfnant
Mae'r parc hwn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, o'r lawnt fowlio i ardal chwarae i blant. Mae'r parc yn darparu lle i aelodau'r gymuned gwrdd, a chwarae.
Parc yr Hafod
Man gwyrdd agored eang gyda chyfleusterau ardderchog ar gyfer plant iau a phlant hŷn. Hefyd, ceir digon o le i fynd â'r ci am dro ac ymestyn eich coesau.
Parc Gwledig Dyffryn Clun
Parc Gwledig Dyffryn Clun yw'r unig barc gwledig yn y ddinas. Mae ei 700 erw yn cynnwys amrywiaeth mawr o dirweddau, o lechweddau agored a choediog, ceunentydd a chwareli serth i ddolydd a gwaelod gwlyb y dyffryn.
Parc Heol Las
Mae gan y parc hwn yn ardal Gellifedw, Abertawe, dir hamdden eang ac ardal chwarae i blant, ac mae'n cynnig cyfleusterau i bobl ifanc yr ardal chwarae, beth bynnag eu diddordebau.
Parc Jersey
Mae gan Barc Jersey amrywiaeth o gyfleusterau. Mae'r parc hwn y tu allan i'r ddinas yn darparu gwasanaeth a werthfawrogir gan gymuned leol St Thomas a Dan-y-Graig.
Parc Llewelyn
Parc cymunedol gwych yn nwyrain y ddinas sy'n cynnig ardal gemau amlddefnydd a lle i gicio pêl.
Parc Melin Mynach
Mae Parc Melin Mynach yn dirwedd o bwys hanesyddol, gyda nodweddion treftadaeth ddiwydiannol.
Parc Pontlliw
Mae'r parc hwn i'r gogledd o'r sir ym mhentref Pontlliw.
Parc Primrose
Parc Primrose yn barc bychan yn Llansamlet.
Parc Ravenhill
Mae gan y parc hwn nifer o nodweddion diddorol gan gynnwys cwrt pêl fasged ac amffitheatr goncrit.
Parc Sglefrio West Cross
Mae Parc Sglefrio West Cross, ar y blaendraeth rhwng Lido Blackpill a West Cross, yn lle diogel i sglefrwyr a'r rhai sy'n reidio beiciau BMX ddod ynghyd ac ymarfer eu sgiliau.
Parc Singleton
Ymweliad hanfodol i deuluoedd o bob oedran. Mae gan Barc Singleton erwau o wyrddni diaddurn syml.
Parc Trefansel
Parc trefol bach lle ceir coed yn eu llawn dwf, ardaloedd glaswellt agored, lle chwarae, meinciau a lawnt fowlio a reolir gan y clwb bowls lleol.
Parc Treforys
Parc ardderchog gydag amrywiaeth o gyfleusterau sy'n apelio i bob oed, o fwydo'r hwyaid i neidiau sglefrio.
Parc Underhill
Mae'r parc hwn yng nghanol y Mwmbwls yn lle perffaith i'r teulu gicio pêl a chwarae neu ymlacio wrth fynd â'r ci am dro.
Parc Victoria
Parc trefol twt a hardd rhwng canol y ddinas a'r Mwmbwls.
Parc Waverley
Parc trefol gyda choetir a chae criced ar gyrion Clydach.
Parc Williams
Mae Parc Williams o fewn pellter cerdded i gastell Casllwchwr ac mae'n cynnig llawer o gyfleusterau ar gyfer nifer o weithgareddau awyr agored.
Parc y Werin
Gyda dwy lawnt fowlio a chae pêl-droed, mae gan Barc y Werin nifer o gyfleusterau gwych i ddenu ymwelwyr o bob oed a'u cadw'n actif.
Parc Ynystawe
Mae gan barc gwyrdd a hyfryd Ynystawe, sydd ger glannau'r afon Tawe, amrywiaeth o gyfleusterau i bobl o bob oed.
Rhodfa Bywyd Gwyllt Hillside gan gynnwys Chwarel Rosehill
Mae Rhodfa Bywyd Gwyllt Hillside yn ardal eang naturiol agored (27 hectar), tua milltir o ganol dinas Abertawe.
Rhos Rhosili a Chlogwyni Rhosili
Mae bae ysgubol Rhosili ar ben pellaf Penrhyn Gŵyr. Gyda sgerbwd llongddrylliad ac ynys lanw Pen Pyrod Rhosili i'w gweld ar lanw isel, y ffordd orau i weld y cyfan yw dilyn llwybr sy'n dringo uwch ben y bae i Gomin Rhosili. Cewch olygfeydd ysblennydd a syfrdanol o'r fan honno.
Ryers Down
Ardal o dir comin 68ha yw Ryers Down (sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a Chanolfan Bywyd Gwyllt Blackpill
Ym 1986 dynodwyd traeth Blackpill yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) er mwyn cydnabod ei bwysigrwydd i adar lleol a mudol sy'n aros yno dros y gaeaf er mwyn adfer eu nerth ar gyfer eu teithiau ar draws y byd o Affrica i'r Ynys Las a gwastatiroedd Rwsia.
Twyni Penmaen a Nicholaston
Mae nifer o olion archeolegol pwysig ar Dwyni Penmaen ac mae'r safle rhwng Bae'r Tri Chlogwyn a Bae Oxwich yn golygu ei fod yn daith gerdded ddeniadol.
Washinghouse Brook (coetiroedd)
Mae'r nant yn rhedeg drwy'r coetir deniadol hwn o dderw a chyll yn bennaf sy'n gartref i adar megis y dylluan frech, y gnocell werdd, llwyd y gwrych, y fronfraith, y llinos werdd, yr eurbinc a choch y berllan.
Welsh Moor a Chomin y Fforest
Mae'r cominau hyn yn fosaig o laswelltir llaith asid a rhostir sychach. Maent yn gominau tawel iawn ar y cyfan, ychydig yn ddiarffordd, wedi'u cuddio gan brysgwydd a choed.
Y Wern a'r Allt
Mae pum darn bach o tir comin ar wahân yn ardal Llanmorlais/Blue Anchor.