Ardal Amwynderau Bae Langland
Gerllaw traeth deniadol Bae Langland mae cyrtiau tenis, promenâd glan môr ger cytiau traeth sydd wedi eu hadnewyddu'n ddiweddar ac ardal ddymunol o lwyni a seddau.
Mae llwybrau troed yn arwain i'r safle ac oddi yno, a cheir taith gerdded arfordirol pleserus a hawdd i Fae Caswell drwy Glogwyni Langland.
Uchafbwyntiau
Mae golygfeydd o'r môr/arfordirol yn arbennig o bleserus. Mae fflora'r arfordir yn arbennig o ddiddorol drwy gydol y tymhorau.
Cyfleusterau
- Mae'r cyrtiau tenis am ddim ac ar agor i'w defnyddio yn ystod misoedd y gaeaf (mis Hydref i fis Mawrth) ond codir tâl a rhaid cadw lle yn ystod yr haf (mis Ebill i fis Medi). I gadw cwrt, ffoniwch 01792 635411.
- Toiledau Cyhoeddus
- Caffi/bwyty
- Maes parcio
Gwybodaeth am fynediad
Heol Bae Langland, Gŵyr, Abertawe SA3 4QP
Llwybrau troed
Gweler Map Explorer yr AO 165 Abertawe.
Ceir
Heol i Fae Langland oddi ar y B4593. Meysydd parcio ar y safle.