Toglo gwelededd dewislen symudol

Castell Casllwchwr

Yn y parc bach hwn, sy'n llai na hectar, gellir gweld adfeilion Castell Casllwchwr.

Dewiswyd ei safle am resymau strategol yn y 13eg/14eg ganrif i edrych dros y rhan isaf o afon Llwchwr y gellir ei rhydio, sef prif lwybr trafnidiaeth ar draws de Cymru.

Cyn adeiladu Castell Casllwchwr safai castell cylchfur pridd ar y safle, sef man uchaf caer Rufeinig Leucarum. Er bod y castell ar fryn bach, mae'n anodd ei weld gan ei fod wedi'i amgylchynu gan dai heddiw ac mae ger cyffordd yr A4240 (Stryd y Castell) a'r A484. Mae'r castell yn agos Parc Williams yng Nghasllwchwr.

Cyfleusterau

  • Siopau, tafarnau a bwytai'n agos iawn (pellter cerdded) yng Nghasllwchwr.

Gwybodaeth am fynediad

Stryd y Castell, Casllwchwr, Abertawe SA4 6TS
Cyfeirnod Grid SS565979
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Mynediad oddi ar Stryd y Castell yng Nghasllwchwr - mae mynediad i'r safle'n hwylus.

Beicio

Mae llwybr beicio 4 yn rhedeg ar hyd y safle.

Close Dewis iaith