Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc Williams

Mae Parc Williams o fewn pellter cerdded i gastell Casllwchwr ac mae'n cynnig llawer o gyfleusterau ar gyfer nifer o weithgareddau awyr agored.

O gyrtiau tenis i'r lawnt fowlio, mae gan y parc hwn y modd i gadw plant ac oedolion yn actif.

Cyfleusterau

  • Ardal chwarae i blant
  • Cwrt tenis
  • Meysydd pêl-droed
  • Lawnt fowlio
  • Ardal Gêmau Amlddefnydd
  • Ramp BMX a sglefyrddio

Cyfarwyddiadau 

Ewch tuag at Bont Casllwchwr ar yr A484, trowch i'r dde wrth y gylchfan cyn y bont i Stryd y Castell. Mae'r fynedfa ar yr ochr dde.

Côd Post - SA4 6TU

Close Dewis iaith