Toglo gwelededd dewislen symudol

Clogwyni Langland

Mae'r clogwyni hyn yn estyn o'r dwyrain o Fae Langland i Limeslade.

Ceir llwybrau troed ar hyd y clogwyni gyda golygfeydd pleserus a bywyd gwyllt diddorol yn y darnau o laswelltir calchaidd a rhos. Mae'r ardal hon yn agos i Warchodfa Natur Leol Bryn y Mwmbwls.

Uchafbwyntiau

Cadwch lygad am adar megis y llwydfron, y llinos a chlochdar y cerrig. Mae'r clogwyni hefyd yn gynefin addas i'r wiber, y ddallneidr a'r fadfall, y mae pob un ohonynt yn rhywogaethau a warchodir.

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN Bae Langland i Ben y Mwmbwls)

Cyfleusterau

  • Caffi/bwyty ym Mae Langland
  • Maes parcio (talu ac arddangos) ym Mae Langland a Limeslade
  • Caffi yn Limeslade

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS618870
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Gellir cyrraedd y clogwyni ar hyd llwybr troed o Langland, Thistleboon (y Mwmbwls) a Limeslade.

Llwybrau troed

Ceir llwybrau traed ar hyd y clogwyni rhwng Langland a Limeslade.

Ceir

Parcio ym Mae Langland a Limeslade, talu ac arddangos yn y ddau.

Bysus

Mae'r safleoedd bws agosaf yn Limeslade neu ar ben Heol Langland.

Close Dewis iaith