Toglo gwelededd dewislen symudol

Clogwyni a Thwyni Pennard (Bae'r Tri Chlogwyn)

Mae Clogwyni Pennard (ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bennaf) yn ddarn o arfordir hardd gwyllt a garw yn ne Gwyr, gyda Bae'r Tri Chlogwyn, sy'n destun poblogaidd mewn ffotograffau, ar un pen, a Bae Pwll Du, sydd yr un mor hardd, ar y pen arall. Mae tua 4 milltir rhwng y ddau.

Mae Clogwyni Pennard yn dir comin sy'n golygu bod gan gominwyr (ffermwyr lleol yn bennaf) yr hawl i roi eu gwartheg i bori yno. Mae ochrau'r clogwyni'n bwysig iawn ar gyfer bywyd gwyllt megis planhigion alpaidd prin, gan gynnwys llysiau'r bystwn melyn (blodyn sir Abertawe) ac adar nythu sy'n cynnwys y gigfran a'r frân goesgoch. Mae Twyni Pennard y tu ôl i'r clogwyni lle mae Cwrs Golff Pennard.

Mae Castell Pennard ar ymyl y cwrs golff a chafodd ei adeiladu rhwng y 12fed a'r 14eg ganrif gan Henry de Beaumont, Iarll cyntaf Warwick, yn ôl pob tebyg. Ymysg y nodweddion hanesyddol eraill ar y clogwyni y mae olion Gwersyll Uwch Pennard a oedd yn fryngaer arfordirol o oes yr haearn - un ymhlith llawer ar hyd arfordir Gŵyr. Yr unig olion gweladwy yw'r twmpathau isel a'r ffosydd yn y tir a fu unwaith yn sylfaen i amddiffynfeydd y gaer.

Uchafbwyntiau

Mae golygfeydd gwych ar draws y dwr i arfordir gogledd Dyfnaint ar ddiwrnod clir ac ar hyd arfordir de Gŵyr.

Dynodiadau

  • Tir comin
  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Mae'n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) Gŵyr
  • Arfordir Treftadaeth
  • Henebion Cofrestredig (SAM) - Castell ac Eglwys Pennard (AM008) a Gwersyll Uwch Pennard (AM009)

Mae'n rhan o:

  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr (AoHNE)
  • Tirwedd Gorllewin Gŵyr sydd wedi'i chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (CCGC/CADW: Henebion Hanesyddol Cymru/ICOMOS UK 1998, 53-56)

Cyfleusterau

  • Maes parcio Southgate (eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda thâl ar adegau prysur)
  • Toiledau cyhoeddus y drws nesaf i'r caffi yn Southgate
  • Caffi Three Cliffs yn Southgate

Hygyrchedd

Mynediad rhannol yn bosib i gadeiriau olwyn/cadeiriau gwthio ar hyd ffordd fach sy'n mynd ar hyd y clogwyni o Southgate i Bae Pwll Du ac am ychydig ar hyd y ffordd fynediad o Southgate i gyfeiriad Bae'r Tri Chlogwyn.

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS547884
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Gellir cael mynediad i'r safle am ddim er y croesewir cyfraniadau i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn iddynt barhau i gyflawni gwaith rheoli ar y safle hwn.

Y mynediad hawsaf i Glogwyni Pennard yw o Southgate lle ceir maes parcio, safle bws a chyfleusterau.

Llwybrau troed

Mae llwybrau troed ar hyd y clogwyni a thrwy'r twyni. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cynhyrchu taflenni dwy daith gerdded hunandywys sy'n cwmpasu clogwyni dwyrain a gorllewin Pennard ac maent ar gael yng Nghanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, siopau lleol.

Ceir

Dilynwch y B4426 o Abertawe yna'r arwyddion i Bennard a Southgate lle mae'r heol yn dod i ben ac mae maes parcio gerllaw.

Bysus

Mae bysus rheolaidd yn teithio o Abertawe i Southgate sydd ger Clogwyni Pennard a Chaffi'r Three Cliffs.

Llwybrau ceffyl

Mae rhai llwybrau ceffyl ar hyd y clogwyni.

Sylwer: Dylid cadw cwn o dan reolaeth gadarn bob amser rhag iddynt darfu ar fywyd gwyllt a defaid a gwartheg sy'n pori ar ben y clogwyni.

Close Dewis iaith