Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwarchodfa Natur Leol Pwll Du

Mae Gwarchodfa Natur Leol Pwll Du yn cynnwys darn cul o dir gwastad ar ben y clogwyni a'r llethr i lawr i'r creigiau a olchir gan y môr, ac mae'n cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a phlanhigion pwysig.

Mae'r cynefinoedd yn cynnwys glaswelltir calchfaen, clogwyni arforol a phrysgwydd.

Rheolir y warchodfa natur fel rhan o gynllun Tir Cymen Cyngor Cefn Gwlad Cymru, cynllun fferm cyfan amaeth-amgylcheddol sydd ar gael ar draws Cymru. Mae'n ceisio annog arferion amaethyddol sy'n gwarchod ac yn gwella tirweddau Cymru, eu nodweddion diwylliannol a'r bywyd gwyllt cysylltiedig.

Mae pori a rheoli'r prysgwydd a rhedyn yn cynnal cynefinoedd y glaswelltir. Mae'n helpu i gyflawni targedau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU a hefyd yn dangos egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ymarferol.

Close Dewis iaith