Chwilio'r wefan
English

Hardings Down

Mae Hardings Down (sy'n eiddo Llangennith Manors) yn safle rhostir agored ar lethr bryn sy'n ymestyn ar draws oddeutu 65 hectar. I raddau helaeth, nid oedd Hardings Down yn hygyrch tan yn ddiweddar, am fod y rhedyn mor uchel ac mor drwchus.

Defnyddiwyd dulliau mecanyddol i reoli'r rhedyn, gan ganiatáu i amrywiaeth eang o fflora a ffawna'r rhostir ffynnu unwaith eto. Mae rheoli'r rhedyn hefyd wedi cynyddu'r tir pori ar gyfer da byw'r cominwyr.

Ar Hardings Down gellir gweld olion tair bryngaer o'r Oes Haearn y bu pobl yn byw ynddynt oddeutu 2000 o flynyddoedd yn ôl. Os byddwch yn ymweld â'r safle, cadwch lygad am y cloddiau glaswelltog, sef yr hen amddiffynfeydd a oedd unwaith yn amgylchynu ac yn amddiffyn ardal fewnol y gaer.

Uchafbwyntiau

Gellir gweld nodweddion o ddiddordeb archeolegol sylweddol ar y safle gan gynnwys:

  • carnedd o'r Oes Efydd
  • tair bryngaer o'r Oes Haearn (pob un yn heneb gofrestredig)
  • Maen hir y mae ei oedran yn anhysbys

Cadwch lygad am yr ehedydd, y llinos a'r ysgyfarnog frown. Mae'r safle hefyd yn gynefin pwysig y dylluan wen.

Cyfleusterau

  • Y lle agosaf i gael lluniaeth yw tafarn y King's Head yn Llangynydd

Dynodiadau

  • Henebion cofrestredig ar y safle
  • Tir Comin

Mae Hardings Down yn rhan o:

  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) 
  • tirwedd Gorllewin Gŵyr sydd wedi'i chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (CCGC/CADW: Henebion Cymru/ICOMOS UK 1998, 53-56)

Gwybodaeth am fynediad

Ger Llangynydd, Gŵyr 
Cyfeirnod Grid SS436908
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau cerdded
Mae sawl hawl tramwy yn croesi'r safle.

Ceir
Nid oes maes parcio swyddogol ar y safle. Mae'r mynediad agosaf ar gyfer ceir o Upper Hardingsdown, oddi ar y brif heol i Langynydd.

Bysus
Mae'r safle bws agosaf ger tafarn y King's Head yn Llangynydd neu ar waelod y lôn (i'r dwyrain o Langynydd) sy'n mynd i Upper Hardingsdown.

Llwybrau ceffyl
Ceir sawl llwybr ceffyl o gwmpas y safle. Gweler Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM