Toglo gwelededd dewislen symudol

Coed Parc Sgeti

Mae Coed Parc Sgeti'n cwmpasu grŵp o bum coedwig fach leol yn ardal Sgeti yn Abertawe, y mae dwy ohonynt yn hawdd mynd iddynt.

Clôs y Fedwen (Birch Tree Close) - cyfeirnod grid SS620925

Dyma'r mwyaf o'r 5 safle, sydd â choed llydanddail a chonwydd. Ffawydd yn bennaf sydd yn rhan isaf y safle, gyda rhai coed derw, celyn ac yw. Coed helyg ac ynn sydd yn rhan uchaf y safle yn bennaf. Mae llawer o bren marw ar y safle sy'n gynefin ardderchog i bryfed a ffwng. Mae rhai ardaloedd gwlyb ar y tir, ac mae nant yn llifo drwy'r rhan fwyaf o'r safle. Mae llwybr newydd wedi'i greu drwy'r coetir.

Parklands - cyfeirnod grid SS15925

Ardal agored o barcdir derw nesaf at yr ysgol gynradd. Mae llwybr a mainc yno, peth pren marw a hen goed derw, pwll bach tymhorol, ardaloedd o glychau'r gog a pheth prysgwydd. Mae un goeden afalau ac ychydig o goed ffawydd wedi'u plannu.

Gwybodaeth am fynediad

Er mwyn mynd i goed Clôs y Fedwen, dilynwch y llwybr troed oddi ar Glôs y Fedwen ger y nant.

Mynediad i Parklands oddi ar Heol y Felin Newydd.

Llwybrau troed

Mae llwybrau troed drwy'r ddau goetir.

Close Dewis iaith